Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau  y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 y Cyfansoddiad.

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Yn dilyn cyhoeddiad fod Barclays am gau mwy o ganghennau gan gynnwys Pwllheli, a gaf i ofyn paham nad ydi'r Cyngor wedi ystyried bygwth newid banc gan mai Barclays ydi’r banc sydd yn cael ei ddefnyddio gan Y Cyngor?  Petai'r Cyngor yn bygwth symud i fanc arall yn ogystal â gofyn i gynghorau sir eraill ddilyn esiampl, yna efallai y buasai’n bosib’ dwyn perswâd arnynt i beidio cau canghennau.”

 

Ateb – Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Rwy’n credu ei bod yn wir i ddweud bod pob un ohonom yn tristau o weld cangen banc yn cau, ond mae nifer yr ymwelwyr a’r defnyddwyr i’r banciau yma wedi lleihau yn sylweddol.  Mae ffaith gan gwmni Which yn nodi bod 5,838 cangen wedi cau ers 2015.  Mae hynny’n gyfartaledd o 54 cangen yn cau bob mis ers 2015, ac mae yna ymhell dros 300 o ganghennau wedi cau yng Nghymru ers 2015.

 

Nid cyfrif mewn cangen benodol o fanc Barclays sydd gan y Cyngor, ond mae’n gytundeb corfforaethol, ac mae’r cytundeb yna tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.  Bydd dechrau negodi am gytundebau a bydd yna groeso, wrth gwrs, i fanciau eraill roi pris i mewn am y gwasanaeth i’r Cyngor.  Rhaid i mi nodi, fodd bynnag, mai nifer fechan iawn iawn o fanciau sy’n delio hefo cynghorau, awdurdodau fel Gwynedd, ac felly mae yna bosibilrwydd na fydd yna lawer iawn yn ymgeisio amdano, ond mae’r broses yna am gychwyn ddechrau’r flwyddyn.”

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Pa gamau mae Cyngor Gwynedd am eu cymryd yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar dlodi yn Arfon gan y Sefydliad Bevan ym mis Awst?”

 

Ateb – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch yn fawr i’r aelod a’i gyd-gynghorwyr am y gwaith dydd i ddydd rydych chi’n wneud yn Arfon.  Rwy’n rhannu angerdd yr aelod am y pwnc yma, ac rwy’n gwybod hefyd bod Arweinydd y Cyngor a phob Aelod Cabinet hefyd yn gweld pa mor bwysig ydi’r pwnc yma.  Rydym wedi blaenoriaethu'r gwaith yma.  Rydym wedi rhoi pres i mewn i’r gwaith, ac mae’n digwydd yn drawsadrannol, ar draws bob adran o’r Cyngor.  Nid yw’r atebion i hyn bob amser mewn lle amlwg, er enghraifft, yr Adran Cyllid, a hoffwn ddiolch iddyn nhw’n benodol am eu gwaith blaengar yn y maes yma.  Diolch eto am godi’r cwestiwn ac uchafu’r mater yma yn y Cyngor llawn.  Os oes gan unrhyw gynghorydd awgrym ynglŷn â beth yn fwy medrwn ni wneud yn y maes, plîs cysylltwch â mi, achos, fel arall, pam ydym ni yma fel cynghorwyr neu swyddogion, os nad i helpu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yng Ngwynedd?”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Ar drothwy beth fydd yn aeaf caled arall i lawer, ydi’r Dirprwy Arweinydd yn cytuno â mi bod ‘austerity’ wedi bod yn fethiant llwyr a bod Llywodraeth Prydain yn euog o daflu rhai o’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas ymhellach i mewn i dlodi?”

 

Ateb – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Ydw, rwy’n cytuno 100%.  Rydw i wedi dysgu term newydd yn ddiweddar gan fy ffrind a chyd-aelod Cabinet, y Cynghorydd Craig ab Iago, sef ‘compensatory measures’.  Rydym yn gwybod am yr holl waith mae cynghorwyr, swyddogion, gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yn wneud i gefnogi cymdogion a phobl fregus gyda balchder yn eu bro, ond yr hyn rydym ni’n wir yn ei wneud yw sefyll yn y bwlch, sefyll mewn bwlch sy’n cael ei greu yn rhywle arall.  Rydym ni’n medru smwddio dipyn bach ar y corneli miniog sy’n effeithio ar bobl, ac mae hynny er gwaethaf y toriadau rydym ni wedi wynebu yng Nghyngor Gwynedd flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rwy’n gorfod dweud blwyddyn arall eto rŵan.  Ond mae’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl o ran eu trethi ayb yn cael eu gwneud ymhell iawn o Wynedd, yn wir ymhell iawn o Gymru, gan blaid Dorïaidd yn San Steffan.  Nhw sy’n penderfynu ar lefelau budd-daliadau, nhw sy’n penderfynu ar bethau fel ‘bedroom tax’, a hefyd y rheol afiach am y trydydd plentyn - penderfyniadau sy’n effeithio go iawn ar bobl Cymru a Gwynedd, gan blaid, gyda llaw, sydd erioed wedi ennill mwyafrif o bleidleisiau yng Nghymru.  Rwy’n siŵr bod hyn oll yn ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond hoffwn gadarnhau bod yr aelod a minnau ar yr un ochr.”

 

(3)     Cwestiwn Y Cynghorydd Louise Hughes

 

"Mae pawb yn derbyn y cyfyngiad 20mya o flaen ysgolion ac mewn ardaloedd sydd â phoblogaeth ddwys. Fodd bynnag, o ystyried y protestiadau cyhoeddus a'r niferoedd digynsail sydd wedi llofnodi'r ddeiseb ar-lein ar gyfer y Senedd, y dryswch ynghylch arwyddion ac ati, a chan gofio am y bobl sy'n defnyddio eu cerbydau ar gyfer gwaith (gweithwyr gofal, y gwasanaethau brys, gyrwyr danfon, gweithwyr post, bysiau ac ati), a ydym fel Cyngor yn fodlon gyda'r ddeddfwriaeth newydd ac a fyddwn yn defnyddio'r disgresiwn a roddir i Awdurdodau Lleol unigol i eithrio'r cyfyngiad 20mya mewn ardaloedd penodedig?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“O ran y rhan cyntaf o’r cwestiwn, mi rydw i’n fodlon hefo’r ddeddfwriaeth, ac mae’n bolisi Plaid Cymru i fod wedi cefnogi’r ddeddfwriaeth yn Senedd Cymru.  O ran yr ail ran ynglŷn â defnyddio disgresiwn, rydym ni fel Cyngor wedi defnyddio’r disgresiwn ar gyfer gwneud eithriadau, ac rwyf am gymryd y cyfle i ganmol swyddogion Cyngor Gwynedd sydd wedi gwneud gwaith ardderchog o adnabod y parthau hynny ddylai gael eu heithrio o fynd o 30mya i 20mya.  Mae yna 85 o’r eithriadau yma yng Ngwynedd.  Rydym i gyd fel aelodau wedi cael cyfle i’w craffu.  Yn ôl ym mis Mawrth/Ebrill cawsom restr ohonynt a map yn gofyn am ein barn, a bore heddiw yn digwydd bod, roedd yna erthygl yn y Daily Post yn canmol Gwynedd am y modd mae wedi delio gyda’r eithriadau.  Mae yna fwy o eithriadau yng Ngwynedd nag sydd yna yng ngweddill siroedd Cymru hefo’i gilydd, felly rydw i’n fodlon iawn hefo sut rydym ni wedi delio hefo’r mater yma.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Louise Hughes

 

“A fydd modd i gynghorau cymuned lleol ddeisebu’r Adran Drafnidiaeth i newid cyfyngiadau cyflymder?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Gall unrhyw un ysgrifennu ataf i neu’r swyddogion os ydynt yn anhapus gydag unrhyw ran o’r rhwydwaith, ac os oes yna achos dros newid, fe wneir y newid.  Dewch i gysylltiad os ydych chi’n meddwl ein bod ni wedi ei gael yn anghywir yn rhywle.”

 

(4)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“I ba raddau y mae'r Awdurdod a'r Ysgolion yn monitro llwyddiant trochi fel y gwyddom faint o blant sydd, wedi cyfnod o fod mewn Canolfan Drochi, yn astudio dros hanner eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae yna fonitro parhaus yn digwydd ar y gyfundrefn drochi, o’r asesiad gwaelodlin cychwynnol i’r asesiadau ffurfiannol i gefnogi dysgwyr o ddydd i ddydd - dysgwyr unigol felly - gan orffen gyda’r asesiadau crynodol.  Mae’r manylion ynglŷn â sut yn union mae hynny’n cael ei wneud yn yr ateb ysgrifenedig rydych chi wedi derbyn, felly wnâi ddim mynd i ormod o fanylion.

 

Mae adroddiadau unigol yn cael eu gwneud i’r fam ysgol, ac mae llwyddiannau a sefyllfa gyffredinol y gyfundrefn drochi yn cael ei hadrodd i mi yn dymhorol fel rhan o broses herio perfformiad yr Adran, lle rydw i’n cael y cyfle i holi a herio fel sydd angen.  Rydw i’n teimlo bod yna drafodaethau manwl iawn yn digwydd yn y fan honno sy’n mynd i bob twll a chornel o’r gwasanaeth trochi.

 

Ar ôl i’r plant drosglwyddo i’w mam ysgol, cyfrifoldeb yr ysgol wedyn ydi parhau i dracio ar hyd y continwwm iaith, fel rhan o’r trefniadau asesu.  Mae’r gyfundrefn drochi yn olrhain cynnydd hwyrddyfodiaid sydd wedi mynychu canolfannau trochi, ac sy’n dilyn cwrs TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf ac Ail Iaith.  Mae’r Awdurdod yn casglu data parthed y nifer o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 4 sy’n dilyn 5 pwnc TGAU, neu fwy, drwy gyfrwng y Gymraeg.  Cyfrifoldeb yr ysgolion ydi olrhain llwybrau ieithyddol dysgwyr unigol, gan gynnwys y plant sydd wedi symud yma’n hwyrach, ac sy’n dilyn o leiaf hanner eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Fel mae rhai ohonoch yn gwybod, mae Estyn wedi bod i mewn yn arolygu’r Adran yn ddiweddar iawn, ac yn eu hadroddiad hwy, maen nhw’n nodi bod y ddarpariaeth yn yr ysgolion uwchradd i ddysgwyr sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn adlewyrchiad o bolisi a gweledigaeth yr Awdurdod i ddatblygu dysgwyr dwyieithog.  Mae’r dyfyniad o adroddiad Estyn yn yr ateb ysgrifenedig, adroddiad oedd, gyda llaw, yn gadarnhaol iawn am ein darpariaeth Gymraeg.

 

Hoffwn ddiolch i’r gyfundrefn drochi am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud achos mae o’n wirioneddol anhygoel, ac rwy’n hynod o falch bod safon uchel y gwaith yna yn cael ei adlewyrchu yn deg yn adroddiad Estyn.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynglŷn â’r gwasanaeth, gan gynnwys y plant, am y gwaith arbennig a’r cynnydd arbennig sy’n cael ei wneud, sy’n glod i bawb sydd ynglŷn ag o.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Onid ydi o’n wir felly nad ydi’r Awdurdod yn gwybod faint o blant sydd wedi hyd yn oed mynd drwy gyfnod o drochi cynnar ac sydd wedyn yn mynd ymlaen a gwneud cyfran o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg?  Ydi o’n wir nad ydi’r Awdurdod yn gwybod yr ystadegau ar gyfer hynny?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rydw i newydd egluro o ran sut mae’r data yn cael ei gasglu gan y gyfundrefn, gan yr Awdurdod, ac yn yr ysgolion.  Mae yna fonitro manwl yn digwydd o’r plant hynny ac i ble maen nhw’n cyrraedd o ran eu haddysg.  Rydw i wedi bod mewn cyfarfodydd herio perfformiad lle mae yna ddata manwl o ran plentyn wrth blentyn ac rydw i wedi gallu mynd i lawr - ‘deep dive’ mewn ffordd, i sefyllfa plant unigol ar eu taith drwy’r gyfundrefn.  Felly rydw i’n teimlo bod yna gadw golwg agos iawn yn digwydd ar y plant yma o’u rhan hwy fel unigolion, sydd yn cael ei adrodd yn ôl i minnau hefyd.

 

Mae’n amlwg yn bwysig bod y plant yn gwneud gymaint o’u pynciau a’u harholiadau yn y pen draw trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fel plentyn i rieni di-gymraeg fy hun, rydw i’n teimlo mai’r peth pwysicaf o ran trochi rhywun yn y Gymraeg (nid mod i wedi bod trwy drochi fy hun) ydi bod rhywun yn gallu mynd i’w ysgol, ymuno mewn sgyrsiau ar yr iard hefo cyfoedion trwy gyfrwng y Gymraeg h.y. bod rhywun yn gallu ymuno yn yr holl gyfleoedd diwylliannol sydd ar gael i blant.  Wrth gwrs, mae’n ofnadwy o bwysig bod plant yn gallu cyrraedd eu potensial i wneud cymaint o bynciau â phosib’ trwy’r Gymraeg, ond mae yna gymaint mwy i drochi na hynny fyddwn i’n dadlau.”

 

(5)     Cwestiwn Y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths

 

“Mae etholwyr yn fy ward wedi codi'r mater o dan feddiannu eiddo yn y sector gymdeithasol yn ddiweddar.

 

Mae nifer uchel o unigolion yn byw mewn tai cymdeithasol mewn pentrefi lle mae nifer fach iawn o dai cymdeithasol ar ôl.

 

Beth mae'r Cyngor a chymdeithasau tai yn ei wneud i roi cymorth i unigolion sydd yn tan feddiannu cartrefi yn y sector cymdeithasol i symud i gartrefi addas ar gyfer unigolyn?

 

Oes modd i’r Cyngor a chymdeithasau tai adnabod yr angen yng Ngwynedd?

 

O adnabod yr angen, oes modd  sefydlu neu wella'r gwasanaeth presennol sydd ar gael ar gyfer trigolion sydd yn awyddus i symud i gartref newydd?

 

Gofynnir i'r Cyngor weithio gyda phob cymdeithas dai i adnabod pa gymorth ymarferol sydd ar gael i unigolyn sydd yn awyddus i symud tŷ, ond sydd angen cymorth ymarferol gyda’r broses o fudo.”

 

Ateb – Yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r Gwasanaeth yn ymwybodol, wrth gwrs, y gall tan-feddiannu achosi rhwystrau i rai unigolion a theuluoedd, ac o ganlyniad mae trefniadau a phrosesau eisoes yn bodoli o fewn y Polisi Gosod Tai Cyffredin sy’n hwyluso trefniadau ar gyfer y cymdeithasau tai lle mae unigolion a theuluoedd yn dymuno symud oherwydd materion tan-feddiannu, ac mae yna gyfeiriad at y Polisi Tai Cyffredin yn yr ateb ysgrifenedig.

 

Rydym yn fodlon codi’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu nodi gyda’r cymdeithasau tai yn y Bwrdd Partneriaeth Tai, lle bydd cyfle i drafod trefniadau presennol ac i wneud rhagor o ymchwil i'r achosion o dan-feddiannu i adnabod cyfleoedd penodol i allu cynnig cymorth ychwanegol.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths

 

“Fydd amser staff yn cael ei glustnodi gan y Cyngor ar gyfer casglu’r data, a hefyd sicrhau bod pob cymdeithas yn rhoi gwasanaeth hafal i bob person yng Ngwynedd?”

 

Ateb – Yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Gallaf gadarnhau y bydd y gwasanaeth yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen i gyfarch y cwestiwn yma ac mae deialog gyson yn digwydd rhwng y Gwasanaeth a’r cymdeithasau tai i gyd trwy’r Bwrdd Partneriaeth Tai.”

 

(6)     Cwestiwn Y Cynghorydd Angela Russell

 

“Ar ran y Grŵp Annibynnol, hoffwn gael gwybod beth oedd y broses a ddilynodd y Cyngor yma i ddod i’r penderfyniad i ohebu gyda thrigolion Gwynedd ar Erthygl 4.  Rydym ni fel aelodau yn teimlo ein bod wedi ein gadael yn y tywyllwch, yn enwedig pan fo’r ymgynghoriad wedi digwydd dros gyfnod yr haf, ac felly na fydd hyn yn gynrychiolaeth gywir.”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Nid wy’n derbyn bod y Grŵp Annibynnol wedi cael eu gadael yn y tywyllwch a bod yn berffaith onest.  Mae yna fwletinau rheolaidd wedi bod i aelodau, ac yn syth wedi i’r Cabinet wneud penderfyniad i ymgynghori ar Gyfarwyddyd Erthygl 4, mi roedd yna sesiwn codi ymwybyddiaeth ar gyfer holl aelodau’r Cyngor.  Rwy’n meddwl mod i’n iawn yn dweud, o’r 23 aelod annibynnol sydd ar y Cyngor, bod 13 ohonyn nhw’n bresennol, ac uwchben hynny, o’r 10 oedd ddim yno, mae 4 ohonynt ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau, ac mae’r mater Erthygl 4 wedi bod gerbron y pwyllgor hwnnw ddwywaith.  Rwy’n derbyn nad pawb sy’n gallu mynychu'r pethau yma oherwydd amryw o resymau personol, gwyliau a’r math yna o beth, ond mi wnaethpwyd recordiad o’r sesiwn ymgysylltu hynny ac mae aelodau wedi cael eu hatgoffa ar sawl achlysur bod y recordiad yn bodoli fel eu bod yn gallu ymgyfarwyddo ag Erthygl 4.  Felly, na, nid ydw i’n derbyn bod y Grŵp Annibynnol wedi cael eu cadw yn y tywyllwch.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Angela Russell

 

“Gan i chi wrthod cyfarfod cyhoeddus, pa ddulliau, heblaw ymateb ysgrifenedig, mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig i bobl hŷn, pobl ddifreintiedig, pobl sydd ddim ar y we?  A ydym ni wedi gwneud pob dim i fodloni’r Ddeddf Cydraddoldeb, a pha bryd mae’r Cyngor wedi ymgynghori gyda’r benthycwyr morgais, ayb, yn hyn i gyd?  A sut mae 10 aelod Plaid Cymru ar y Cabinet yn cael gwneud penderfyniad pellgyrhaeddol i ni ym Mhen Llŷn pan mae yna 69 ohonom fel cynghorwyr?  A pam nad yw hyn wedi dod o flaen y Cyngor llawn?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Deddfwriaeth sy’n dod o Gaerdydd sy’n penderfynu sut mae’r Cyngor yn gwneud ei benderfyniadau.  O ran y materion eraill, rwy’n meddwl bod yr ymatebion i’r cwestiynau hynny i gyd yn yr ateb ysgrifenedig.”

 

(7)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“I ba raddau y mae methiant i arolygu a gorfodi amodau cynllunio sy’n cyfyngu ar gyfnod gweithredu meysydd carafanau teithiol a’r cyfnod y gellir cadw carafán ar lain penodol wedi arwain at gynnydd mewn defnydd parhaol a di-dor?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae’n gwestiwn penodol, ac ni wn a oes yna rywbeth penodol yn y ward y tu ôl i hyn, ond rydw i’n cyfeirio’r aelod at yr ymateb ysgrifenedig.  Wrth gwrs, un peth sy’n bwysig i’w ddweud ydi nad oes gan y Cyngor dimau o bobl yn mynd o gwmpas yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cadw at reolau cynllunio.  Mae’r cyfrifoldeb yna gan y sawl sy’n gwneud ceisiadau ac yn cael caniatâd cynllunio, wrth gwrs.  Mae’n debyg y dylid nodi hefyd mai grym dewisol ydi pwerau gorfodaeth a’n bod ni’n gwneud hyn drwy gyflwyno rhybuddion gorfodaeth lle mae tystiolaeth gadarn yn cyfiawnhau hynny.  Ac, wrth gwrs, ‘intelligence’ lleol fel rheol sy’n dwyn i sylw swyddogion bod yna dor-amodau cynllunio wedi bod.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“I ba raddau mae blaenoriaethau a phrosesau o fewn yr Adran wedi cael eu haddasu i dargedu’r mater ers i’r mater gael ei godi 4-5 mlynedd yn ôl gan Aled Evans, y cyn-gynghorydd dros Ward Llanystumdwy?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Nid oes gen i wybodaeth ynglŷn ag unrhyw achos penodol yn fan hyn, felly mae croeso i chi anfon hwnnw ataf i, neu at y swyddogion cynllunio.  Gallwch chi wneud hynny unrhyw adeg.  Nid oes angen disgwyl tan Gyngor llawn i wneud hynny.”

 

(8)     Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

“Mae plant di-gymraeg sy’n cael eu ‘trochi’ yn y Canolfannau Iaith yn treulio un diwrnod yr wythnos yn ôl yn eu hysgolion, er mwyn cadw cysylltiad gyda’r athrawon a phlant yna.  Y tebygrwydd yw mai’r Saesneg maent yn defnyddio i chwarae a chyfathrebu o hyd.  A yw’r Adran Addysg yn asesu’r effaith mae hyn yn ei gael ar ddefnydd iaith gweddill y plant, ac ar ethos Gymraeg yr ysgolion?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae sicrhau cysylltiad parhaus gyda’r fam-ysgol yn elfen allweddol rwy’n meddwl o sicrhau llesiant y plant sydd yn hwyr-ddyfodiaid i’r sir, yn ogystal â bod yn fodd iddyn nhw drochi’n naturiol yng nghwmni eu cyfoedion a’u hathrawon, sef yr hyn rydym ni i gyd yn anelu ato, wrth gwrs.  Mae’r plant yn cael eu paratoi at y dyddiau pontio yma drwy ymarfer patrymau ieithyddol penodol a chwestiynau syml ac atebion y gallant fynd gyda hwy wedyn i’w mam-ysgolion er mwyn ymarfer eu Cymraeg.  Mae hynny’n cael ei ehangu o wythnos i wythnos fel maen nhw’n magu sgiliau a magu hyder, ac ati, ac mae aelod o staff y gyfundrefn yn cael ei ddarparu i’r plant yma ar eu dyddiau trochi i’w cefnogi a’u hannog, gan fod siarad Cymraeg y tu allan i awyrgylch saff y ganolfan yn dipyn o her.  Cyfrifoldeb yr ysgol wedyn ydi darparu’n briodol ar gyfer pob plentyn, sy’n cynnwys unrhyw anghenion o ran y Gymraeg o ran yr iaith ffurfiol ac anffurfiol, ac mae cefnogaeth i’r gyfundrefn drochi yn parhau iddyn nhw o ran hynny.  Ac os fedra’i ddyfynnu Estyn eto:-

 

“Anogir y defnydd o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn briodol drwy’r Siarter Iaith.  Mae hyn yn cyfrannu at wella medrau Cymraeg a Chymreictod y plant yn ogystal â chefnogi cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.”

 

Ond gan mai dim ond ers dau dymor y mae’r gyfundrefn drochi ar ei newydd wedd yn weithredol, mae yna barodrwydd i gynnal gwerthusiad o’r drefn i weld sut yn union mae’r plant yn caffael y Gymraeg a sut maen nhw wedyn yn trochi nôl i’w hysgolion, a beth ydi effaith hynny arnyn nhw ac ar y plant eraill.  Wrth gwrs, llesiant a photensial pob un plentyn sydd wrth galon yr hyn sy’n cael ei gynnig ac mi fyddwn i’n amlwg yn dymuno gweld bod pob un plentyn yn cyrraedd ei botensial, ac yn teimlo’n hapus ac yn gyffyrddus hefo’r hyn sy’n digwydd.  Wedyn mae hwnna’n gwestiwn pwysig, diolch.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

“Pryd a sut fydd y gwaith asesu hwn yn cael ei wneud, ac oni ddylid cynnwys asesu effaith y diwrnod pontio ar y plant i gyd?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rwy’n meddwl bod gwerth mewn gwneud hynny yn sicr.  O ran Polisi Iaith Addysg Gwynedd, wrth gwrs, mae wedi ei rannu yn 4 rhan - cyfrwng yr addysg, y defnydd cymdeithasol, recriwtio a phenodi a gweinyddiaeth a chyfathrebu.  Felly, rydym ni’n sôn am yr elfen gymdeithasol yn fan hyn, sy’n hollbwysig rwy’n credu, ac yn fanna mae dal hi, fuaswn i’n barnu.

 

Mae disgwyl i’r ysgolion fagu agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg a chreu balchder yn yr holl blant.  Rwy’n meddwl bod prosiect Ein Llais Ni wedi gwneud cyfraniad pwysig.  Mae hyfforddiant y Siarter Iaith hefyd yn ffactor allweddol ac mae yna £96,000 wedi dod o Grant y Gymraeg ar gyfer prosiectau dalgylchol, ac mae hyfforddiant yn elfen greiddiol o amodau’r grant yna. 

 

Er diddordeb, hoffwn roi math o flas i chi o’r gweithgareddau sydd yn digwydd yn ein hysgolion er budd codi ymwybyddiaeth a balchder yn eu Cymreictod, oherwydd rwy’n meddwl ei fod yn ddifyr ac yn rhywbeth sy’n codi calon rhywun i glywed amdano a dweud y gwir.   Dyma flas o’r mathau o bethau sy’n digwydd:-

 

·                Gweithdai drama hefo’r llenor Mared Llywelyn ynglŷn â chwedlau lleol, casglu a defnyddio enwau llefydd y filltir sgwâr ac yna’u rapio gydag Ed Holden;

·                Cydweithio hefo’r Urdd i hyfforddi gemau buarth yn y Gymraeg;

·                Tanio Cymreictod – codi ymwybyddiaeth o fandiau Cymraeg, megis Bwncath, ac ati;

·                Thema Cwpan y Byd- sylwebu hefo Meilir Emrys; creu anthem hefo Elidyr Glyn;

·                Hyfforddiant i gymorthyddion y dalgylch er mwyn datblygu’r defnydd o’r iaith anffurfiol wrth gyflwyno gweithgareddau ar y buarth;

·                Cyflwyniad Cymreictod gan Ameer Davies-Rana i ysbrydoli dysgwyr a staff;

·                Gweithdai creadigol hefo Osian a Branwen Candelas;

·                Clocs Ffit hefo Tudur Phillips;

·                Gweithdai canu hefo Catrin Toffoc;

·                Gweithdai creu podlediadau, sylwebu pêl droed hefo Marci G;

·                Gweithio hefo Cwmni’r Fran Wen, Hunaniaith, Menter Iaith Bangor, Ein Llais Ni;

·                Hyfforddi disgyblion y 6ed i arwain teithiau cerdded dan arweiniad Rhys Mwyn gan eu haddysgu am hanes eu hardal a’u hannog i fwynhau eu milltir sgwâr.

 

Rydw i wrth fy modd gweld yr elfennau iaith y buarth yma, ac fel roeddwn i’n dweud mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Rhys Tudur, yr hyn y buaswn i’n hoffi gweld ydi bod y plant trochi yn medru mynd i ganol criw o blant lleol ar yr iard, a bod yr iaith ddim yn gorfod newid iddyn nhw, ac rwy’n meddwl mai yn fan hyn mae dal hi.  Ni ddilynais i fy mhynciau TGAU i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mi roeddwn i’n medru gwneud ffrindiau hefo plant Cymraeg, mynd i Lan-llyn a mynd i gigs Cymraeg.  Felly, rwy’n meddwl mai yn yr elfen gymdeithasol yna mae dal hi, ac roeddwn wrth fy modd yn gweld yr holl bethau sy’n digwydd.  Gobeithio fod hynny yn rhoi blas i bobl o’r gwaith ardderchog sy’n digwydd yn ein hysgolion a hoffwn ddiolch eto i’r ysgolion am yr holl waith maen nhw’n wneud o ran cefnogi Cymreictod pob un plentyn, yn hwyr-ddyfodiaid ac yn blant cynhennid.”

 

 

Dogfennau ategol: