Agenda item

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu – amodau :

  1. Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd
  2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
  3. Amod er sicrhau bod y tai yn aros yn fforddiadwy yn barhaol
  4. Llechi to
  5. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  6. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd
  7. Amod Dŵr Cymru
  8. Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r datblygiad

 

Nodyn:  Dŵr Cymru

             Draeniad cynaliadwy

 

Cofnod:

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd.

            Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r pwyllgor cynllunio a gynhaliwyd  Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad.

 

Adroddwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy “canolradd” ( dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012.

 

Cyflwynwyd y datblygiad gan Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd”.  Byddai’r tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol.

 

Tynnwyd sylw at y nifer o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth.

 

Er gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd  bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad  ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell.

 

Yng nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl) gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn ogystal roedd yr  ACLl yn cynnig cyfres o fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd.

O ganlyniad,  ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y gallu i reoli risg llifogydd i ddeiliaid y tai arfaethedig ac na fyddai’n achosi perygl ychwanegol mewn mannau eraill. Ystyriwyd, felly, fod y cais  yn cydymffurfio gyda gofynion Polisïau PS 5 a PS6 a chynnwys y ddogfen gyfredol NCT 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004).

 

Yng nghyd-destun y wybodaeth arbenigol a chyflwynwyd ynglŷn â’r perygl llifogydd, derbyniwyd na fydd y datblygiad hwn yn gwaethygu’r sefyllfa o safbwynt materion cynllunio materol o’i gymharu â’r hyn a ellid digwydd dan ddefnydd cynllunio cyfreithiol presennol y safle. Ystyriwyd y gall gynnig cyfle i wella gwytnwch y safle i berygl llifogydd a chyflwyno gwelliannau o safbwynt materion megis mwynderau gweledol a bioamrywiaeth. Nodwyd bod y bwriad yn cynnig cyfle i greu tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu; yn gynllun derbyniol ar sail egwyddor yn cydymffurfio â gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol

·         Bod defnydd blaenorol yr adeilad fel llyfrgell wedi creu mwy o broblemau traffig

·         Croesawu tai fforddiadwy

 

·         Nad oedd dyluniad y bwriad yn adlewyrchu cyswllt diwydiannol yr ardal – pam na fyddai Cyngor Gwynedd yn dewis dyluniad mwy traddodiadol fyddai’n gweddu’r tai teras?

 

            PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau :

 

            1.         Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd

            2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

            3.         Amod er sicrhau bod y tai yn aros yn fforddiadwy yn barhaol

            4.         Llechi to

            5.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol

            6.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

            7.         Amod Dŵr Cymru

            8.         Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r datblygiad

 

            Nodyn:  Dŵr Cymru

            Draeniad cynaliadwy

 

 

Dogfennau ategol: