I ystyried adroddiad
cynnydd gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Chadeirydd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yn erbyn prif argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref - Rhan 2.
Gosodwyd y cefndir gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a
rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor graffu’r cynnwys.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(a)
Mewn ymateb i sylw wnaed
am brinder meddygon teulu a nyrsys yng Ngwynedd yn
enwedig yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, esboniodd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a
Môn bod y prinder yn broblem genedlaethol ac o ran Gogledd Cymru nodwyd bod mwy
o broblem yn ardal Wrecsam. Nodwyd ymhellach bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn
arian yn y swm o £4.9m gan lywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cychwynnol sy’n
galluogi sefydlu timau amlddisgyblaethol o gwmpas y meddygon teulu fyddai’n
cynnwys nyrsys, therapyddion ychwanegol, cynnig awdioleg
allan i’r gymuned, yn ogystal â fferyllwyr ychwanegol. O safbwynt meddygon teulu, bod camau ar y
gweill i geisio cael ieuenctid yn ôl i’w cymunedau
fel rhan o gynllun “Outstanding GP Development Programme”. Llwyddwyd i ddenu 5 yn ôl i’r Bwrdd Iechyd
gyda dau feddyg teulu yn gweithio yng Ngwynedd - un
yn Nefyn a’r llall yng Nghaernarfon.
Hyderir y gellir denu mwy o ieuenctid ac y
byddai’n rhoi cyfle iddynt weithio hanner amser fel meddyg teulu a’r hanner
arall yn arbenigo mewn maes arbennig.
(b)
Bod canmoliaeth i’r nyrs ychwanegol ym Motwnnog ynghyd âr fferyllwyr gyda phobl yn ymddiried
ynddynt. Ychwanegwyd am yr angen i
gydweithio gyda’r trydydd sector ac ni ddylid gweld dirywiad yn y
gwasanaeth.
Mewn ymateb, nododd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod
perthynas dda gyda Mantell Gwynedd a thrwy arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth
Cymru, hyderir y gellir gweithredu cynllun “Social Prescribing” gyda’r trydydd
sector.
Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod gwell dealltwriaeth rhwng y
Cyngor a’r trydydd sector wedi datblygu erbyn hyn a bod yn rhaid ystyried ffurf
wahanol o weithio ar y cyd. Crybwyllwyd
prosiect Her Gofal sy’n gweithio hefo cymunedau a nodwyd pwysigrwydd o’r holl
waith integreiddio bod y trydydd sector yn rhan allweddol o’r tîm
integreiddio.
(c)
Pwysigrwydd i hysbysebu
a rhoi gwell dealltwriaeth yn enwedig i’r bobl hŷn o’r cynllun “Advance Nurse Practitioner”.
Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith datblygu ar y cynllun uchod dros y 2/3
blynedd nesaf. Cydnabuwyd bod angen ei
hyrwyddo ac yn enwedig i staff derbynfeydd y meddygfeydd teulu. Sicrhawyd hefyd
y byddir yn darparu erthygl bwrpasol ar gyfer y wasg leol ynghyd a’r cyfryngau
cymdeithasol am y Timau Aml-astianaethol. Hyderir y gellir
treialu mwy nag un model lle gall nyrsys ymweld a chynnal ymweliad i gartrefi
ac roedd cynllun yn cael ei dreialu ym Mhen Llŷn ers mis Ionawr. Byddir yn datblygu newyddion da
(ch) Mewn
ymateb i sylw wnaed ynglŷn ag unigolyn bregus yn mynd adref o’r ysbyty at
oedolyn bregus arall, sicrhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio datblygu cynllun “Discharge to assess” lle fyddir
yn sicrhau bod unigolion yn cael eu hasesu o fewn diwrnod neu dda wedi iddynt
ddychwelyd adref.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y
dylid cydweithio fel rhan o’r broses i sicrhau bod unigolion yn derbyn
gofalaeth. Nodwyd ymhellach bod
recriwtio gofalwyr cartref yn peri pryder mewn rhai ardaloedd a bod angen hyrwyddo’r
swydd i ddenu pobl ifanc.
(d)
Gwnaed sylw efallai bod
pwysau i symud unigolion allan o’r ysbytai i’w cartrefi a hynny mewn rhai
achosion yn gynamserol ac oni ddylid sicrhau gwelyau iddynt mewn Ysbytai
cymunedol i gryfhau cyn mynd adref.
Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod cydweithio
yn bwysig ac yn benodol gyda’r Timau Integredig i sicrhau gofalaeth i unigolion
yn y cymunedau.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod angen gwneud mwy o waith ynglyn a chefnogaeth i ofalwyr di-dal.
(dd)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a threfniadau
Ysbyty Alltwen, cydnabuwyd ei fod yn llwyddiant er bod gan y Bwrdd Iechyd a’r
Cyngor strwythurau llywodraethu gwahanol.
Hyderir y byddir yn symud ymlaen o fewn y misoedd nesaf i ymestyn y
Timau Integredig.
(e)
Nododd yr Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd,
bod y sefyllfa yn y maes yma yn argyfyngus yn nhermau adnoddau ariannol a dynol
ac felly rhaid addasu’r ffordd o gyfarch y problemau. Cydnabuwyd bod llawer i’w gyflawni mewn
ffyrdd gwahanol er mwyn cael canlyniad gwell i unigolion.
(f)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn
a gwelyau ‘step-up – step-down’ ym Mhlas Pengwaith, Llanberis a chartrefi eraill eglurodd y Pennaeth
Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod trefniadau yn cael eu gwneud i
newid natur a rhaniad daearyddol y ddarpariaeth gan nad oedd y trefniant
blaenorol wedi bod yn gwbl llwyddiannus.
(ff)
Esboniodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol gan gyfeirio at lythyr anfonwyd at Albert
Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant
a Theuluoedd i fynegi pryder ynglŷn â phroblemau o ran y ddarpariaeth
cartrefi nyrsio preifat a hefyd mewn recriwtio nyrsys ar eu cyfer. Hyderir y
byddir yn gallu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y mater gydag opsiynau i’w
hystyried oddeutu mis Mai.
(g)
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
ymhellach i’r cyswllt wnaed gyda
Margaret Flynn (awdur adroddiad Winterbourne) ac y byddir yn trafod ymhellach ei phrofiad gyda
Phencampwr Pobl Hŷn, Pencampwr Gofalwyr, Y Cynghorwyr Beth Lawton ac Angela Russell, ynghyd ag un aelod sydd wedi cael profiad
personol. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd
Elin Walker Jones, Pencampwr Awtistig fod yn rhan o’r drafodaeth uchod.
(ng) O safbwynt cadw nyrsys, esboniwyd nad oedd y
rhifau sydd yn cael eu derbyn drwy Brifysgol Bangor yn ddigonol. Fe gollir rhai nyrsys wrth iddynt arbenigo
mewn maes arbennig yn ogystal â’u colli drwy
fiwrocratiaeth. Hyderir drwy newid y
model a’r ffordd o weithio, y byddir yn lleihau’r gwaith papur i alluogi nyrsys
i roi mwy o ofal i gleifion. Yn atodol,
bod nyrsys yn dueddol i ffafrio swyddi mewn Ysbytai yn hytrach na nyrsio mewn
cartrefi nyrsio. Cydnabuwyd bod darn o
waith i’w gyflawni yn hyn o beth i weld sut y gellir
codi proffil Nyrs Gofal Cartref.
Penderfynwyd: (a) Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.
(b) Cymeradwyo bod y gwaith yn datblygu ac i
(i)
barhau i gydweithio gyda’r gwaith gofalwyr
(j)
Hyrwyddo a hysbysebu’r
trefniadau Timau Amlasiantaethol (ANP)
(k)
Raglennu gwaith dilynol ar drefniadaeth Ysbyty Alltwen ynghyd a gyrfa yn
y maes gofal yng Ngweithdy Blynyddol y Pwyllgor Craffu hwn sydd i’w gynnal ar
28 Ebrill 2016.
Dogfennau ategol: