Agenda item

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Cofnod:

Cymerodd  yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno i Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin a hynny mewn cyfnod byr iawn. Rhoddodd ddiweddariad i’r aelodau ar eu cyfrifoldebau a diolchwyd iddynt am y cydweithio da.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai arferol fyddai cyflwyno’r cyfrifon cyn yr haf, ond gan nad oedd cyfarfod o’r Pwyllgor ym Mehefin, dyma’r cyfle cyntaf i’w cyflwyno. Ategwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon gan y Pwyllgor yma yn Rhagfyr.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2022/23, wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 25ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2022/23, yn cael eu cwblhau

1.      Cyngor Gwynedd

2.      Cronfa Bensiwn Gwynedd

3.      GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

4.      Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor o sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

5.      Harbyrau Gwynedd a

6.      Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn (cyflwynwyd i gyfarfod 25 Mai 2023 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio).

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:

·         Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £37 miliwn yn ystod y flwyddyn i gymharu gyda £37 miliwn hefyd yn y flwyddyn flaenorol.

·         Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb

·         Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023, sef yr un lefel â Mawrth 2022. Bod Reserfau yn amlygu lleihad yn y cronfeydd £106 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2022 o gymharu  â £104 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023.

·         Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad £4.8m ym malansau ysgolion - £17 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2022 i gymharu â £12 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023.

·         Bod dipyn o symudiad wedi bod yn sefyllfa’r fantolen erbyn Mawrth 2023 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol oherwydd Ymrwymiad Pensiwn. Eglurwyd nad oedd  y mater yn unigryw i Wynedd ond yn hytrach yn ddarlun cyffredinol oherwydd amodau’r farchnad. Ar 31 Mawrth 2023, roedd gan y Cyngor ymrwymiad pensiwn o £242 miliwn, ond ar 31 Mawrth 2023, roedd gwerth yr asedau yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau gyda sefyllfa ased net o £136 miliwn.  Y rheswm am hyn yw bod prisiad yr actiwari yn defnyddio bondiau corfforaethol, a gan fod cynnyrch rhain wedi bod yn uchel, mae wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel sy'n rhoi gwerth sylweddol is ar yr ymrwymiadau pensiwn.  Ategwyd nad yw’r safon cyfrifo pensiynau yn caniatáu dangos ased ar gyfer cynllun pensiwn buddiannau diffiniedig, felly, addaswyd gwerth yr ased ar y fantolen i £0. Nodwyd bod yr Adran Cyllid yn disgwyl cyfarwyddiadau pellach gan Archwilio Cymru a CIPFA ar y mater, ac os bydd angen unrhyw newid i’r driniaeth yn dilyn derbyn cyfarwyddiadau, bydd yr addasiad yn cael ei weithredu erbyn y Datganiad Cyfrifon terfynol. 

 

Cyfeiriwyd hefyd at Nodyn 10 - Gwybodaeth fanwl am gronfeydd sydd yn cynnwys  Reserfau wrth gefn a glustnodwyd: Balansau Ysgolion, Reserfau a Glustnodwyd yn cynnwys dadansoddiad o’r £104 miliwn o gronfeydd wrth gefn (gan gynnwys y prif rai sef reserfau cyfalaf, cronfa cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd at Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf sydd yn cynnwys gwaith cyfalaf Ysgol Treferthyr, Cricieth – y symiau a’r taliadau hyd yma.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran am y gwaith manwl, gan wahodd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Yn llongyfarch y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol ar gyflwyno’r adroddiad mewn modd diddorol a dealladwy. Yr adroddiad yn gynhwysfawr

·         Yn llongyfarch yr Adran ar gwblhau’r gwaith o fewn amserlen dynn

·         Bod cadw arian wrth gefn yn angenrheidiol ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r Ymrwymiad Pensiwn ac os y byddai’r mater yn creu ansefydlogrwydd, nodwyd mai amodau’r farchnad a chwyddiant oedd yn gyfrifol am y sefyllfa ac mai mater technegol ydoedd mewn gwirionedd.  Mae’r yn sefyllfa anarferol yn ymwneud â chofnodi technegol yn hytrach na mater ariannol.

 

Yng nghyd-destun cronfeydd wrth gefn a’r ffaith eu bod wedi eu clustnodi ar gyfer meysydd penodol, gofynnwyd beth fuasai yn digwydd petai rywbeth annisgwyl yn codi e.e., cinio ysgol am ddim.  Nodwyd bod cronfeydd penodol ar gyfer gweithredu blaenoriaethau’r Cyngor a bidiau un tro, ac o’r gronfa yma y byddai modd cyllido rhywbeth annisgwyl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygu cronfeydd reserfau a glustnodwyd o ystyried nad oedd gwariant ar rai o’r cronfeydd hynny eleni a’r tebygolrwydd o’r angen am arian ychwanegol ar gyfer y gyllideb flwyddyn nesaf, nodwyd bod y cronfeydd hyn yn cael eu hadolygu yn flynyddol gyda’r Prif Weithredwr. Ategwyd mai’r bwriad yw adfer rhai cronfeydd a chynhaeafu eraill gan sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y dyfodol ac i gyllido sefyllfaoedd annisgwyl (Cronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol yn enghraifft o hyn). Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â pham na ellid trosglwyddo Cronfa Trefniadau Adfer yn Sgil Covid 19 i’r reserfau cyffredinol, nodwyd bod yr arian yma yn ganlyniad o dderbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig a bod y Gronfa wedi ei chreu wrth gau cyfrifon y flwyddyn berthnasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2022/23.

 

Dogfennau ategol: