Agenda item

I ystyried cynnwys y ddogfen drafft ar gyfer 2022/23 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

 

Yn unol â gofyn statudol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cyflwynwyd adroddiad gan y Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn adrodd ar Berfformiad Blynyddol ac Hunanasesiad y Cyngor gan edrych yn ôl ar 2022/23. Awgrymodd bod y gofyn statudol yn ychwanegiad i’r diwydiant ‘geiriau’ ac yn cwestiynu os hynny yn ychwanegu gwerth. Er hynny rhaid derbyn bod pwysigrwydd mewn cynnal hunanasesiad parhaus, yr angen am drefn gadarn a chyfle i’r Weithrediaeth gynnal sgwrs ynghylch bodlonrwydd y gofynion yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Diolchwyd i’r tîm o brif swyddogion oedd wedi paratoi'r Hunanasesiad  ac i’r Pwyllgor am eu gwaith o adolygu’r adroddiad gan gynnig sylwadau / argymhellion ar gyfer newidiadau i’r casgliadau neu’r camau y mae’r Cyngor yn  bwriadu eu cymryd.

 

Amlygwyd yr her o egluro ‘gwaith y Cyngor’; yr her o osod cyllidebau a’r angen i’r cyhoedd ddeall hyn. Nodwyd hefyd bod nifer o’r gwelliannau oedd wedi eu hadnabod yn hunanasesiad 21/22 yn parhau yn yr adroddiad oherwydd bod nifer o’r gwelliannau yn faterion hirdymor ac mai ym mis Rhagfyr y cyhoeddwyd yr hunanasesiad ar gyfer 2021/22. Bydd trefniadau i adrodd ar gynnydd y gwelliannau yn ystod y flwyddyn yn cael eu cyflwyno.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y gair ‘addas’ yn ddadleuol yng nghyd-destun ‘…cael hi’n anodd denu aelodau lleyg ac aelodau etholedig addas i fod ar y pwyllgor …’

·         Awgrym i gynnwys eglurhad byr o’r dystiolaeth cyn y casgliadau - annhebygol fydd rhai yn agor pob dolen yn yr adroddiad a/neu sicrhau bod y casgliad yn gryno ac effeithiol fyddai’n crynhoi’r dystiolaeth - haws i’r cyhoedd ei ddeall. Roedd derbyniad nad oedd hyn yn ymarferol ar gyfer y fersiwn hon o’r adroddiad ond cytunwyd i ystyried hyn ar gyfer y fersiwn nesaf.

·         Bod angen sicrhau bod y dogfennau / ffynonellau tystiolaeth yn gyfredol (nifer o’r dolennau yn rai ar gyfer adroddiadau 2021/22 - hyn yn wendid). Nodwyd fod y ddogfen hon yn cael ei pharatoi cyn i nifer o ddogfennau/ffynonellau tystiolaeth eraill ar gyfer y flwyddyn dan sylw gael eu mabwysiadu. O ganlyniad nid oedd modd cynnwys dolennau er fod cydweithio rhwng yr awduron pan yn llunio’r adroddiad.

·         Bod trigolion y Sir gyda dealltwriaeth o feysydd gwaith y Cyngor, ond efallai dim o’r cymhlethdodaucyfrifoldeb yma i egluro gwaith y Cyngor i drigolion

·         Bod angen codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gydag etholwyr newydd – plant ysgol

·         Cais i’r gweithgor o swyddogion sydd yn datblygu fframwaith effeithlon ar gyfer mesur gwerth am arian o fewn y drefn herio perfformiad i gyflwyno eu canfyddiadau i’r Pwyllgor

·         Awgrymwyd y dylai aelodau’r Pwyllgor (ac yn benodol aelodau lleyg) dderbyn hyfforddiant am egwyddorion Ffordd Gwynedd

·         Bod angen cysondeb o fewn arddull ymateb yr adrannauawyddus gwella hyn i’r dyfodol

·         Angen amlygu balchder yn yr hyn sydd yn cael ei wneud yn dda

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd sylwadau’r Pwyllgor ar faterion megis Cartrefi Gofal, Digartrefedd ayyb wedi eu cynnwys yn yr adroddiad fyddai yn pontio gwaith y Cyngor gyda gwaith y Pwyllgor, nodwyd mai cyfrifoldeb y Penaethiaid oedd cynnwys yr ymateb. Y sylw yn rhy hwyr ar gyfer ei ychwanegu eleni, ond yn sicr yn sylw ar gyfer adroddiadau’r dyfodol.

 

            Sylwadau Adroddiadau Perfformiad (dim yn rhan o gyfrifoldeb swyddogol y Pwyllgor)

·         Creu Swyddi Gwerth Uchel (cyflog £31,300 neu fyw) - y cyflog i’w weld yn isel o ystyried costau prynu tŷ yn yr ardal. Angen gwell cyflogau i gadw ieuenctid yn lleol.

·         Angen hyrwyddo a chreu proffil cefndirol o brentisiaid y Sir - sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg

·         Pryder am faterion cyfreithiol ynglŷn â throsglwyddiadau tir a phrydles Ysgol y Faenol - cais i Archwilio Mewnol am wybodaeth bellach  / adolygiad o’r sefyllfa

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: