Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022-23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad 2022/23.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor a’r Tîm am eu gwaith yn paratoi’r adroddiad.  Yna cyfeiriodd at y sefyllfa gyllidol anodd dros ben sy’n wynebu’r Cyngor, gan nodi:-

 

·         Nad oedd yn argoeli’n dda i setliad cynghorau sir ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac er bod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa gyllidol gref, a’n bod wedi ymfalchïo dros y blynyddoedd yn y ffaith ein bod yn effeithiol yn delio gydag arian y Cyngor, y byddai’r Cyngor hwn hefyd yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn y tro hwn.

·         Bod mwyafrif arian y Cyngor yn cael ei wario ar addysg, oedolion a phlant, sef y meysydd hynny sy’n meithrin dyfodol ein plant ac yn gofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, a phe dymunid amddiffyn y gwasanaethau hynny, o ble fyddai’r toriadau pellach yn dod?

 

Anogwyd pawb o’r aelodau i fynychu un o’r 3 gweithdy arbedion a drefnwyd ym mis Hydref.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at rai materion penodol, gan nodi:-

 

·         Bod y gostyngiad o 4,500 ym mhoblogaeth Gwynedd, gyda 1,400 yn llai o aelwydydd yn y Sir (yn ôl ffigurau’r Cyfrifiad diwethaf) yn destun pryder iddo gan fod hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein setliad o £1.6m.  Yn fwy na hynny, roedd yna ystyriaethau economaidd sylweddol iawn o golli poblogaeth, sy’n rhoi mwy fyth o bwys ar ein gwaith wrth geisio datblygu’r economi, denu swyddi o safon uchel i’r ardal a denu pobl ifanc yn ôl i Wynedd.

·         Bod y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd yn arloesol ac yn gosod y safon drwy Gymru gyfan, e.e. y drefn drochi newydd, ac na chytunai â’r feirniadaeth gyhoeddus sydd wedi bod o drefn addysg Gwynedd.

·         Bod Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn un o’r ymyraethau sydd gan y Cyngor yn y maes tai i geisio cael rheolaeth ar y llif o ail-gartrefi a gosod tymor byr sy’n niweidio ein cymunedau ac yn cyfrannu at y diboblogi a welir yn y Cyfrifiad.  Er hynny, ni chredid y byddai Erthygl 4 yn cael gymaint o effaith ag y mae pobl yn credu, ac ni chredid chwaith y byddai mor effeithiol â hynny yn cael rheolaeth ar y maes ail gartrefi.  Cydnabyddid bod yna bryder ynglŷn ag Erthygl 4, a byddai’r Cyngor yn edrych yn ofalus iawn ar y pryderon hynny wrth ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, gan gymryd cyngor cyfreithiol ychwanegol, petai angen, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn.  Byddai’r gwaith o ddadansoddi canlyniadau’r ymgynghoriad yn digwydd o hyn i ddiwedd y flwyddyn, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

·         Bod yna broblem sylweddol o ran y ddarpariaeth gofal dwys ar draws y sir, a bod y datblygiad ym Mhenrhos yn o’r cynlluniau arloesol gwych sydd gan y Cyngor, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a Chymdeithas Tai Clwyd Alun, i gyfarch hynny.

·         Gan fod nifer sylweddol o aelodau yn pryderu a yw’r Polisi Tai Cyffredin yn wirioneddol roi blaenoriaeth i bobl leol, ei fod wedi cyfarwyddo’r Gwasanaeth i drefnu cyfarfod er mwyn deall beth yn union sy’n cael ei gynnig gan y polisi tai presennol.  Ychwanegodd y byddai’n annog unrhyw aelodau sydd â phryder i ddod i’r cyfarfod, gan mai dyma’r cyfle i ddeall beth sy’n digwydd, ac efallai i fedru gwyro polisïau.

·         Bod yna bryder hefyd ynglŷn â’r problemau a welir yn ein cymunedau o ran y trefniadau ailgylchu, a bod y Cyngor yn cynnal trafodaethau ar y lefel uchaf bosib’ er mwyn mynd i wraidd y broblem a cheisio datrysiad buan i’r sefyllfa.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gofynnwyd i’r Arweinydd a oedd yn cefnogi’r bwriad i gynyddu nifer yr aelodau seneddol yng Nghaerdydd i 96, ar gost amcangyfrifiedig o £17.8m y flwyddyn.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi hynny 100%, oherwydd os ydym o ddifri’ ynglŷn â llywodraethu ein gwlad ein hunain, rhaid cael digon o bobl i wneud y gwaith, ac roedd y Llywodraeth, ar y cyd â Phlaid Cymru, wedi adnabod bod angen yr aelodau ychwanegol yma i wneud y gwaith o graffu Llywodraeth Cymru.  Nododd ymhellach nad oedd arian ‘Levelling Up’ Llywodraeth Doriaidd San Steffan yn lefelu dim byd i fyny; na chafodd Cymru'r arian oedd yn ddyledus iddi o HS2 ac nad oedd y ‘Shared Prosperity Fund’ yn ymwneud â rhannu cyfoeth o gwbl.  Arian Cymru oedd hwn, arian ddaeth allan o Ewrop, ond roedd Llywodraeth San Steffan yn talu llai i Gymru na’r hyn a addawyd.  Nododd hefyd nad oedd Llafur Lloegr ddim gwell, a bod hwythau â’u bryd ar danseilio hawliau Cymru.

·         Gan gyfeirio at Flaenoriaeth Gwella 4 - Mynediad at gartrefi addas, holwyd ymhle yr adeiladwyd y 173 o dai cymdeithasol oedd wedi’u codi ar draws Gwynedd ers dechrau’r Cynllun Gweithredu Tai.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr fod y tai wedi’u hadeiladu drwy’r Grant Tai Cymdeithasol dros gyfnod o 2, neu bosib’ 3 blynedd bellach, ac y byddai’n hapus i rannu gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r 173 gyda’r aelod.

·         Nodwyd bod nifer y cyfeiriadau o dan y drefn Trefniadau Amddiffyn rhag Colli Rhyddid ar gynnydd eto, a holwyd pam bod y Cyngor yn gorfod cael pobl o’r tu allan i’w helpu gyda’r asesiadau, oherwydd y deellid ein bod wedi hyfforddi staff mewnol i wneud y gwaith.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr fod yna staff mewnol yn gwneud yr asesiadau, ond oherwydd ôl-groniad gwaith, bod yna hyfforddiant pellach yn digwydd, ac o bosib’ y byddai angen dod â phobl ychwanegol i mewn i helpu gyda’r gwaith hefyd.  Nododd y byddai’n hapus i drafod ymhellach gyda’r aelod.

·         Holwyd a ystyriwyd beth sy’n mynd i ddigwydd ym Mhen Llŷn pan fydd yna, o bosib’, lai o fysus yn rhedeg o ganlyniad i’r cyfyngiad cyflymder 20mya.  Nodwyd nad oedd yna rwydwaith llwybrau beicio yn yr ardal chwaith, ond eto roedd y trigolion yn gorfod wynebu’r cyfyngiad cyflymder 20mya.  Mynegwyd pryder am y gofalwyr a nodwyd bod yna brinder tacsis ym Mhen Llŷn i fynd â phobl adref ar ôl bod yn cymdeithasu.  Nodwyd bod yr Arweinydd wedi cyfeirio eisoes at y gostyngiad ym mhoblogaeth Gwynedd, ond roedd cefn gwlad yn gwagio gan nad oedd dim byd ar ôl yno i bobl.  Roedd gwasanaethau’n cael eu torri ac yn mynd ymhellach oddi wrth y boblogaeth wledig, ac yn hytrach na chael mwy o aelodau seneddol yng Nghaerdydd, byddai’n well i’r rhai sydd yno’n barod wneud eu gwaith yn well.  Roedd Cyngor Gwynedd wedi cael ei wanio drwy orfod gostwng o 75 i 69 aelod, gyda’r 10 aelod cabinet yn gwneud y penderfyniadau.  Mewn ymateb, nodwyd, petai’r cyfyngiad cyflymder 20mya yn arbed un bywyd yn unig, y byddai wedi bod werth cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

·         Mynegwyd pryder nad oedd yr heddlu’n gorfodi’r cyfyngiad 20mya mewn rhai ardaloedd, ac yn neilltuol felly yng Ngorllewin y sir ac o flaen ysgolion, a holwyd a allai’r Cyngor roi pwysau o ran hynny.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr mai polisi’r heddlu a’r Llywodraeth ar draws y wlad ar hyn o bryd o ran y cyfyngiadau cyflymder newydd oedd y byddai yna gyfnod o addysgu i gychwyn, cyn symud ymlaen i orfodaeth.  Dymunid gweld yr heddlu’n ceisio blaenoriaethu rhagor o adnoddau prin ar gyfer y maes yma.  Roedd sgyrsiau’n digwydd ynglŷn â hynny a chadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’n pasio’r neges ymlaen yn y sgwrs nesaf hefyd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag enwau llefydd Cymraeg dan yr adran ‘Y Gymraeg a’r Gwasanaethau Cyhoeddus’ o’r adroddiad, cadarnhawyd mai polisi’r Cyngor oedd defnyddio’r Gymraeg yn unig bob tro.

·         Mynegwyd y farn nad oedd y Cyngor yn rhoi digon o sylw i bobl ifanc.  Cyfeiriwyd at enghraifft o gwpl ifanc lleol oedd wedi cyflwyno cais cynllunio am dŷ 3 llofft, ond wedi cael caniatâd i godi tŷ 2 lofft yn unig, ac wedi’u cynghori i ddod yn ôl gyda chais am estyniad i’r tŷ yn nes ymlaen i gael y 3ydd llofft.

·         Mynegodd aelod ei phryder nad oedd wedi derbyn copi papur o raglen y cyfarfod hwn gan nodi nad oedd yn bosib’ iddi weithio ar-lein oherwydd diffyg signal yn ei chartref.  Mewn ymateb, eglurwyd bod penderfyniad wedi’i wneud yn ddiweddar i symud tuag at Gyngor di-bapur o ran yr wybodaeth sy’n cael ei rhannu gyda’r aelodau, ond bod eithriad wedi’i wneud yn yr achos dan sylw am y rhesymau a nodwyd.  Deellid bod hynny wedi’i gyfathrebu gyda’r aelod eisoes, a byddai’n derbyn copïau papur o raglenni cyfarfodydd o hyn allan.

·         Croesawyd y trosolwg o’r flwyddyn ar gychwyn yr adroddiad sy’n rhoi ciplun o rai o brif gyflawniadau’r Cyngor.  Nodwyd bod y 5 Tîm Tacluso yn gwneud gwaith rhagorol, a diolchwyd i’r 2 sy’n gweithio’n ddiwyd yn Llŷn am eu gwaith rhagorol yn tacluso’r strydoedd a’r pentrefi.  Nodwyd hefyd ei bod yn dda cyrraedd y garreg filltir lle mae’r holl lampau stryd wedi’u hamnewid i dechnoleg LED.  Er hynny, awgrymwyd bod y trosolwg braidd yn gamarweiniol ar brydiau, e.e. nodir bod 104 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd, ond ffigwr dros 3 blynedd yw hynny.

·         Croesawyd y ffaith bod yr adroddiad yn tanlinellu’r llwyddiannau heb guddio’r gwendidau ac yn rhoi darlun teg a gonest o’r perfformiad yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022-23.

 

Dogfennau ategol: