Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar 5 prosiect sy’n rhan o Gynllun y
Cyngor 2023-2028. Nodwyd yr isod yn ddiweddariad ar y prosiectau hynny:
· Rheolaeth ail
gartrefu a llety gwyliau tymor byr – Eglurwyd bod cyfnod ymgynghori ar fwriad y Cyngor i
gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi dod i ben ar 13 Medi. Ymfalchïwyd bod rhai
miloedd o ymatebion wedi dod i law ac mae swyddogion bellach yn dadansoddi’r
ymatebion hynny cyn cyflwyno adroddiad amserol i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau a’r Cabinet.
· Gwastraff ac
Ailgylchu – Nodwyd bod yr adran wedi gosod targed o ailgylchu 70% o wastraff y
Sir erbyn 2025. Cydnabuwyd bydd cyrraedd y targed hwn yn heriol ond mae’r adran
yn obeithiol byddai’n llwyddo i’w gyrraedd yn dilyn trefniant ailstrwythuro
mewnol newydd.
· Teithio Llesol - Cadarnhawyd bod yr Adran wedi llwyddo i
dderbyn grant yn y maes hwn ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd bod dau gais
ychwanegol wedi ei wneud am grantiau ond bod y rhain wedi bod yn aflwyddiannus.
· Trafnidiaeth
Cyhoeddus - Cyhoeddwyd bod gwasanaeth SHERPA’r Wyddfa
wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Trafnidiaeth Prydeinig (UK Transport Awards) eleni yn dilyn ei ailstrwythuro dros y blynyddoedd
diwethaf.
· Cynllun Datblygu
Lleol Newydd – Esboniwyd bod trefniant llywodraethol ar gyfer y cynllun wedi cael ei
dderbyn. Manylwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio o 15 aelod wedi cael ei
sefydlu ac wedi cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddar. Nodwyd bod y gweithgor
wedi ymdrin â gwaith cychwynnol ac yn bwriadu cyfarfod yn rheolaidd.
Diweddarwyd yr Aelodau ar dri o wasanaethau’r Adran sydd wedi gweld
cynnydd yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Cynllunio – Cadarnhawyd bod
y gwasanaeth wedi llwyddo i ymateb i 88% o geisiadau cynllunio o fewn y
cyfyngiad amser statudol ar ddechrau’r flwyddyn eleni. Nodwyd bod hyn yn
welliant o’i gymharu gyda’r blynyddoedd diwethaf. Cyhoeddwyd bod y gwasanaeth
wedi llwyddo i benodi dau hyfforddai cynllunio newydd yn ddiweddar. Eglurwyd
byddai hyn yn help mawr gyda problemau capasiti o
fewn y gwasanaeth. Nodwyd bod denu staff i swyddi’r gwasanaeth wedi bod yn her
yn y gorffennol, ond gobeithir bod y penodiadau hyn yn arwydd cadarnhaol.
· Gorfodaeth Cynllunio - Adroddwyd bod problemau capasiti dal yn cael effaith ar wasanaeth gorfodaeth
cynllunio. Eglurwyd bod hyn yn her oherwydd mae swyddogion yn ymdrechu i ddelio
gydag achosion newydd yn ogystal ag achosion hanesyddol sy’n parhau i fod yn
agored ar systemau.
· Pridiannau tir – Esboniwyd bod gwasanaethau pridiannau tir bellach wedi cael eu uwchraddio i system
gyfrifiadurol newydd. O’r herwydd, mae’r gwasanaeth hon yn perfformio’n dda.
Nodwyd bod swyddogion wedi gorfod stopio delio gyda ceisiadau pridiannau tir am gyfnod tra bod y system yn cael ei
uwchraddio, oherwydd diffyg capasiti. Cadarnhawyd bod
y broblem hon bellach wedi cael ei sortio oherwydd bod y system newydd mewn lle
ac mae ceisiadau yn cael eu delio yn effeithiol.
· Traffig, Prosiectau a Llwybrau - Adroddwyd bod
blaenoriaeth wedi cael ei roi i sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer rheoliadau
cyfyngiadau 20mya sydd wedi dod i rym yn ddiweddar. Esboniwyd bod llawer o
waith cynllunio a pharatoi wedi bod yn digwydd i sicrhau’r diweddariad hwn. Yn
anffodus, golyga hyn bod rhai o brosiectau eraill y gwasanaeth ddim wedi cael
blaenoriaeth ond mae’r swyddogion yn gweithio’n ddiwyd arnynt unwaith eto erbyn
hyn.
Mewn ymateb i ymholiad ar sefyllfa ariannol ym maes cludiant cyhoeddus,
cydnabuwyd nad yw’r sefyllfa yn edrych yn gadarnhaol ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf. Eglurwyd nad yw’r llywodraeth wedi cyflwyno gwybodaeth am
grantiau posibl ar hyn o bryd ac felly gobeithir bydd y sefyllfa yn gwella wrth
agosáu at flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill. Ymhelaethodd Pennaeth Adran
Amgylchedd bod yr Adran yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o fewn y maes hwn a
sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau nad ydi gwasanaethau
trafnidiaeth cyhoeddus yn dod i ben.
Nodwyd bod gwasanaeth cludiant yn gorwario. Er
hyn, mae’r gwasanaeth manteisio o dderbyn arian gan Drafnidiaeth Cymru.
Eglurwyd mai arian blynyddol yw hwn ac felly mae risgiau yn codi os na fydd
Trafnidiaeth Cymru yn darparu arian i gynorthwyo gwasanaethau. Sicrhawyd bod yr
adran yn ymwybodol o risgiau o fewn y maes ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud
i’w cyfarch.
Yn sgil trafferthion diweddar o fewn y gwasanaeth casglu gwastraff ac
ailgylchu, ystyriwyd yr angen i addysgu trigolion am bwysigrwydd ailgylchu pan
fydd y gwaith ailstrwythuro wedi cwblhau ac bod y gwasanaeth yn rhedeg yn
esmwyth o fewn yr Adran. Cydnabuwyd bod angen newid ymddygiad tuag at ailgylchu
o fewn y sir ac mae cael swyddogion i weithio ar hyn yn angenrheidiol er mwyn
cyrraedd y targed o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025.
Rhannwyd sylwadau bod trigolion yn teimlo
rhwystredigaeth nad ydi casgliadau ailgylchu yn digwydd yn gyson ac nad oes
gohebiaeth yn cael ei rannu i gadarnhau nad yw’r casgliad yn digwydd. Mewn
ymateb i’r sylwadau hyn, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod y mater hwn yn brif
ffocws cyfarfod herio perfformiad nesaf yr adran. Nodwyd bod cyfathrebu yn
digwydd yn well yn ardal Arfon nag ydi ym Meirionydd, oherwydd bod yr hwb wedi
cael ei sefydlu yn effeithiol erbyn hyn, ond ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth.
Esboniwyd hefyd bod streic ddiweddar hefyd wedi effeithio ar wasanaethau yn
ystod yr wythnosau diwethaf. Cydnabuwyd bod lle i wella’r gwasanaeth hon ond
bod y gwasanaeth yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Mewn ymateb i ymholiad i ymddygiad gweithlu’r
gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu, pwysleisiodd Pennaeth Adran
Amgylchedd nad oedd unrhyw ddiffygion yn y gwasanaeth yn deillio o ymddygiad y
gweithlu. Eglurwyd bod rhai ardaloedd o fewn y Sir megis Harlech, Dwyfor ac
Arfon yn cydweithio’n dda o fewn eu hardaloedd fel un tîm ac felly mae’r
gwasanaeth yn cael ei gynnal yn esmwyth yno. Cydnabuwyd bod materion staffio
wedi codi ym Meirionnydd a bod lleoliadau swyddogion a salwch staff wedi cael
effaith ar y gwasanaeth. Manylwyd bod ffocws yn cael ei rhoi ar ardaloedd
deheuol y Sir er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu yn
gwella yno yn y dyfodol agos. Sicrhawyd bod y casglwyr yn gweithio’n galed ar
draws y Sir i ymdrechu i sicrhau parhad y gwasanaeth yn rheolaidd.
Mewn ymateb i ymholiad am ddiogelwch defnyddwyr llwybrau’r teithiau
llesol, nododd Aelod Cabinet Amgylchedd bod problemau yn codi wrth brynu tir er
mwyn cynnal y llwybrau hyn ac mae heriau yn codi wrth ymgeisio am grantiau
oherwydd bod natur y ffurflenni cais yn fwy ffafriol i ardaloedd trefol na
gwledig. Ymhelaethodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod gwaith dylunio ac
arolygiadau amgylcheddol ar gyfer y llwybrau ac bod y cynllun hwn yn cael ei
gwblhau rhan wrth rhan. Sicrhawyd bod yr adran yn ymdrechu i rhoi isadeiledd
addas i bwrpas er mwyn gallu creu llwybrau newydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Diolchwyd i’r adran am eu holl waith.
Awdur:Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd
Dogfennau ategol: