Agenda item

Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dau lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau  glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud â'r materion canlynol:

  1. Amser (5 mlynedd)
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad a Datganiad Dull Coedyddiaeth a’r Gwerthusiad Ecolegol
  4. Amod Dŵr Cymru er amddiffyn y system garthffosiaeth

 

Nodiadau

1.    Dŵr Cymru

2.    Cyfoeth Naturiol Cymru

3.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dwy lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau  glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion.

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cyfleuster glanio newydd ar gyfer hofrenyddion ger Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Byddai’r  gwaith yn cynnwys;

·         cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol

·         creu dwy lanfa newydd trwy:

o   ailraddio'r dirwedd gan greu dau arglawdd gyda llain wastad siâp cylch y tu cefn iddynt

o   gosod lleiniau caled ar gyfer padiau glanio

o   gwaith draenio dŵr wyneb

o   gosod rhwystrau glanio newydd wedi’u goleuo

o   codi ffensys diogelwch

o   creu llociau i gynnal yr hofrenyddion

o   gwaith peirianyddol cysylltiedig.

 

Eglurwyd bod y llain glanio wedi ei leoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r ysbyty, ar lain o dir llethrog mewn safle dyrchafedig uwchben y ddinas, sydd, yn ôl yr Awdurdod Hedfan Sifil, yn cynnig llwybrau hedfan da i mewn ac allan o dir yr ysbyty. Saif yr ysbyty ar gyrion deheuol Canolfan Isranbarthol Bangor ym maes dref Penrhosgarnedd. Mae’r safle hefyd yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb Gofrestredig Crug Goetre Uchaf.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, ystyriwyd fod y cynllun ar gyfer gwella gwasanaeth hanfodol a gynigir ar gyfer cymunedau Gwynedd yn cwrdd gyda meini prawf  maen Prawf 1 Polisi ISA 2 y CDLl ac felly bod egwyddor y cais yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol, nodwyd y byddai’r datblygiad hwn mewn lleoliad cuddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyfagos. Mae llwybr cyhoeddus Rhif 39 Cymuned Bangor yn rhedeg heibio ffin ogleddol y safle ond mae gwrych aeddfed rhwng y llwybr hwn a’r safle. Mae'r rhan fwyaf o'r golygfeydd o’r safle o bell ac yng nghyd-destun y safle datblygedig presennol a’r ysbyty gerllaw. Wrth ystyried y tirlun lleol a’r coed a gwrychoedd presennol sy’n amgylchynu’r safle, ni fydd newid arwyddocaol i olwg y safle fel y’i gwelir o’r tu allan.

 

Nodwyd bod potensial y bydd sŵn ac ymyrraeth ddeillio o gyfleuster o’r math yma ond nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol waeth na’r hyn sydd eisoes yn digwydd. Ni fydd cynnydd arwyddocaol yn nefnydd y safle, ond yn hytrach defnydd mwy effeithlon gyda’r drafnidiaeth sydd angen defnyddio’r lleiniau glanio, yn enwedig mewn achos argyfwng pan fydd mwy nag un hofrennydd angen glanio mewn cyfnod byr o amser.

 

Amlygwyd bod y safle oddeutu 200m o’r tai preswyl agosaf ac ni ystyriwyd y bydd niwed ychwanegol arwyddocaol i fwynderau preswylwyr lleol yn deillio o'r datblygiad ac felly'r cynnig yn dderbyniol dan ofynion polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod asesiad ecolegol o’r safle wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r casgliad nad oes diddordeb bioamrywiaeth arbennig i’r safle ei hun er bod y ffiniau o arwyddocâd ar gyfer bywyd gwyllt yn bwysig yn weledol. Roedd yr  adroddiad yn argymell diogelu nodweddion bioamrywiaeth drwy lunio Cynllun Rheolaeth Adeiladu Gadwraethol a Chynllun Rheolaeth Bioamrywiaeth ar gyfer y safle.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a   bod y datblygiad a gynhigir yn briodol ar gyfer y safle ac y byddai’n helpu i wireddu’r amcan o bwysigrwydd strategol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelodau Lleol y sylwadau canlynol;

Cyng Gareth A Roberts

·         Bod y bwriad o bwysigrwydd hanfodol i’r Gwasanaeth

·         Bod y ddarpariaeth bresennol yn annigonol

·         Yn cefnogi’r cais

 

Cyng Menna Baines (nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod, ond roedd wedi anfon neges ar e-bost)

·         ‘Dim gwrthwynebiad i’r bwriad – yn ei weld yn ddatblygiad angenrheidiol’

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatau y cais

PENDERFYNWYD

Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud â'r materion canlynol:

1.    Amser (5 mlynedd)

2.    Yn unol â’r cynlluniau

3.    Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad a Datganiad Dull Coedyddiaeth a’r Gwerthusiad Ecolegol

4.    Amod Dŵr Cymru er amddiffyn y system garthffosiaeth

 

Nodiadau

1.    Dŵr Cymru

2.    Cyfoeth Naturiol Cymru

3.    Uned Draenio Tir

Dogfennau ategol: