Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd yn ychwanegol i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais aelodau’r pwyllgor, a gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth ac amcanion yr Adran Addysg a nodir yn y Strategaeth Addysg ddrafft tuag at 2023 a thu hwnt, gan hefyd gyflwyno sylwadau ar yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a Llesiant.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

O ran y sylw yn yr adroddiad bod y ddogfen yn un fyw y byddai modd ymweld â hi yn gyson dros gyfnod y Strategaeth, holwyd pa mor hwylus, a beth fyddai’r amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw newidiadau, oherwydd petai’n fater o flynyddoedd, neu’n fater o fisoedd hyd yn oed, ni ellid ei galw’n ddogfen fyw mewn gwirionedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu yn fewnol yn rheolaidd.

·         Gan fod addysg yn faes lle mae polisïau’n gallu newid yn eithaf cyflym mewn gwahanol feysydd, byddai’r Adran yn ymateb yn gadarnhaol i unrhyw newid drwy fod y ddogfen yn esblygu a newid yn ôl yr angen.

 

Nodwyd nad oedd llawer o sôn am anghenion dysgu ychwanegol yn yr adroddiad, ac eithrio cyfeiriad at y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, a mynegwyd pryder ynglŷn â 3 mater penodol, sef:-

 

·         Strategaeth addysg Gwynedd ar ADY yn y prif lif am y 10 mlynedd nesaf.

·         Gorlenwi yn y ddwy ysgol ADY yng Ngwynedd. 

·         Y nifer o blant yn y prif lif sy’n methu ymdopi â system addysg prif lif.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y Strategaeth Addysg yn strategaeth addysg lefel uchel ar gyfer holl blant y sir a bod y sylw ynglŷn â phlant addysg arbennig sydd ag anghenion ychwanegol a chynhwysiad ymhlyg yn Amcan 3 – iechyd a lles dysgwyr, sy’n cyfeirio at yr holl ddysgwyr.

·         Bod y Strategaeth hefyd yn cyfeirio at y ddyletswydd sydd gan yr Awdurdod i adolygu’r stoc ysgolion yng nghyd-destun ysgolion arbennig, petai angen gwneud hynny.

·         O dan y strategaeth lefel uchel, bod gan yr Awdurdod Strategaeth Moderneiddio Ysgolion ar gyfer Band C fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o law.

·         Bod yna nifer o bolisïau a strategaethau yn yr haenau o dan y strategaeth lefel uchel, ac yno y byddai’r manylder.

 

Mynegwyd y farn nad oedd y Strategaeth, o bosib’, yn ystyried gwaith yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Categori 3 Gwynedd (eitem 6 uchod), gan y bu i aelodau’r Ymchwiliad bwysleisio’r trafferthion sy’n codi yn sgil y pwyslais ar ddwyieithrwydd.  Nodwyd mai ail amcan y Strategaeth oedd ‘Ehangu a chryfhau ein darpariaeth Gymraeg a dwyieithog’, ond na allai ‘dwyieithog’ olygu unrhyw beth heblaw darpariaeth Saesneg yn y cyd-destun hwn, gan fod y Gymraeg eisoes wedi’i chyfarch o fewn yr amcan.  Gan hynny, argymhellwyd y dylid ail-edrych ar y Strategaeth Addysg yng ngoleuni adroddiad yr Ymchwiliad craffu, ac yn benodol o ran sut yr ymdrinnir â dwyieithrwydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod hyn yn enghraifft wych o sut mae’r Strategaeth yn ddogfen fyw ac yn esblygu.

·         Bod yr amcan yng nghyd-destun y Gymraeg a dwyieithrwydd yn adlewyrchiad o’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.

·         Bod ymrwymiad eisoes i adolygu’r Polisi Iaith Addysg, ac y byddai ffrwyth hynny wedyn yn bwydo i mewn i’r ddogfen hon.

 

Awgrymwyd y byddai dileu pob enghraifft o ‘ddwyieithrwydd’ a ‘dwyieithog’ o’r ddogfen yn ffordd hwylus o sicrhau bod y ddogfen yn dweud yr hyn y disgwylir iddi ei wneud ac yn cyd-redeg â rhai o amcanion a strategaethau eraill y Cyngor.

 

Nodwyd mai un o’r gwerthoedd sy’n cael ei nodi yn y colofnau ar ail dudalen y ddogfen, fel sail i’r ffordd y byddwn yn mynd ati i siapio’r gyfundrefn addysg yng Ngwynedd i’r dyfodol, yw paratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith.  Er bod hynny’n glodwiw iawn ac yn ddisgwyliedig, dymunid gweld cyfeiriad yma hefyd at baratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn ddinasyddion.  Mewn ymateb, nodwyd y croesawid y sylw yn fawr iawn, a’i fod ymhlyg, mae’n debyg, yn y golofn gyntaf o ran y cwricwlwm a phrofiadau dysgu, ond y cytunid y dylai fod yn fwy eglur yn y ddogfen.

 

Holwyd a fyddai’n bosib’ tynnu’r cyfeiriadau at ‘ddwyieithrwydd’ a ‘dwyieithog’ o’r amcanion yn yr adroddiad, gan ei bod yn amlwg mai’r nod yw cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg.

 

Nodwyd nad oedd yna lawer o gyfeiriad yn y Strategaeth at ymateb i’r newid mewn demograffeg, er i’r Aelod Cabinet nodi, mewn ymateb i gwestiwn diweddar yn y Cyngor llawn, bod y Strategaeth yn nodi sut y byddem yn datblygu’r gyfundrefn i’r dyfodol ac yn ymateb i’r heriau demograffeg.  Roedd sôn am yr angen i sicrhau ein bod yn barod i ymateb i newidiadau demograffeg, ond dim eglurhad ynglŷn â sut y bwriedid gwneud hynny.  Nodwyd y gofynnid y cwestiwn yng nghyd-destun cau, neu’r posibilrwydd, o gau Ysgol Felinwnda.  Roedd hynny’n fater o bryder, nid yn unig am gau ysgol, ond pryder yn gyffredinol yn y dalgylch am ysgolion a chymunedau gwledig yn gyffredinol, a’r teimlad bod angen strategaeth glir gan y Cyngor fel bod rhieni a phobl yn y gymuned yn gwybod, ac yn deall yn fras, meddyliau’r Cyngor, os ydi ysgolion bychan yn gorfod cau oherwydd demograffeg.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i edrych ar ddemograffi a’r problemau mae hynny’n ei achos mewn rhai cymunedau.

·         Bod hyn, mae’n debyg, ymhlyg yng ngholofn 5 o’r gwerthoedd, sy’n sôn am ddatblygiad sefydliadau addysgol o’r math cywir wrth symud ymlaen.

·         Fel y nodwyd eisoes mewn ymateb i sylwadau eraill, bod yna nifer o strategaethau manwl iawn yn yr haenau sydd o dan y strategaeth lefel uchel hon.

·         Ein bod yn ymwybodol iawn o’r broblem sydd gennym eisoes, ond yn fwy fyth ar y gorwel, o ran demograffi, ac felly byddai gwaith a strategaethau’r Adran o ran ad-drefnu ein cyfundrefn yn canolbwyntio ar yr hyn a nodir yn y bumed golofn o’r gwerthoedd fel is-strategaeth i allu cyflawni hynny.

 

Ategwyd y pryderon a fynegwyd yn gynharach yn y drafodaeth ynglŷn â darpariaeth addysg arbennig.  Nodwyd y dymunid i’r Strategaeth gynnwys darn penodol ynglŷn â’r ysgolion addysg arbennig gan fod anhawster cael mynediad i’r ysgolion hynny yn golygu bod plant ag anghenion dwys yn gorfod aros yn yr ysgolion prif lif, sy’n gwbl anaddas ar gyfer eu hanghenion.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Fel y nodwyd eisoes, mai strategaeth lefel uchel yw hon, a bod gan yr Awdurdod strategaeth ar gyfer symud ymlaen i edrych ar hyn.

·         Bod uned wedi’i hagor fel lloeren er mwyn ehangu’r ddarpariaeth.

·         Nad oedd yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg arbennig yn heriau i Wynedd yn unig, a bod yna nifer o ffactorau y tu ôl i hynny.

·         Cyn i’r ysgol newydd yn Hafod Lon gael ei hadeiladu, bod yna nifer o blant gydag anghenion dwys iawn yn mynychu ysgolion prif lif, a hynny, o bosib’, oherwydd canfyddiad rhieni o’r hen adnodd.  Roedd mwy yn dymuno gyrru eu plant i’r ysgol newydd, ac roedd hynny i’w groesawu.

·         Wrth i dechnegau meddygol a gofal meddygol esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, bod nifer o blant a phobl ifanc yn goroesi, na fyddai wedi gwneud hynny’n flaenorol.  Roedd hynny’n ardderchog ac yn rhywbeth i fod yn hynod ddiolchgar yn ei gylch, ond nid oedd heb ei bwysau ar y sector.

·         Y byddai’r Adran yn cyflawni darn o waith i edrych ar y strategaeth addysg arbennig er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ofod digonol, a bod yr adnoddau yna.

·         Bod ymrwymiad staff y 2 ysgol arbennig at ofal, lles ac addysg y plant dwys yn gwbl ryfeddol.

 

Holwyd a yw’r defnydd o’r geiriau ‘mwy abl a thalentog’ yng nghyswllt Rhwydwaith SEREN yn addas yn y cyd-destun yma gan fod pob dysgwr yn dalentog a gyda chryfderau gwahanol.  Mewn ymateb, nodwyd na anghytunid â hynny, ond bod hyn yn derm cenedlaethol cydnabyddedig i gohort neu grŵp o blant.

 

Nodwyd bod y Strategaeth yn nodi ymrwymiad i leihau effaith tlodi ar gynnydd a chyraeddiadau dysgwyr, a holwyd sut y bwriedid gwneud hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod hynny’n flaenoriaeth amlwg a bod yr Aelod Cabinet eisoes wedi ymrwymo yng Nghynllun y Cyngor i gyflawni darn o waith i edrych ar gost y diwrnod ysgol.

·         Bod angen meddwl yn soffistigedig am dlodi, gan fod tlodi yn ehangach na thlodi ariannol yn unig.

·         Mai pwrpas y darn gwaith oedd edrych ar y rhwystrau sy’n atal plentyn rhag cyrraedd ei botensial addysgol, a gwneud beth bynnag y gellir i’w dileu.

 

Holwyd a oeddem yn gwybod rhywbeth am gefndir cymdeithasol y plant ‘mwy abl a thalentog’ at ei gilydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ein bod yn sôn am ‘mwy abl a thalentog’ mewn cyd-destun academaidd yn yr achos dan sylw, ond bod abl a thalentog yn ehangach na hynny, ac yn ôl canllaw Llywodraeth Cymru, yn fwy na mesur academaidd yn unig. 

·         Bod SEREN wedi’u herio ar y cwestiwn o ddenu trawsdoriad cymdeithasol ddigon eang, ac wedi cymryd camau er mwyn sicrhau eu bod yn fwy agored.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r cynnydd sylweddol dros yr haf yng nghostau cludiant ysgol i deuluoedd sydd ddim yn gymwys am gludiant am ddim i’w plant.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr Awdurdod yn gaeth i’r polisi yn anffodus, ond y byddai’n ddiddorol edrych ar hyn yng nghyd-destun darn gwaith yr Aelod Cabinet ar gost y diwrnod ysgol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: