I ystyried
y cais
Penderfyniad:
Cofnod:
1.
CAIS DDIGWYDDIAD DROS
DRO - BRAICH GOCH INN, CORRIS
Cais am DDIGWYDDIAD DROS
DRO – ymestyniad oriau gweithgareddau trwyddedig ar gyfer achlysur codi arian
at elusennau ar yr 22ain o Fedi 2023
Eraill a wahoddwyd:
·
Maria De La Pava Catano (Ymgeisydd)
·
Mark
Mortimer (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)
·
Cynghorydd John Pughe Roberts (Aelod Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn manylu ar gais digwyddiad dros dro yn Braich
Goch, Corris, Machynlleth, mewn perthynas â ymestyn oriau gweithgareddau
trwyddedig tu mewn i’r eiddo ar gyfer achlysur codi arian at elusennau ar y
22ain o Fedi 2023
·
Defnyddio’r ardal fewnol y bar sydd wedi ei
gysylltu i adeilad y bunkhouse ar gyfer gwerthu
alcohol a chynnal cerddoriaeth byw hyd at 11 yr hwyr a DJ tan 02:00 y bore.
·
Darparu gweithgareddau trwyddedig ar gyfer uchafswm
o 100 o bobl
Adroddwyd bod
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais gan y Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y
Cyhoedd gan nad oedd yr ymgeisydd wedi ymateb i drafod cyfaddawd ynglŷn
â’r oriau. Eglurwyd mai dim ond y Cyngor (sydd yn gweithredu cyfrifoldebau
Iechyd Amgylchedd) a’r Heddlu sydd gyda’r grym i wrthwynebu rhybudd digwyddiad
dros dro ac nad oedd trefn o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y
gyfundrefn digwyddiadau dros dro.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau i’r
cais wedi eu cyflwyno gan Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryder
fod y digwyddiad yn mynd i danseilio'r amcanion trwyddedu o atal niwsans
cyhoeddus. Roedd swyddogion y gwasanaeth wedi derbyn dau gŵyn am aflonyddwch
sŵn cerddoriaeth ym mis Mai 2022 hyd 01:30 (tu hwnt i’r oriau a ganiateir
ar y drwydded). Nid oedd rhybudd digwyddiad dros dro mewn lle i ganiatáu
gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i’r hyn a ganiateir ar y drwydded.
Eglurwyd, gan fod
cwynion sŵn o weithgareddau trwyddedig heb awdurdod wedi eu derbyn mis Mai
2022, anfonwyd e-bost (21-08-23) gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd at ddeilydd y drwydded yn awgrymu cyfaddawd, gan fod y cais yn
nodi oriau terfynu adloniant rheoledig am 02:00. Roedd Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd yn cynnig terfynu’r gweithgareddau trwyddedig am 00:30, hanner awr yn
hwyrach na’r drwydded bresennol. Ystyriwyd hyn yn gyfaddawd teg, ac y byddai yn
rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded brofi ei gallu i
drefnu adloniant heb aflonyddu ar breswylwyr cyfagos.
Er hynny, ni
dderbyniwyd ymateb i’r cyfaddawd ac o ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell gwrthod y cais ar sail.
·
Cwyn o gynnal gweithgareddau trwyddedig tu hwnt i
derfyn amser y drwydded
·
Cwynion o aflonyddwch sŵn yn dilyn adloniant a
gynhaliwyd mis Mai 2022
·
Diffyg yr ymgeisydd o beidio ymateb i gynnig o
gyfaddawd ar yr oriau a ofynnwyd amdanynt
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Ei bod yn ymddiheuro am beidio ymateb i’r e-byst;
roedd yn derbyn y cyfaddawd ac yn anymwybodol bod angen cadarnhau hynny gyda’r
Swyddog
·
Bod llythyrau yn ymddiheuro am y sŵn wedi eu
hanfon allan i drigolion cyfagos yn dilyn digwyddiad Mai 2022 a’u bod bellach
yn rhoi gwybod o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu i’r preswylwyr lleol
·
Bod Braich Goch yn cael ei rhedeg fel elusen, yn
hwb cymdeithasol ac yn gweithio yn agos gyda’r gymuned - y bwriad yw adeiladu
perthynas dda o gyd weithio gyda’r gymuned
·
Bod y digwyddiad yn un i godi arian i wella’r
adeilad ac er yn ddigwyddiad elusennol, bod yr elusen yn ceisio bod yn
hunangynhaliol
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag ymateb i’r llythyrau ymddiheuro, nodwyd nad oeddynt yn
ymwybodol pwy oedd wedi cwyno ac felly llythyrau wedi eu hanfon at yr holl
drigolion cyfagos, ynghyd a chynnal ymweliadau drws i ddrws. Yn gyffredinol,
roedd yr ymateb yn dda.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chapasiti yr eiddo, nodwyd bod
yr eiddo yn dal hyd at 100 o bobl. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â
chadw rheolaeth a sicrhau diogelwch y mynychwyr, nodwyd y byddai pedwar
gwirfoddolwr ynghyd a dau aelod o staff yn gweithio ar y noson. Bydd y drysau
a’r ffenestri ar gau gyda goruchwylwyr drysau yn gwylio’r drysau. Bydd asesiad
risg yn cael ei gwblhau ar gyfer pob digwyddiad.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
yn ysgrifenedig ganddynt.
Mark Mortimer
(Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd)
·
Bod amseriad ymateb yr ymgeisydd i’r cyfaddawd (ers
derbyn gwahoddiad i fynychu’r is-bwyllgor) yn anffodus.
·
Yn derbyn bod yr
ymgeisydd yn fodlon gyda’r ychwanegiad hanner awr - bydd hyn yn brawf
o’i gallu i gydymffurfio
·
Yn dilyn cwynion Mai 2022, Gwarchod y Cyhoedd yn
amheus o ganiatáu trwydded digwyddiad
dros dro ar gyfer Medi 2023 - dim gwybodaeth wedi ei dderbyn
·
Bellach yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r drefn ac
felly’n osgoi dryswch ar gyfer digwyddiadau i'r dyfodol
·
Gwarchod y Cyhoedd
yn barod i gymeradwyo cais digwydd dros dro Medi 22ain 2023
Yn manteisio ar y
cyfle i grynhoi ei hachos, nododd yr ymgeisydd
·
Ei bod yn ymddiheuro am y camddealltwriaeth. Y
byddai yn gwneud pob ymdrech i gydweithio gyda Gwarchod y Cyhoedd i’r dyfodol
d)
Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â
diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob
parti yn bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor
ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth
i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i derfynu gweithgareddau
trwyddedig am 00:30 (hanner awr yn hwyrach na’r drwydded bresennol) yn unol ag
argymhelliad Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd a gytunwyd gyda’r ymgeisydd.
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Yng nghyd-destun Atal
Trosedd ac Anhrefn nid oedd tystiolaeth o drosedd ac anhrefn fel sail i gyfiawnhau
gwrthwynebu’r cais.
Yng nghyd-destun Atal Niwsans
Cyhoeddus cyflwynwyd gwrthwynebiad i’r cais oherwydd bod cwynion wedi eu
derbyn gan breswylwyr cyfagos am aflonyddwch sŵn cerddoriaeth i
ddigwyddiad a gynhaliwyd ar yr eiddo yn Mai 2022. O ganlyniad, awgrymwyd
cyfaddawd gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd ar gyfer digwyddiad Medi 2023. Er nad
oedd yr ymgeisydd wedi ymateb o fewn y cyfnod priodol i awgrym y Swyddog,
derbyniodd yr Is-bwyllgor sylwadau’r ymgeisydd yn y cyfarfod o’i pharodrwydd i
gydweithio a chytuno gyda’r argymhelliad o derfynu gweithgareddau trwyddedu am
00:30. Ystyriwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi ymateb yn dda i gwynion digwyddiad
Medi 2022 a’i bod yn barod i gydweithio gyda’r gymuned.
Yng nghyd-destun Sicrhau Diogelwch Cyhoeddus,
er bod yr Is-bwyllgor yn pryderu am nifer y bobl oedd yn mynychu’r
digwyddiad ac addasrwydd yr eiddo ar gyfer y niferoedd, derbyniwyd y sylw bod
asesiad risg yn cael ei gwblhau ar gyfer pob digwyddiad a bod goruchwylwyr
drysau yn cael eu cyflogi i sicrhau trefn ar y noson.
Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag
Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.
Adroddodd y
Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy
lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob
parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: