Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad a’r Rheolwr Cynhwysiad Adran Addysg i’r cyfarfod yn ychwanegol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ar draws ysgolion Gwynedd, gan gynnwys amlinelliad o’r prif resymau dros absenoldebau a gwaharddiadau.  Gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor ystyried os oes angen craffu unrhyw agwedd arall o bresenoldeb a gwaharddiadau, ynghyd ag effaith y ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig i annog gwelliant mewn presenoldeb ac ymddygiad disgyblion Gwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, manylodd y Rheolwr Cynhwysiad ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Holwyd beth oedd yn esbonio’r ffaith bod y problemau ymddygiad a phresenoldeb yn dilyn y pandemig Covid-19 yn parhau, gan y byddai rhywun wedi disgwyl i’r plant ail-ymgyfarwyddo â mynd i’r ysgol wrth i amser fynd yn ei flaen, ac i’r ffigurau ostwng.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod nifer o’r gwaharddiadau yn ymwneud â thrais yn erbyn cyfoedion ac aelodau o staff yr ysgol. 

·         Bod cynnydd sylweddol hefyd mewn defnydd cyffuriau, gyda nifer o blant bellach yn cario cyffuriau i mewn i’r ysgol i’w gwerthu, neu ar gyfer eu defnydd eu hunain.  Nodwyd bod achos ar y funud ble mae gan y Gwasanaeth bryder mawr am un disgybl ym Mlwyddyn 6.

·         Bod pawb wedi disgwyl i’r flwyddyn gyntaf yn dilyn y pandemig fod yn heriol, ond yn anffodus, roedd pethau wedi gwaethygu ers hynny.

 

Holwyd a oedd plant anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan hyn, ac os felly, i ba raddau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y data yn cael ei gasglu’n fisol, gyda swyddog yn cofnodi pob gwaharddiad gan nodi ydyn nhw’n blant ag anghenion ychwanegol, oes ganddyn nhw gynllun datblygu unigol ac ydyn nhw’n blant sy’n cael cinio ysgol am ddim.

·         Nad oedd yna batrwm pendant bod plant yn y categorïau yma, ac roedd rhai o’r plant hefyd yn dod o gefndiroedd na fyddem wedi disgwyl iddynt amlygu’n broblemus o fewn yr ysgolion.

 

Holwyd a oedd yna dystiolaeth bod ymdrechion i wella presenoldeb, drwy lythyru rhieni a gwneud bygythiadau, ac ati, yn arwain at ddisgyblion yn tynnu allan o’r system yn gyfan gwbl.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod nifer y plant sy’n cael eu dadgofrestru wedi cynyddu, a bod hynny, ynddo’i hun, yn bryder i’r Gwasanaeth.

·         Bod gan y Gwasanaeth swyddogion lles sy’n cefnogi teuluoedd.

·         Bod yr Awdurdod yn dirwyo neu’n erlyn rhieni fel y cam olaf yn unig gan na ddymunid arwain at fwy o gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref.

·         Bod gan y Gwasanaeth dîm penodol o fewn yr Adran sy’n edrych ar addysgu o’r cartref ac yn gwirio lleoliadau a chynnydd a safon yr addysg mae’r plant yn derbyn.

 

Nodwyd bod ffigwr gwaharddiadau parhaol Gwynedd yn 2022/23, sef 48, yn frawychus a holwyd beth yn union y bwriadai’r Awdurdod ei wneud yn wahanol i’r gorffennol, ynghyd â beth y bwriedid ei roi mewn lle o’r newydd i sicrhau y bydd y ffigwr hwn yn gostwng erbyn mis Medi 2024.  Holwyd beth oedd y ffigurau mewn siroedd eraill tebyg i Wynedd, fel Môn a Cheredigion, dros yr un cyfnod.  Gofynnwyd hefyd a oedd yna ysgol (heb enwi) sydd byth bron yn gwahardd, a beth ellid ei ddysgu o’r arfer da yna, a hefyd oedd yna ysgol (eto heb enwi) sy’n gwahardd yn fwy cyson nag ysgolion cyffelyb.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunid bod y ffigurau yn ddychrynllyd ac y dymunid diolch i’r ysgolion am adrodd mor dryloyw a gonest ar nifer y gwaharddiadau parhaol.

·         Bod y Gwasanaeth yn llwyr ymwybodol o’r gwaith sydd angen ei wneud, ac y bwriedid comisiynu darn o waith dros y flwyddyn nesaf gan gyn-arolygwr Estyn, sy’n arbenigo yn y maes cynhwysiad, yn edrych ar y defnydd o arian cynhwysiad o fewn yr ysgolion.  Byddai’r gwaith hwn yn cychwyn yn y ddau fis nesaf ac yn darparu fframwaith ynglŷn â sut i wella’r gwasanaeth i’r dyfodol.

·         Bod gan yr Adran hefyd dimau sy’n cefnogi ysgolion yn y sector cynradd a’r uwchradd, er mwyn modelu ymddygiad cadarnhaol a rhoi strategaethau mewn lle ayb, a bwriedid penodi swyddogion ychwanegol i’r timau hyn o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

·         Bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus yn denu swm sylweddol o arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnig rhaglenni i ysgolion o ran gwasanaethau arbenigol yn ymwneud ag ymddygiad.  Ni ellid bod yn sicr a fyddai hynny’n gwneud gwahaniaeth ai peidio, ond byddai’n amlygu’r math o gefnogaeth sydd ei hangen.

·         O ran ffigurau siroedd eraill, bod y Gwasanaeth ADY a CH yn gweithredu dros Wynedd a Môn, a hefyd yn cydweithio gyda’u cyfoedion ar draws siroedd y Gogledd, ac roedd yn amlwg bod y siroedd hynny hefyd yn wynebu’r un heriau.

·         Bod y Gwasanaeth yn bryderus ynglŷn â’r lefelau uchel o waharddiadau mewn 5 ysgol yn ardal Arfon yn bennaf, a bod yr ysgolion sydd prin yn gwahardd yn Ne’r Sir.

·         Y gallai fod yn gamarweiniol edrych ar y niferoedd unigol o ddisgyblion mae ysgolion wahardd a’i bod yn fwy cywir edrych ar hynny fel canran o boblogaeth yr ysgol.

·         Ei bod yn hanfodol edrych ar gysoni’r rhesymau dros wahardd disgyblion ar draws y sir, gan ystyried oes yna wahaniaeth mewn lefelau goddefgarwch rhwng ysgolion; pa strategaethau mae rhai ysgolion yn ddefnyddio er mwyn atal y math o ymddygiad rhag dwysau i fod yn rhywbeth sy’n teilyngu gwaharddiad, ac oes yna gyfnod penodol, rhesymau, ymddygiad neu ffactorau sy’n dderbyniol mewn un ysgol, na fyddai’n dderbyniol mewn ysgol arall.

·         Bod arian yn dilyn plentyn sy’n trosglwyddo i ysgol arall o ganlyniad i waharddiad, neu am ba reswm bynnag, fel bod yr ysgol sy’n derbyn y plentyn yn ei chael yn haws darparu ar ei gyfer.

·         Yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, nad oedd yn syndod bod Estyn wedi dewis cynhwysiad fel un maes penodol i edrych yn fanwl arno fel rhan o’u harolwg diweddar o’r gwasanaethau addysg.

 

Holwyd a oedd y Paneli Apêl Mynediad a Gwaharddiad yn dal mewn bodolaeth, ac os felly, pam na fu unrhyw gyswllt pellach gyda’r aelodau lleyg hynny oedd wedi mynychu dau ddiwrnod dwys o hyfforddiant yn y maes cyn y pandemig.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y Paneli yn parhau mewn bodolaeth, ond ychydig o geisiadau a dderbynnid am wrandawiadau annibynnol. 

·         Bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol o ran yr angen i hyfforddi llywodraethwyr newydd a phrofiadol er mwyn dwyn sylw at eu cyfrifoldeb pan fo plentyn yn cael ei wahardd.  Yn ogystal â thrafodaethau gyda’r Swyddog Adnoddau Cynorthwyol, a oedd yn gyfrifol am gydlynu hyfforddiant llywodraethwyr, i ail ymweld â’r mater, bod pecyn hyfforddiant penodol ar gyfer llywodraethwyr newydd wedi’i addasu fel ei fod yn bwrpasol ac yn gyfredol.

·         Y gwerthfawrogid cael pobl i wirfoddoli ar y panel oherwydd ei bod yn hynod bwysig bod lleisiau plant a theuluoedd yn cael eu clywed gan grŵp o unigolion hollol annibynnol i’r ysgol.

 

Holwyd pa mor debygol yw’r plant sy’n cael eu gwahardd am gyfnod o gael eu gwahardd eto, dro ar ôl tro.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod gan y Gwasanaeth fasdata sy’n tracio pob unigolyn sy’n cael ei wahardd.

·         Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bod unigolyn yn gallu derbyn gwaharddiad dros 15 diwrnod, neu dros gyfnod o flwyddyn academaidd, ac yna bod rhaid cynnal panel ymddygiad gyda’r corff llywodraethwyr, y rhieni a’r unigolyn er mwyn osgoi symud ymlaen i waharddiad parhaol.

 

Nodwyd bod sawl astudiaeth yn dangos yn glir mai pobl ifanc ydi un o’r grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf yn sgil Cofid, a theimlid bod pobl ifanc yn cael eu hanghofio.  Nodwyd bod darpariaeth hamdden i bobl ifanc y tu allan i’r ysgol, megis clybiau ieuenctid, ayb, yn cael effaith llesol iawn ar iechyd meddwl unigolion, a holwyd a oedd yr Adran yn ystyried hyn, ar y cyd â’r Gwasanaeth Ieuenctid, fel ffordd o geisio taclo’r problemau.  Mewn ymateb, nodwyd y cytunid â’r sylw a bod angen edrych ar sut mae’r adnodd sydd gan y Cyngor o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid yn cael ei ddefnyddio er mwyn cymryd mantais llawn ohono.

 

Gan gyfeirio at waharddiadau dros dro sy’n digwydd dro ar ôl tro i’r un plentyn, nodwyd ei bod yn amlwg nad yw’r strategaethau yn gweithio bob amser, a bod plant weithiau’n cael eu hadnabod gydag anghenion arbennig o ran ymddygiad, ac yn cael cynllun unigol ac yn cael eu trin yn wahanol, a ddim yn cael gwaharddiadau pellach o ganlyniad.  Holwyd oedd y niferoedd hynny yn cynyddu'r un fath, ac ydyn nhw’n llwyddiannus.  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn bwysig edrych ar hynny hefyd, a chredid bod ymrwymiad gyda’r penaethiaid i wneud hynny.

 

Croesawyd y ffaith bod yr arian yn dilyn plentyn sy’n symud ysgol oherwydd gwaharddiad, ond yn ogystal â’r gost arferol o addysgu’r plentyn, roedd y plant yma, yn aml iawn, angen llawer mwy o gymorth, a holwyd a ystyrid rhoi premiwm ar yr arian sy’n cael ei drosglwyddo i’r ysgolion sy’n derbyn plant dan yr amgylchiadau hyn.  Mewn ymateb, nodwyd bod swm o tua £1.1m yn mynd i’r sector uwchradd ar gyfer cynorthwyo gyda’r math hyn o beth, ac er na awgrymid am eiliad nad oedd yr arian yn cael ei ddefnyddio’n iawn, efallai bod angen gwneud darn o waith i edrych ar beth yn union mae’r ysgolion yn ei wneud gyda’r arian yma.

 

Nodwyd nad yr Adran Addysg a’r Cyngor yn unig sydd â’r ateb i’r problemau hyn a bod rhaid edrych ar y darlun cyflawn o ran cartref, cymuned ac iechyd y person ifanc, yn enwedig yn wyneb y toriadau mawr mae’r asiantaethau sy’n cefnogi teuluoedd a’r maes iechyd wedi’u hwynebu yn y blynyddoedd diwethaf.  Pwysleisiwyd y dylai’r holl asiantaethau eistedd o amgylch y bwrdd i sicrhau’r canlyniad gorau i’r person ifanc, ond oherwydd bod pob adran a phob maes yn derbyn toriadau, roedd pawb yn gafael yn dynn yn eu pwrs eu hunain.  Nodwyd bod angen edrych ar fwy na’r ffigurau moel gan edrych beth yw’r gwir reswm bod y person ifanc yn dangos y math yma o ymddygiad.  Roedd llawer iawn o waith i’w wneud, a chyfnod heriol o’n blaenau, ond drwy gynlluniau fel hyn, ac ati, mawr obeithid y byddai’r ffigurau yn dechrau gostwng, ond roedd angen i’r asiantaethau eraill fod o gwmpas y bwrdd hefyd.

 

Nodwyd mai dim ond ar ôl i bopeth arall fethu mae’r penderfyniad anodd a phoenus i wahardd disgybl yn barhaol yn cael ei wneud, a bod rhaid i’r penderfyniad fod er lles y staff a’r disgyblion eraill, a hefyd er lles y disgybl ei hun sydd ar fin cael ei wahardd.

 

Gan gyfeirio at y rhesymau dros wahardd disgyblion, nodwyd bod yr adroddiad a thrafodaeth y pwyllgor wedi rhoi’r ffocws ar y rhai sy’n cael eu gwahardd, ond bod rhaid cofio am weddill y dosbarth hefyd, sy’n cael eu heffeithio gan yr ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’.  Holwyd i ba raddau roedd ‘ymddygiadau bygythiol a threisgar’ ar gynnydd, ac i ba raddau roedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’, sy’n tarfu ar drwch y disgyblion eraill, ar gynnydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y rheswm y tu ôl i bob gwaharddiad yn cael ei gofnodi.

·         Y gwelwyd cynnydd mewn trais, a bod yna gynnydd hefyd mewn disgyblion yn gwrthod cydymffurfio â rheolau’r ysgol, yn tarfu ar y dosbarth yn rheolaidd ac yn bod yn eiriol gyda’r staff a’u cyfoedion.

·         Bod y defnydd o e-sigarets hefyd yn broblem fawr yn yr ysgolion.

·         Bod gan bob ysgol eu polisi ymddygiad eu hunain, ac na allai’r Awdurdod ddylanwadu ar y polisïau hynny.

·         Bod rhai ysgolion yn gwneud gwaharddiadau mewnol, lle mae plentyn sy’n tarfu ar y dosbarth yn cael ei symud i ddosbarth arall lle mae person allweddol ar gael i gynnal trafodaethau adferol gyda hwy.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad yr aelodau o waith yr holl staff sy’n ymwneud â disgyblion bregus sy’n ei chael yn anodd ymdopi yn yr ysgol am ba resymau bynnag.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: