Agenda item

I ystyried cais gan Ms A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Nododd bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei chais.

 

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nododd bod gan yr ymgeisydd brofiad helaeth o yrru a dymuniad bellach o fod yn yrrwr tacsi gan y teimlai nad oedd gyrru HGV yn swydd iddi hi erbyn hyn. Nododd hefyd ei fwriad o’i chyflogi i wneud gwaith oriau ysgol ac ychydig o oriau dros y penwythnos petai ei chais yn cael ei ganiatáu. 

 

Ategodd bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi eu cynnal gyda’r Swyddog Trwyddedu yn amlygu’r pwyntiau cosb ynghyd a chadarnhad bod yr ymgeisydd wedi derbyn trwydded hacni / hurio preifat tair blynedd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn Awst 2023.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA

·      sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yng Ngorffennaf 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri’r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus. Daeth cyfnod perthnasol y pwyntiau hyn i ben ar y 3ydd o Orffennaf 2023.

 

Yn Mawrth 2021 derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb (SP30) yn hytrach na’r 3 pwynt arferol gan ei bod yn gyrru HGV. Bydd y pwyntiau hyn yn dod i ben Rhagfyr 2025.

 

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig yn ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.3 sydd yn nodi y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trwyddedu os oes mwy na dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded

  

 

CASGLIADAU

 

Wedi ystyried darpariaethau’r Polisi ac esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at dderbyn pwyntiau cosb yn 2020 a 2021 ac argymhelliad y swyddogion trwyddedu roedd yr Is- bwyllgor o’r farn ei bod yn briodol i ganiatáu’r cais.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.