Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Cynllun Gweithio’n Hybrid i Staff Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd Cynllun Gweithio’n Hybrid i Staff Cyngor Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau bod newid sylweddol i natur gwaith y Cyngor ers y cyfnod clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020. Nodwyd bod treialon wedi cael eu cwblhau dros yr 18 mis diwethaf ar ddulliau gweithio’n hybrid. Adroddwyd bod hyn yn cynnwys dau ymgynghoriad gyda rheolwyr, staff ac undebau. Esboniwyd bod y cynllun hwn yn deillio o’r treialon a’r ymgynghoriadau hynny. Credir bod y cynllun yn adlewyrchu’r newidiadau i drefniant gweithio ac yn cryfhau dyletswyddau diogelwch a llesiant staff ymhellach.

 

Manylwyd bod y cynllun yn caniatáu i staff llawn amser weithio hyd at 3 diwrnod yr wythnos adref, ble mae eu swyddi yn caniadau iddynt weithio’n hybrid. Cadarnhawyd bydd gofyniad i weithwyr llawn amser weithio isafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa. Esboniwyd bod hyn yn hyrwyddo cyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd i’r staff ac yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng llesiant staff a pharhad gwasanaeth. Nodwyd nad yw’r cynllun yn un haearnaidd ac felly mae hyblygrwydd ar gael i wasanaethau i amrywio dyddiau gweithio yn y swyddfa, er mwyn sicrhau effeithlonrwydd.

 

Nodwyd bod y cynllun yn caniatáu hyblygrwydd i weithio oriau yn y swyddfa ar sail gyfartalog dros gyfnod o fis ble bydd angen. Pwysleisiwyd na fydd unrhyw newid cytundebol yn deillio o drefniadau’r cynllun a bydd y swyddfa yn parhau i gael ei adnabod fel y ganolfan waith ar gyfer holl weithwyr. Nodwyd bod hyn yn caniatáu i swyddogion weithio mwy na 2 ddiwrnod yn y swyddfa os ydynt yn dymuno.

 

Pwysleisiwyd nad oes modd i unrhyw aelod o staff weithio’n hybrid os nad ydynt wedi cwblhau hunanasesiad am eu gweithfan wrth weithio o adref, a bod y Cyngor yn fodlon gyda’r weithfan sydd ganddynt. Cydnabuwyd nad yw’r cynllun yn berthnasol ar gyfer unrhyw aelod o staff rheng flaen y cyngor. Er hyn, atgoffwyd bod gan bob aelod o staff yr hawl i wneud cais i ddiwygio oriau gwaith, oriau cychwyn a gorffen gweithio, cyfyngu dyddiau gweithio a gwneud cais i weithio tymor ysgol yn unig os ydynt yn dymuno.

 

Sicrhawyd bod staff sy’n gweithio gartref yn ymroddgar iawn ac yn parhau i weithio yn effeithlon. Er hyn, cydnabuwyd bod rhyngweithio wyneb yn wyneb rhwng aelodau staff yn amhrisiadwy wrth geisio rhoi’r gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd. Nodwyd bod gofynion o fewn y cynllun i staff weithio o’r swyddfa yn fwy na’r isafswm a nodwyd, pan fydd aelod newydd o staff yn cychwyn o fewn gwasanaethau. Pwysleisiwyd byddai hyn yn gymorth i staff ymgartrefu yn y Cyngor ac yn eu gweithle.

 

Adroddwyd bod asesiad effaith wedi cael ei gwblhau ar gyfer y cynllun hwn a sicrhawyd na fydd y cynllun yn cael effaith ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag yn y Saesneg.

 

Nodwyd bod 15% o swyddogion (tua 276 aelod o staff), yn mynychu’r swyddfa llawn amser. Manylwyd bod y ffigwr hwn wedi cynyddu wrth i’r trefniant hybrid mynd yn ei flaen ac mae croeso i staff fynychu llawn amser os ydynt yn dymuno.

 

Esboniwyd bydd gofynion y cynllun yn cael ei weithredu’n llawn erbyn 1 Ebrill 2024 ar yr hwyraf.

 

Awdur:Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Dogfennau ategol: