Cyflwyno
adroddiad yr Ymchwiliad Craffu.
Penderfyniad:
(i) Cymeradwyo adroddiad Ymchwiliad
Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd.
(ii) Derbyn diweddariad gan yr Aelod
Cabinet ar weithrediad fesul argymhelliad yng nghyfarfod 21 Mawrth, 2024.
(iii) Derbyn bod yr hyn a gyflawnwyd gan
yr ymchwiliad yn ateb y gofyn o ran y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Rhys Tudur i’r Cyngor llawn ar 4 Mai, 2023.
Cofnod:
Croesawyd yr
Aelod Cabinet Addysg, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau
Corfforaethol, y Pennaeth Cynorthwyol: Uwchradd a’r Pennaeth Cyfundrefn Addysg
Drochi Gwynedd i’r cyfarfod.
Cyflwynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y
Cynghorydd Paul Rowlinson, adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion
Uwchradd Categori 3 Gwynedd a gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor craffu ystyried y
cynnwys, gwneud sylwadau a gofyn unrhyw gwestiynau perthnasol, gan gynnig unrhyw
welliannau a chymeradwyo’r adroddiad.
Awgrymodd Cadeirydd yr Ymchwiliad na ddylid
trafod yr adran ar GwE mewn manylder, gan y deellid bod GwE
yn anghytuno gyda rhai o’r materion a nodwyd, ond pwysleisiwyd bod Argymhelliad
17 yn gofyn am drafodaeth bellach yn unig rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE.
Diolchodd Cadeirydd yr Ymchwiliad i’r Tîm
Ymchwilio, ac yn enwedig y Swyddog Arweiniol, am eu gwaith, ac i staff,
disgyblion a llywodraethwyr y 3 ysgol am roi o’u hamser i gyflwyno’r
dystiolaeth.
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Ymchwiliad
am eu gwaith. Yna gwahoddwyd yr aelodau
i ofyn cwestiynau, cynnig sylwadau, neu gynnig gwelliannau i’r adroddiad.
Diolchwyd yn arbennig i ddisgyblion yr
ysgolion am eu parodrwydd i siarad yn hynod agored gydag aelodau’r
Ymchwiliad.
Pwysleisiwyd bod angen rhoi mwy o gefnogaeth
i sefydliadau sy’n helpu plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg yn gymdeithasol,
megis Ffermwyr Ifanc a’r Urdd, a’u cyflwyno mewn modd positif yn yr
ysgolion. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
colli ei glybiau ieuenctid a bod angen gweld pa gyfleoedd cymdeithasol sydd ar
gael i annog y defnydd o’r Gymraeg.
Awgrymwyd bod y ffigurau yn Atodiad 5 yn
ymddangos yn anhygoel o dda, a holwyd o ble y cafwyd y data. Mewn ymateb, eglurwyd bod y data yn cael ei
gyflwyno i’r Awdurdod gan yr ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ar yr un mater, cadarnhawyd nad oedd
aelodau’r Ymchwiliad wedi herio’r ffigurau mewn unrhyw fanylder, a’u bod wedi
derbyn y data a gyflwynwyd gan yr ysgolion.
Mynegwyd pryder nad oedd y 3 ysgol a
ddewiswyd yn rhoi darlun o’r sefyllfa yn holl ysgolion Gwynedd, gan fod y 3
ohonynt mewn cymunedau cynhennid Gymreig ar y cyfan, ac awgrymwyd bod yna
ysgolion eraill yng Ngwynedd fyddai wedi adlewyrchu sefyllfa wahanol iawn.
Mynegwyd pryder ynglŷn â gallu rhieni i
wrthod addysg Gymraeg i’w plant, a thrwy hynny amddifadu eu plant o’r cyfle i
gael gyrfa dda a byw yn yr ardal yn y dyfodol.
Nodwyd hefyd y daeth yn amlwg yn ystod yr Ymchwiliad bod yr ysgolion dan
bwysau mawr i gynnig darpariaeth Saesneg, gan fod rhieni yn bygwth symud eu
plant i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn (sy’n ysgolion
categori 3T) fel arall. Credid bod angen
edrych yn fanylach ar y dylanwad yma ac effaith yr opsiwn o fynd i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn ar ysgolion eraill Gwynedd. Mynegwyd tristwch nad oedd gan rai rhieni a
disgyblion hyder yn ein hiaith, ac awgrymwyd ei bod yn hen bryd i’r Awdurdod
Addysg, yr ysgolion a’r penaethiaid wneud safiad cryf iawn a gwrthod i rieni
symud eu plant i’r ysgolion categori 3T, a mynnu bod y Gymraeg yn ddigon yn ein
hysgolion fel cyfrwng. Awgrymwyd hefyd y
gallai fod yn haws i’r ysgolion wrthod ceisiadau gan rieni i symud eu plant
petai hyn yn cael ei werthu fel polisi’r Awdurdod, yn hytrach na pholisi’r
ysgol.
O ran y rhieni hynny sy’n gwrthod addysg
Gymraeg i’w plant, holwyd pa ddarpariaeth fforddiadwy a hygyrch sydd ar gael
iddynt ddysgu’r iaith eu hunain, fel nad ydi’r broblem yn codi yn y
dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
O
ran y rhieni sydd wedi ymrwymo i’w plant fynd i’r canolfannau i hwyrddyfodiaid,
bod yna diwtor Cymraeg i Oedolion yn bresennol ymhob bore agored er mwyn dangos
yr arlwy sydd ar gael ar gyfer dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb i rieni, ynghyd
â’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer helpu gyda’r plant.
·
Bod
y trefniadau hyn yn rhedeg ers dros flwyddyn a hanner bellach a bod nifer wedi
cofrestru am wersi Cymraeg ar y cyd â’u plant.
·
Bod
y Gwasanaeth yn trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb a chyfarfod rhithiol gyda Hunaniaith i hyrwyddo digwyddiadau cymdeithasol yn y
gwahanol ardaloedd er mwyn annog rhieni i fanteisio ar gyfleoedd i ymarfer eu
Cymraeg gyda’u plant.
Nodwyd ei bod yn galonogol gweld a theimlo
ymrwymiad y staff a’r disgyblion i addysg cyfrwng Cymraeg a bod hynny’n rhoi
rheswm i fod yn optimistaidd am y dyfodol.
Nodwyd y dylid nodi parch ac edmygedd yr
aelodau o ddiffuantrwydd y mwyafrif llethol o staff yr ysgolion, a swyddogion y
Cyngor, sy’n ymrwymo i geisio cael y plant yn hollol ddwyieithog. Os oedd unrhyw un yn cwyno am unrhyw beth,
doedd neb yn cwyno am unigolion yn sicr, ond o bosib’ bod yna ambell system,
weithiau o fewn ein dwylo ac weithiau y tu allan i’n dwylo, sy’n ein gadael i
lawr.
Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi’r argraff
bod popeth ar drac o ran y data, ond hefyd yn amlygu nifer o broblemau,
anecdotaidd o bosib’ ar hyn o bryd, ac efallai bod angen mwy o ddata a
ffeithiau caled, yn hytrach na hanesion yn unig.
Mynegwyd y farn bod angen cryfhau ambell
argymhelliad, ee. y Polisi Iaith. Credid
bod sôn am ddwyieithrwydd yn agor y drws i amwysedd mawr, ac os oeddem o blaid
addysg Gymraeg, yna addysg Gymraeg amdani, gyda’r Saesneg yn cael ei dysgu fel
pwnc i’r safon uchaf bosib’. Fel arall,
roeddem yn agor y drws i’r cwynion a’r ceisiadau. O ran y data ynglŷn â’r ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg, pwysleisiwyd y dylai hynny fod yn eitem sefydlog ar raglen pob
cyfarfod o’r Fforwm Penaethiaid Uwchradd, yn hytrach na’n bod yn gwneud cais i
hynny ddigwydd unwaith y flwyddyn, fel y nodir yn yr argymhellion.
Nodwyd bod angen cryfhau’r cydweithio gydag
asiantaethau yn yr argymhellion. Roedd
sôn am Gwricwlwm i Gymru, GwE a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond beth am Yrfa
Cymru?
Nodwyd na welwyd unrhyw ddata ynglŷn â
faint o hwyr-ddyfodiaid sy’n dod i mewn i’r ysgolion uwchradd ym mlwyddyn 10
neu 11, ac felly heb fynychu’r canolfannau iaith. Awgrymwyd bod angen astudiaeth ar wahân ar
hynny, yn edrych ar ddulliau o gynnwys y bobl ifanc ac o ddarparu cymorth
ychwanegol ar eu cyfer, megis hanner awr o drochi Cymraeg ar ddechrau pob
diwrnod ysgol.
Nodwyd bod raid cofio mai ond hyn a hyn y
gall yr ysgolion ei wneud yn yr hinsawdd ariannol bresennol, ond bod ein hiaith
yn dioddef oherwydd llymder a thorri cyllidebau yn San Steffan.
Nodwyd bod y data yn awgrymu bod rhieni a
dysgwyr yn dymuno newid cyfrwng iaith addysg o’r Gymraeg i’r Saesneg wrth i’r
dysgwyr agosáu at TGAU a Lefel A, a holwyd, yn ogystal â’r ymgyrch farchnata ar
gyfer rhieni’r plant sy’n cyrraedd yr ysgolion, a fyddai hefyd yn fuddiol
cynnal ymgyrch ar wahân ar gyfer y dysgwyr eu hunain. Gellid cynnal ymgyrch o’r fath ar y cyd â
phartneriaid allweddol megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Gyrfa Cymru, gan
annog y dysgwyr i ddilyn eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg drwy wneud y cyswllt
rhwng y Gymraeg a swyddi sy’n talu’n well.
Gellid hefyd edrych ar enghreifftiau o lwyddiannau e.e. unigolion o
aelwydydd di-gymraeg sydd bellach yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i roi ei hymateb
i brif ganfyddiadau ac argymhellion yr Ymchwiliad, a gofynnwyd iddi gadarnhau a
oedd yn derbyn yr argymhellion ai peidio.
Nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Bod
y drafodaeth a’r adroddiad yn hynod werthfawr, ac y dymunai ategu’r diolch i
aelodau’r Ymchwiliad a’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan.
·
Bod
yna lawer o bethau calonogol iawn yn yr adroddiad, yn ogystal â phethau sydd
angen edrych arnynt ymhellach.
·
Bod
yna groesdorri amlwg mewn mannau gyda’r Strategaeth
Addysg a’r gwaith sydd angen ei wneud ar y Polisi Iaith Addysg, a bod hyn am fod
yn ddefnyddiol iawn gan y byddai’n taflu goleuni ar ambell ddarn o waith arall
lle mae modd tynnu pethau at ei gilydd.
·
Y
croesawid y cyfeirio at y cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg, a bod
yr ysgolion yn rhan o’u cymunedau, yn hytrach nag yn bodoli mewn swigen.
·
Bod
y cyfeiriad at ddiffinio dwyieithrwydd yn hynod o bwysig gan fod y ffordd mae
Gwynedd yn gweithredu yn wahanol iawn, ac efallai bod yna ddiffyg dealltwriaeth
o hynny gan rai unigolion / sefydliadau.
·
Ei
bod yn teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â’r gwaith i gefnogi’r ysgolion
trosiannol, ac yn croesawu’n fawr unrhyw beth sy’n gwthio hynny yn ei flaen.
·
Bod
unrhyw symudiad i gryfhau’r dull o gasglu data yn mynd i helpu’r Awdurdod
gyda’i waith strategol.
·
Bod
y cyfeiriad at hyrwyddo’r cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwersi Cymraeg
am ddim ar gyfer athrawon sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg yn alwad
pwysig iawn.
·
Ei
bod yn croesawu’r ffaith bod yna rieni hwyrddyfodiaid sy’n dewis dysgu Cymraeg
ochr yn ochr â’u plant gan fod hynny’n gallu newid holl siâp ieithyddol teulu.
·
Ei
bod yn hynod angerddol dros unrhyw beth sy’n cryfhau’r cyfleoedd i bobl gaffael
iaith, ac yn croesawu’r sawl cyfeiriad at hynny yn y gwaith.
I gloi, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei bod
yn derbyn argymhellion yr Ymchwiliad mewn egwyddor ac yn dymuno mynd â’r
adroddiad i’r Cabinet am drafodaeth oherwydd y croesdorri
gyda’r Strategaeth Addysg a’r Polisi Iaith Addysg, a’r angen tebygol am adnodd
i wireddu rhai darnau gwaith, megis cryfhau’r ddarpariaeth / cefnogaeth
ieithyddol i hwyrddyfodiaid sydd yn ymuno ym mlwyddyn 10 neu 11.
Wedi i’r pwyllgor gymeradwyo’r adroddiad yn
ffurfiol, gan hefyd benderfynu derbyn diweddariad gan yr Aelod Cabinet ar weithrediad
fesul argymhelliad yng nghyfarfod 21 Mawrth, 2024, nododd y Cadeirydd:-
·
Yn
ystod cyfnod yr Ymchwiliad, y mabwysiadodd y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 4
Mai, 2023, y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rhys
Tudur:-
Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro
gweithrediad y ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn
effeithiol o fewn ein hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
roi ystyriaeth i’r modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng
Gymraeg ymhob ysgol uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r
ysgolion ynddynt.
·
Gan
ystyried gwaith yr Ymchwiliad, ac yn benodol Argymhellion 1 a 2, bod angen i’r
pwyllgor ddod i gasgliad os oes gwaith pellach i’w wneud, neu os yw’r hyn a
gyflwynwyd gan yr Ymchwiliad yn ateb y gofyn.
Gan fod yr hyn y gofynnwyd amdano yn y
rhybudd o gynnig yn derbyn sylw drwy argymhellion yr Ymchwiliad, a bod yr Aelod
Cabinet a’r Adran yn cymryd ystyriaeth a fydd yna weithrediad, cytunwyd nad oedd
gwaith pellach i’r pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r rhybudd o
gynnig.
PENDERFYNWYD
(i)
Cymeradwyo adroddiad
Ymchwiliad Craffu Ysgolion Categori 3 Gwynedd.
(ii) Derbyn diweddariad gan yr Aelod Cabinet ar weithrediad fesul
argymhelliad yng nghyfarfod 21 Mawrth, 2024.
(iii) Derbyn bod yr hyn a gyflawnwyd gan yr Ymchwiliad yn ateb y
gofyn o ran y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rhys Tudur i’r
Cyngor llawn ar 4 Mai, 2023.
Dogfennau ategol: