Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu – amodau
1. Amser
2. Yn unol â
chynlluniau
3. Deunyddiau
4. Cynllun Rheoli Adeiladu
5. Materion Bioamrywiaeth
6. Materion yn ymwneud a’r clogwyn
7. Gwarchod y llwybr cyhoeddus
8. Tynnu hawliau PD
8. Withdrawal of PD rights
Cofnod:
Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni
Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23
a)
Amlygodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r
penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau
gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad.
Nodwyd mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le
ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ
newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a
gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a
charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi
ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal
Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen
i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn
gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn
arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac
ymlaen at y traeth islaw.
Eglurwyd
bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr
1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu
edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r
safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Enlli a thu
allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r
cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a
dderbyniwyd oedd yn cynnwys gorffeniadau
allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr
AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol).
Ategwyd,
yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol
sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod
ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y
cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r
cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly'r llwybr yn aros
fel y mae. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd
i’r clogwyni ac effaith andwyol ar yr ardal.
Yng nghyd-destun polisïau perthnasol,
cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i
ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir
ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos
yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac
felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI yn ymwneud yn benodol
ag ail-adeiladu tai ac yn gosod cyfres o feini prawf mae'n rhaid cydymffurfio â
nhw (lle bo'n briodol) er mwyn caniatáu cynlluniau o’r fath.
Nodwyd bod y cais
yn amlwg wedi golygu cryn graffu arno oherwydd nifer o ystyriaethau arbenigol
na fyddai yn arferol i’w canfod i’r un graddau o leiaf, gyda mwyafrif ceisiadau
Cynllunio i ddymchwel ac ail gosi tai preswyl. Adroddwyd bod cwmnïau a/neu
unigolion cymwys wedi asesu’r wybodaeth i law ac wedi datgan eu barn ac y
byddai canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiadau arbenigol yn cael eu cynnwys
fel amodau ffurfiol fel bod rhaid cynnal y datblygiad yn llwyr unol a’r mesurau
a argymhellwyd. Drwy sicrhau hyn, byddai’r datblygiad yn cael ei gynnal yn
llwyr gyda’r cydsyniad cyffredinol a gytunwyd. Pe byddai’r sefyllfa yn newid o
ran diwygio’r cynnig mewn ymateb i
sefyllfa a godir, yna bydd rhaid ymateb i unrhyw sefyllfa o’r newydd.
Mewn ymateb i rai
o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn mynegi pryder y byddai caniatáu yn gosod
cynsail beryglus, nodwyd bod hawl cyfreithiol cael tŷ ar y safle ac y
byddai hawl i’w addasu heb ganiatâdau cynllunio.
Nodwyd bod maint a swmp y tŷ yn cyd-fynd a’r tŷ presennol, ond bod
bwriad cael to crib yn hytrach na tho fflat.
I bwrpas y cais,
nodwyd bod y wybodaeth arbenigol wedi ei asesu a’i ganfod yn dderbyniol.
Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau
perthnasol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Yn diolch i’r Aelodau hynny fu’n ymweld
â’r safle
·
Bod y lleoliad o fewn Tirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac yn ymylu ar safleoedd arwyddocaol Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
·
Nad yw’r adeilad sydd yn cael
ei gynnig yn welliant i’r
un sydd yn bodoli. Mater o farn yw bod dyluniad y bwriad yn welliant
·
Bod nifer
helaeth o drigolion lleol wedi gwrthwynebu
·
Bod y cais gwreiddiol wedi amlygu symud
y llwybr - croesawu bod cyfeiriad y llwybr yn aros fel
y mae - angen amod yn gwarantu
defnydd y llwybr i bysgotwyr a’r
cyhoedd
·
Os caniatáu, angen sicrhau bod y llwybr i’r traeth yn
cael ei warchod
yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn aros yn
agored i bysgotwyr a cherddwyr
c) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais
ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Yn diolch am y cyfle i ymweld â’r
safle
·
Bod y cynnig yn welliant
i’r hyn sydd
yn bodoli
·
Nad yw’r safle presennol yn ymddangos
fel tŷ
·
Bod yr adeilad presennol yn ddi-lun, yn
ddi-raen ac yn ddi-chwaeth o gymharu â bythynnod traddodiadol yr ardal
·
Nad yw lliwiau du a llwyd yn cydweddu’r
ardal - yn lliwiau tywyll
·
Bydd cwyno mewn amser, pam caniatáu'r bwriad, fel sydd i’r adeilad presennol!
·
Bydd yr adeilad i’w weld
fel rhan o’r olygfa eiconig
a geir wrth yrru i lawr
o Pistyll tuag at Nefyn
·
Nad yw’r cynnig yn welliant
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ‘dad-risgio’ a beth mae hyn yn
ei olygu yng nghyd-destun sefydlogrwydd y clogwyni, nodwyd mai cyfrifoldeb
yr ymgeisydd yw sicrhau bod y tir
yn addas ar gyfer y datblygiad mewn golwg, ac wrth fabwysiadu dull dadrisgio ar lefel y cynllun bydd yr awdurdod cynllunio
lleol yn gosod amodau ar gyfer mynd i’r afael â risgiau. Ategwyd bod pryderon am ansefydlogrwydd y clogwyni wedi eu trafod
a bod y dystiolaeth arbenigol
a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd wedi ei wirio gan
arbenigwr peirianyddol gan nodi fod yr adroddiad arbenigol wedi ei gwblhau
gan unigolion cymwys a phrofiadol sydd yn amlwg
yn fodlon gyda chanfyddiadau’r adroddiad fel y mae.
O ystyried yr asesiadau a wnaed, barn
arbenigol a roddwyd a’r diffyg gwybodaeth neu wybodaeth dechnegol ac arbenigol
i wrthddweud trwy brofi yn ddiamheuol fod y cynllun a’r mesurau a wneir yn
anaddas, rhaid derbyn fod y cynllun adeiladu a’r mesurau lliniaru a gynigiwyd yn briodol i amddiffyn y bwriad. Cyfrifoldeb yr
ymgeisydd yw sicrhau bod yr adeilad yn cael ei weithredu yn unol â'r
cynlluniau.
Mewn ymateb i
sylwadau yn ymwneud â gorffeniadau a deunyddiau, nododd yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod modd gosod amodau i reoli hyn. Ategodd mai awgrymiadau yn unig
sydd yn y darluniau, ond gellid cytuno ar adnoddau gwahanol megis carreg, coed,
llechi. Nododd ei fod yn ffyddiog y gellid cytuno ar y gorffeniad fel nad oes
ardrawiad a bod yr adeilad yn ymdoddi yn well i’r cefndir.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â gosod amod i sicrhau diogelwch defnyddwyr y llwybr cyhoeddus yn
ystod y cyfnod adeiladu , nodwyd bod gwarchod y cyhoedd yn amod sylfaenol i’r
bwriad ynghyd a chais am gynllun rheoli adeiladu.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. Amser
2. Yn unol â chynlluniau
3. Deunyddiau
4. Cynllun Rheoli Adeiladu
5. Materion Bioamrywiaeth
6. Materion yn ymwneud a’r clogwyn
7. Gwarchod y llwybr cyhoeddus
8. Tynnu hawliau PD
Dogfennau ategol: