Agenda item

I ystyried a nodi’r adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2022/23, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 3ydd Mawrth 2022. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod £1.8m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £0.4m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yn sylweddol uwch na’r gyllideb oherwydd gosodwyd y gyllideb mewn cyfnod pan roedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75%; erbyn Mawrth 2023 roedd yn 4.25%.

 

Ar y 31 Mawrth 2023 roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys £57 miliwn o arian y Bwrdd Uchelgais a £18 miliwn y Cronfa Bensiwn. 

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau tymor canolig/ tymor hir sydd yn dod a lefel incwm da iawn, a gyda lefelau arian y Cyngor yn iach, yr Uned Buddsoddi yn edrych ar fuddsoddiad pellach i’r cronfeydd yma yn y dyfodol agos.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys y Cyngor -  hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw un (Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn amodau llog isel Mawrth 2022 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r angen i ail osod y dangosydd nad oedd yn cydymffurfio, nodwyd mai Arlingclose sydd yn awgrymu’r dangosyddion y dylid eu defnyddio. Derbyniwyd y sylw fel un teg a gan nad yw’r amod llog o 1%  bellach yn berthnasol i’r amgylchiadau presennol, byddai’n amlygu’r sylw i Arlingclose yn eu cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â benthyca i Gynghorau eraill, nodwyd bod y Cyngor yn parhau i wneud hyn a hynny i Gynghorau sydd yn ddiogel. Nodwyd bod gan Arlingclose restr o’r Cynghorau hynny na ddylid buddsoddi ynddynt. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hysbysiad adran 114 a’r tebygolrwydd y byddai hawl gan y cynghorau a fenthycwyd iddynt beidio gorfod talu'r benthyciad yn ôl, nodwyd bod Arlingclose wedi cadarnhau y bydd rhaid i’r Cynghorau hynny dalu'r benthyciad yn ôl sydd yn wahanol i drefniadau buddsoddi gyda chwmni preifat. Ategwyd mai’r sefyllfa waethaf oedd efallai na fyddai’r llog yn cael ei ad-dalu, ond byddai hynny gysystyr ag ail negodi telerau’r benthyciad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â benthyca i Cynghorau lleol ac os oes rhai Cynghorau yn edrych yn fwy simsan na’i gilydd (o ystyried cyhoeddiad gan Cyngor Birmingham yn ddiweddar yn nodi na all fantoli ei gyllideb heb gymorth), nodwyd bod y rhestr bresennol o Gynghorau na ddylid buddsoddi ynddynt yn gyfredol a’r sicrwydd gan Arlingclose yn cael ei wirio yn foreol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Dogfennau ategol: