Agenda item

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)            Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar wahân gyda gwaith cysylltiol. Bydd balconi allanol i’w gynnwys ar ran o lawr cyntaf edrychiad de ddwyrain y tŷ sef yr edrychiad fyddai’n edrych i ffwrdd o unrhyw eiddo cyfagos. Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion.

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.

Eglurwyd bod y safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Mae’r bwriad felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI).

 

Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Yn ddibynnol ar raddfa datblygiadau, disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol â throthwy a adnabyddir ar gyfer aneddleoedd y Sir. Yn achos pentref Edern, sydd wedi ei adnabod fel pentref gwledig/arfordirol/lleol, y trothwy yw 2 neu fwy o unedau.  Gan fod y bwriad hwn yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn unig nid yw’n cwrdd â’r trothwy yma ar gyfer ystyried darpariaeth fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd, yn bresennol bod y safle yn cynnwys siediau diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o fewn y llain. Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd, bod yr adeilad wedi ei ddiwygio o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae’r tŷ newydd wedi ei leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu, ac er bod hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyrir fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Mae uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei amgylchynu, i gyfeiriad y de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin gan dai annedd gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin deheuol/de-ddwyreiniol y safle. Mae elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau presennol. Mae tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos sydd yn lleihau rhywfaint ar yr effaith. Credir fod ymgais gwirioneddol wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol ac fe welir fod y diwygiadau yn ymateb i’r pryderon a amlygwyd gan swyddogion cynllunio. Credir fod y lleihad yn uchder to un rhan o’r adeilad, yn cyfrannu at y gwelliant a bod y newidiadau eraill sef lleihau’r balconi allanol a newid i rai ffenestri yn gwella’r cynnig o ran effaith ar gymdogion.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol;

·         Ei fod wedi ei eni a’i fagu yn Edern ac yn byw yn Gorwel, Lôn Groesffordd.

·         Gan na fu unrhyw ymgynghori gyda chymdogion cyn cyflwyno cais, ei fod wedi gofyn barn tri ar ddeg o’r cymdogion agosaf  gyda chopi wedi ei gyflwyno i'r pwyllgor.

·         Prif resymau dros wrthwynebu oedd; effaith negyddol y tŷ ar harddwch ag edrychiad y pentref, effaith gôr-gysgodi a cholli preifatrwydd drwy or edrych dros gefn y tai.

·         Bydd y tŷ yn cael effaith negyddol ar fwynderau trigolion cyfagos drwy or-gysgodi a cholli preifatrwydd drwy or-edrych ar gefn tai cyfagos

·         Bod cymdogion Dol Erw, Yr Hafod a Gorwel gyda hawl i breifatrwydd ar eu hedrychiad cefn - yn credu yn gryf y bydd y tŷ yn amharu’n sylweddol ar eu hawl i fod â disgwyliad rhesymol o breifatrwydd yng nghefn eu tai. Er yn nodi bod gwydr afloyw (obscure) wedi ei ychwanegu i rai ffenestri ar y llawr cyntaf, nid yw hyn yn lleddfu’r boen o golli preifatrwydd

·         O lawr gwaelod y tŷ bydd yn bosibl gweld i mewn i ddwy ystafell wely, cegin, ystafell fwyta a dwy ystafell atig Gorwel, ynghyd a’r ardd gefn gyfan.

·         Bod lleoliad drws allanol ar edrychiad de-orllewinol nid yn unig yn golygu y bydd trigolion yr annedd yn tarfu ar breifatrwydd  trigolion Gorwel, ond y bydd unrhyw un fydd yn ymweld â’r tŷ hefyd yn tarfu ar eu preifatrwydd.

·         Nad yw gwydr ffenestri llofft 4 na ffenest y lanfa yn afloyw (obscure), felly does dim ymdrech wedi ei wneud i leihau effaith negyddol ar breifatrwydd Yr Hafod a Dol Erw, tra mae’r ffenestri ar agor na chau - tydi newid y math o wydr ddim yn newid y ffaith y byddem yn cael ein goredrych pan mae’r ffenestri ar agor.

·         Pryderon gor-gysgodi wedi eu hamlygu’n barod, siomedig nad oes asesiad effaith cysgod y tŷ wedi ei baratoi. Nid yn unig yn pryderu y bydd y tŷ’n taflu cysgod dros y gerddi, ond oherwydd uchder y tŷ mewn cymhariaeth a Gorwel, Dol Erw a’r Hafod, bydd cysgod yn cael ei daflu dros ffenestri cefn y tai.

·         Bydd graddfa, uchder a maint y tŷ yn cael effaith negyddol ar gymeriad, harddwch ac edrychiad y pentref

·         Dim ond traws doriad o’r tŷ yn erbyn Dol Erw a Schiehallion sydd wedi ei gyflwyno. Er bod uchder crib y tŷ fymryn yn is na Schiehallion nid dyma’r cymdogion agosaf i’r tŷ.

·         Cais wedi ei wneud ar fwy nag un achlysur am draws doriad o’r annedd yn erbyn y tai cyfagos ar Lôn Groesffordd. Siomedig iawn nad oes ymdrech wedi ei wneud i baratoi hyn.

·         Yn ychwanegol bydd mwyafrif yn gweld y tŷ o Lôn Groesffordd, y brif ffordd drwy’r pentref.

·         Bydd crib y tŷ llawer yn uwch na dros 93% o’i gymdogion agosaf ar Lôn Groesffordd. Heb ddyluniad o’r annedd o fewn cyd-destun y pentref, nid yw’n bosib i gymdogion agos, yr adran gynllunio na Chynghorwyr y Pwyllgor asesu effaith y tŷ ar y pentref a’r strydlun presennol.

·         Nodir fod y cynllun yn dangos coed rhwng y tŷ ac yr edrychiad o Lôn Groesffordd. Nid yw hyn y lleihau effaith negyddol y tŷ, oherwydd am hanner y flwyddyn bydd y coed heb ddail. Nid coed bythol wyrdd yw'r rhain.

·         Os byddai edrychiad o’r tŷ o fewn cyd-destun Lôn Groesffordd yn ffafriol i’r cais, pam dim ei gynnwys?

·         Yn annog y Pwyllgor i gefnogi cymdogion i geisio asesiad gwir o effaith y tŷ ar harddwch ac edrychiad y pentref a phreifatrwydd cymdogion agos.

·          

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Ei fod yn enedigol o Edern, ac wedi ei fagu yno gyda’i deulu. Wedi mynychu Ysgol Edern ac Ysgol Uwchradd Botwnnog ac wedi byw yn Edern ar hyd ei oes. Ei blant hefyd wedi mynychu Ysgol Edern ac Ysgol Uwchradd Botwnnog

·         Yn ddyn busnes lleol sydd yn cyflogi pymtheg o bobl leol ac yn cydweithio gydag amryw o fusnesau eraill lleol, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn gyntaf trwy’r cwmni.

·         Yn weithgar yn y pentref - yn gadeirydd pwyllgor Cae Chwarae Edern.

·         Ef a’i deulu yn awyddus i aros yn eu cynefin genedigol ac eisiau adeiladu un tŷ yn unig er mwyn cael cartref ac eisiau magu teulu yma.

·         Bod ganddynt fantais o fod a thir o fewn ffin datblygu’r pentref. Yn teimlo’n gryf iawn dros aros yn ei gynefin oherwydd bod ei rieni o fewn cyrraedd wrth iddynt fynd yn hŷn.

·         Ei fod yn ymwybodol o’r pryderon a’r cwynion sydd wedi eu cyflwyno ac wedi gwneud ymgais i ymateb yn bositif i’r sylwadau drwy ail ddylunio’r cynlluniau

·         Nad oedd eisio achosi ffrae – bod y safle o fewn y ffin datblygu a’i fod yn ceisio dylunio cartref na fyddai yn tarfu ar eraill

·         Bod preifatrwydd yn bwysig i bawb.

 

d)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod canran o drigolion Edern yn frwd o blaid y cais ond bod anniddigrwydd ymysg eraill gyda deiseb wedi ei chasglu oherwydd bod y bwriad yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion agos a maint y bwriad

·         Bod addasiadau i’r cynlluniau wedi eu croesawu

·         Ei fod o blaid angen yr ymgeisydd i gael tŷ newydd yn Edern, yn ei bentref genedigol, ond bod angen bod yn deg ac ystyried barn a sylwadau preswylwyr gerllaw

·         “Credir fod y datblygiad yn ei ffurf ddiwygiedig bellach yn dderbyniol o ran ei effaith ar amwynderau trigolion cyfagos” - a fyddai’r swyddog yn datgan hyn os yn byw gerllaw? …dan gysgod tŷ mor amlwg fyddai’n creu effaith niweidiol ar breifatrwydd cymdogion?

·         Os ystyried caniatau y cais, cynnig amod i ‘symud’ y tŷ rhyw fymryn i’r de - byddai hyn yn golygu bod 95% o fewn y ffin a'r gweddill ychydig ar y ffin. Gweld dim rheswm dros y posibilrwydd o wneud hyn

·         Byddai hyn yn gyfaddawd i dawelu pryderon ‘real’ ac yn deg i bawb.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: