Agenda item

Cwrw Tŷ Mo, Cwrw Ogwen,  5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda, Bangor

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Cofnod:

Cwrw Ty Mo, Cwrw Ogwen, 5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda, Bangor

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Mr Morgan Vallely (Ymgeisydd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo newydd gan Cwrw Tŷ Mo, Cwrw Ogwen, 5 Rhes Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda lle mae bwriad i weithredu'r eiddo fel bragdy a bar. Eglurwyd bod trwydded eiddo eisoes yn bodoli ar gyfer yr eiddo, ond bod hwn yn gais am drwydded newydd fyddai’n caniatáu gwerthiant alcohol ar ac oddi ar yr eiddo tan hanner nos 7 diwrnod yr wythnos, a hawl i gynnal adloniant tu mewn a thu allan tan 11 yr hwyr yn ddyddiol.  Er nad oedd cynnydd cyffredinol yn yr oriau gweithgareddau trwyddedig, roedd yr ymgeisydd yn ceisio'r hawl i gynnal gweithgareddau trwyddedig yn hwyrach na’r drwydded gyfredol, ond peidio agor tan amser cinio.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd sylwadau i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail y ffaith fod angen mesurau digonol i sicrhau cydymffurfiad gyda’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Mynegwyd pryder am yr oriau hwyr ychwanegol ar gyfer gweithgareddau trwyddedig o ystyried bod fflat uwch ben a naill ochr i’r bragdy a thafarn, ac effeithiolrwydd strwythur yr adeilad o ran ynysu’r anheddau hynny rhag sŵn cerddoriaeth. Argymhellodd y swyddog amodau sŵn penodol i’w cynnwys ar atodlen weithredol yr eiddo (yn ychwanegol i’r amodau a gynigwyd gan yr ymgeisydd yn rhan M o’r cais).

 

Cafwyd cadarnhad ysgrifenedig gan yr ymgeisydd ei fod yn derbyn yr amodau a gynigwyd a mynegwyd nad oedd bwriad cynnal nosweithiau adloniant / cerddoriaeth byw mwy nag unwaith y mis, fydd yn gorffen am oddeutu 22:00.

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rheinallt Puw yn gefnogol i’r cais, yn nodi mewn e-bost, “... yn cefnogi’r cais yma 100%. Braf iawn gweld menter newydd yn adfywio’r Stryd Fawr.”

 

O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn ddarostyngedig i gynnwys amodau ychwanegol rheoli sŵn a argymhellwyd gan Gwarchod y Cyhoedd ac yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r ymgeisydd.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Ei fwriad oedd ymestyn yr oriau presennol hyd 22:00 gyda chyfle i gynnal rhai digwyddiadau tan 1:00 rhyw unwaith y mis, ar ŵyl y banc ac ambell benwythnos

·         Bod tafarndai eraill yn gweithredu oriau tebyg

·         Bod yr eiddo wedi ei leoli ar y stryd fawr

·         Os bydd cwynion sŵn yn cael eu cyflwyno, ei fod yn barod i osod offer ynysu sŵn, ond mai rhedeg yr eiddo fel ‘tap room’ oedd ei flaenoriaeth ac nid chwarae cerddoriaeth.

·         Os cerddoriaeth, defnyddio DJ neu gerddor, unwaith y mis

·         Ei fod wedi cytuno gyda’r amodau a gynigwyd gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd.

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lle i faint o gwsmeriaid sydd yn yr eiddo, nododd yr ymgeisydd bod y safle yn fach iawn a bod lle efallai i hyd at 30 person ynddo.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pharodrwydd yr ymgeisydd i dderbyn yr amodau a gynigwyd ac i reoli sŵn, nododd yr ymgeisydd ei fod yn fwy na bodlon derbyn yr amodau hyn.

 

Nid oedd gan yr ymgeisydd sylwadau ychwanegol i grynhoi ei achos.

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu:

·           Nad oedd cais yma am oriau ychwanegol i’r drwydded bresennol

·           Er nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd, bod angen i’r ymgeisydd fod yn ymwybodol bod sensitifrwydd sŵn yn cynyddu gyda’r nos

 

d)            Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, penderfynwyd caniatáu’r  cais  yn ddarostyngedig i gynnwys amodau ychwanegol rheoli sŵn a argymhellwyd gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r ymgeisydd.

 

Rhoddir ychwanegiadau i’r drwydded fel a ganlyn:

 

·         Ni chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LAeq 15 munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5, 63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw eiddo preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo ar agor neu ar gau) o ganlyniad i sŵn adloniant yn deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas yr amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142:2014

·         Er mwyn arbed sŵn a dirgrynant adael yr eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn ystod yr adloniant, heblaw am fynediad i mewn ac allan o’r eiddo.

·         Ni chaniateir gosod unrhyw seinyddion ar gyfer ymhelaethu cerddoriaeth yn allanol.

·         Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00. Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu dystiolaeth o drosedd ac anhrefn fel sail i gyfiawnhau gwrthwynebu’r cais.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd tystiolaeth yn berthnasol i’r egwyddor  hwn.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, cyflwynwyd gwrthwynebiad i’r cais oherwydd bod fflatiau preswyl wedi eu lleoli ar y ddwy ochr i’r adeilad a fflat wedi ei leoli uwchben y bragdy. O ganlyniad, awgrymwyd amodau ychwanegol i’w cynnwys ar y drwydded. Cadarnhaodd Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd Cyngor Gwynedd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau sŵn penodol i’w cynnwys ar atodlen weithredol yr eiddo (yn ychwanegol i’r amodau a gynigwyd gan yr ymgeisydd yn rhan M o’r cais). Roedd yr is-bwyllgor hefyd wedi ystyried nad oedd cwynion wedi eu derbyn pan roedd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar yr eiddo tan 20:30, ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan gymdogion.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10:00 a daeth i ben am 11:00

 

 

Dogfennau ategol: