Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn gofyn i’r Cyngor ystyried a ddylid cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD) ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Monitro esboniad manwl o rai agweddau o’r ddeddf a’r broses.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet na ddylid cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Er i ambell aelod fynegi peth pryder ynglŷn â maint y wardiau o dan y sustem PSD, gwrthwynebwyd y cynnig gan sawl aelod arall ar y sail:-

 

·         Bod angen i’r broses fynd rhagddi er mwyn i’r Cyngor fedru gwneud penderfyniad ystyrlon ar y ffordd ymlaen.

·         Bod sustem PSD yn rhagori ar y drefn etholiadol bresennol gan ei bod yn drefn fwy cyfrannol, teg a rhesymegol sy’n rhoi mwy o ystyriaeth i bleidleisiau pobl, yn golygu llai o bleidleisiau wedi’u gwastraffu ac yn hawdd i’r sawl sy’n pleidleisio ei defnyddio.

·         Yn wahanol i’r mwyafrif o sustemau cyfrannol eraill, bod sustem PSD yn cadw cysylltiad clos rhwng aelodau etholedig a’u wardiau ac yn rhoi mwy o’r grym i ddewis cynrychiolwyr etholedig yn nwylo etholwyr, a llai yn nwylo’r pleidiau gwleidyddol.

·         Mai un o brif wendidau’r drefn bresennol yw bod modd i aelodau gael eu dewis yn gynghorwyr yn ddi-wrthwynebiad, ac roedd y system PSD yn dileu hynny.

·         Na fyddai cynnal ymgynghoriad yn mynd â’r Cyngor ar hyd llwybr di-droi’n-ôl, ond yn hytrach yn cynnig cyfle i edrych ar yr holl fater a chael barn etholwyr arno.

·         Bod angen chwyldro yn y sustem os am rymuso ein hetholwyr, cynyddu diddordeb pobl mewn democratiaeth, ymgysylltu’n well gyda’n hetholwyr a chael trefn fwy teg, a dyna’n union roedd PSD yn ei gynnig.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd sylwadau cloi ar ran yr Aelod Cabinet oedd wedi gorfod gadael y cyfarfod yn gynnar.  Nododd, er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gael sustem bleidleisio newydd ar gyfer pob etholiad, bod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio gorfodi’r drefn ar bob cyngor yng Nghymru, gan y byddai hynny’n gwanio sefyllfa’r Blaid Lafur, yn annheg.  Ar sail hynny, nid oedd yn gefnogol i symud ymlaen ar y mater ar hyn o bryd.

 

Pleidleisiodd yr aelodau ar y cynnig i beidio cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.  Disgynnodd y cynnig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cyngor yn cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.  Nododd y cynigydd ymhellach:-

 

·         Y byddai mabwysiadu’r cynnig hwn yn gam cadarn a hanesyddol tuag at fod yn fwy democrataidd.

·         Bod sustem PSD yn cael gwared â’r syniad nad oes pwynt bwrw pleidlais dros blaid benodol ac mae pob pleidlais yn cyfri’.

·         Bod y sustem yn cynyddu’r nifer o bobl sy’n cael y cyfle i leisio barn o ddifri’ a thrwy hynny’n cryfhau democratiaeth.

·         Nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r asgwrn cefn i ddweud mai dyma fyddai’r drefn yng Nghymru ac roeddent yn ofni y byddai pobl Cymru yn deffro ac yn dewis trefn amgen.

 

Nododd aelod arall fod y sustem cyntaf i’r felin wedi gwneud y ddwy brif blaid yn y DU yn drahaus, a bod cyfle yma i newid hynny.  Dylid edrych i mewn i hyn ymhellach gan fod y sustem wleidyddol bresennol wedi torri a phobl ddim yn trafferthu troi allan i bleidleisio.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.

 

Gan i’r cynnig gael ei gario, eglurodd y Swyddog Monitro mai’r bwriad felly fyddai cyflwyno adroddiad i gyfarfod Mawrth o’r Cyngor yn amlinellu proses ymgynghori ar gyfer symud y mater yn ei flaen i ystyriaeth neu benderfyniad gan y Cyngor trwy Gyngor Arbennig maes o law.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cychwyn proses all arwain at fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.

 

 

Dogfennau ategol: