Agenda item

Diweddariad ar y cynnydd wnaed wrth weithredu’r Cynllun ers Mawrth 2022.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)      Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’.

(ii)     Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau ‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd.

 

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, gyda Bwrdd wedi ei sefydlu i’w gefnogi.

Tynnwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd.

 

Eglurwyd bod delio gydag argyfwng hinsawdd a natur yn rhan o waith y Cyngor ers 2005/06 a nodwyd bod llwyddiant mawr i’w gweld erbyn hyn. Manylwyd bod 51% yn llai o allyriadau carbon yn y maes Adeiladau rhwng 2005/06 a 2019 a bod 23% o allyriadau carbon yn y maes Fflyd o fewn yr un cyfnod. Adroddwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon y Cyngor 43% o fewn y cyfnod hwn.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn gweld buddion ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed £15miliwn ers 2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor yn gweithio o adref.

 

Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn deillio o gaffael yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o’r cyfandir, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Eglurwyd bod y drefn wedi ei mireinio dros y ddwy flynedd diwethaf gan arwain at ostyngiad yn allyriadau carbon y Cyngor. Nodwyd y trosglwyddir neges gyson i Lywodraeth Cymru nad yw’r dull cyfrifo yn y maes caffael yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor yn barod i edrych ar gam dau'r Cynllun, sef i edrych ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Soniwyd mai cam cyntaf y cynllun oedd lleihau’r allyriadau carbon, ac felly rhaid sicrhau trefniadau hir dymor er mwyn i’r ffigyrau allyriadau hyn aros yn isel. Eglurwyd bod y datblygiadau hyn yn cael eu gweithredu o fewn y prif themâu canlynol:

 

·       Adeiladau ac ynni

·       Symud a thrafnidiaeth

·       Gwastraff

·       Llywodraethu

·       Caffael

·       Defnydd tir

·       Ecoleg

 

Manylwyd ar rhai o’r themâu gan roi enghreifftiau o brosiectau cysylltiedig. Cyfeiriwyd at brosiect paneli solar o fewn y maes adeiladau ac ynni gan nodi bod hyn yn faes mae’r Cyngor wedi buddsoddi ynddo eisoes a bod £500k o arbedion wedi eu creu yn sgil y prosiect. Nodwyd bod £2.8miliwn pellach wedi cael ei fuddsoddi yn y maes yn ddiweddar. Adroddwyd ar gynllun i ddiweddaru fflyd y Cyngor, fel rhan o thema ‘Symud a thrafnidiaeth’ i gerbydau trydan. Nodwyd camgymeriad yn Adran 6 o’r adroddiad bod 16 pwynt gwefru dros 4 lleoliad i ddefnydd y cyhoedd, pwysleisiwyd mai at ddefnydd fflyd y Cyngor mae’r rhain a bod nifer o bwyntiau gwefru ar gael i’r cyhoedd mewn sawl lleoliad ar draws y sir. Gobeithiwyd byddai modd plethu’r ddau brosiect yma gyda'i gilydd yn y dyfodol.

 

Nododd aelod bod yr adroddiad yn fanwl, yn ddiddorol ac i’w ganmol ond bod gwelliannau posib i’w gwneud. Manylodd ar ei bryderon ynglŷn â bod yn or-ddibynnol ar egni trydan gan ystyried bod nifer o bethau yn gallu effeithio arno megis prisiau defnyddio pwyntiau gwefru cyhoeddus o gymharu â chyflenwad domestig, ac effeithiolrwydd paneli solar ym misoedd y gaeaf. Cyfeiriodd at y tabl ar dudalen 5 yr adroddiad blynyddol, gan dynnu sylw nad oedd unrhyw golofn gyferbyn â ‘Symud a Thrafnidiaeth’ wedi ei farcio i ddangos cyswllt y prosiect i amcanion Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Nododd bod materion gan gynnwys allyriadau carbon yn golygu bod cyswllt ag amcanion Adran 6 y Ddeddf.

 

Cyfeiriodd at flaenoriaeth tymor canolig ‘Uwchraddio goleuadau arbenigol mewn canolfannau hamdden er mwyn defnyddio llai o ynni’ o dan y pennawd ‘Adeiladau ac Ynni’. Holodd os ystyriwyd gwneud hyn yn adeiladau eraill y Cyngor. Tynnodd sylw at  flaenoriaeth parhaus ‘Rhwystro gor-ddatblygu cynlluniau ynni tanwydd ffosiledig’. Holodd pam y nodir ‘gor-ddatblygu’ yn hytrach na chynlluniau ynni di-ffosil neu dim cynlluniau ffosil na ellir eu cyfiawnhau.

 

Cyfeiriodd at y sylw o dan y pennawd ‘Ynni Adnewyddol’ ar dudalen 23 yr adroddiad blynyddol - ‘Yn anffodus, nid oes cydnabyddiaeth yn cael ei roi i ni fel sefydliad os ydym yn cynhyrchu trydan i’w allforio i'r grid ac nid ydym yn gallu hawlio’r credyd carbon amdano.’ Nododd tra’n cydnabod ei fod yn fater tu allan i reolaeth y Cyngor bod cyfle drwy gynhyrchu ac allforio trydan i’r grid cenedlaethol i ddadlau y dylai unrhyw drydan a werthir i’r grid gael ei ddefnyddio yn lleol gan roi’r cyfle i gwsmeriaid lleol i’w brynu ar gyfradd is na’r farchnad agored arferol. Eglurodd y byddai’n helpu unigolion mewn tlodi tanwydd ac o help i’r rhai yn dymuno newid o ddefnyddio nwy a glo ond nid ydynt yn gallu ei fforddio. Nododd y byddai’n cyfrannu at y nod o gynorthwyo’r gymuned a dylanwadu ar bobl eraill y tu hwnt i gyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd swyddogion:

·       Yn rhannu’r pryder o ran gorddibyniaeth ar egni trydan. Roedd y gorddibyniaeth yn gallu effeithio ar chwyddiant a phrisiau.

·       Bod symudiad tuag at egni trydan gyda’r gobaith y byddai’r grid cenedlaethol yn rhydd o garbon yn y dyfodol. Dyna’r unig ffordd y gall y Cyngor gyrraedd sero net ond derbynnir bod risgiau ynghlwm â hyn.

·       O ran dim cydnabyddiaeth o allforio trydan i’r grid, y sefyllfa yn rhwystredig ond yr hyn a nodir gan y Llywodraeth yw wrth i’r grid fynd yn ddi-garbon bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi wrth i’r Cyngor brynu’n ôl.

·       Bod bwriad i uwchraddio goleuadau ar draws holl ystâd y Cyngor gyda chynllun peilot goleuadau LED i’w gyflwyno er cymeradwyaeth.

·       Derbyn y pwynt bod modd ychwanegu enghreifftiau o sut cyfrannir at amcanion Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, drwy’r prosiectau yn ymwneud â theithio, ac yn benodol o ran teithio llesol.

 

Holodd aelodau os byddai modd defnyddio egni gwynt neu dŵr/hydro ar dir y Cyngor, megis man-ddaliadau’r Cyngor. Eglurwyd gan y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol bod paneli solar y Cyngor yn cael eu monitro yn rheolaidd er mwyn canfod faint o egni maent yn ei gynhyrchu ond cydnabuwyd na fyddai modd cynhyrchu egni ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor oni bai fod adeiladau’r Cyngor yn agos ac fe fyddai rhaid ei werthu i’r grid cenedlaethol. Er hyn, cadarnhawyd bod y Cyngor yn edrych ar systemau newydd yn barhaus ac yn agored i ystyriaethau posibl oherwydd yr angen cynyddol i gynhyrchu pŵer.

 

Holodd aelod am ddatblygiadau yn y maes hydrogen. Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr bod gwaith pellach wedi ei gomisiynu gan y Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur i edrych ar sefyllfa’r Cyngor ac ar ddatblygiadau yn y maes hwn.

 

Cyfeiriodd aelod at wybodaeth o ran tarddiad defnydd o ynni ar ddiwrnod penodol ar wefan y Grid Cenedlaethol. Nododd bod tanwydd ffosil yn gyfrifol am 62%, niwclear am 12%, Biomas am 8% ac ynni adnewyddol am 13% o gynnyrch trydan ar y diwrnod perthnasol. Cwestiynodd sut byddai’r Cyngor yn cyrraedd sero net erbyn 2030 a beth fyddai oblygiadau cyrraedd sero net. Nododd mai defnyddio mwy o lo oedd y ffordd ymlaen, cyfeiriodd at wledydd megis China, India a’r Almaen a oedd yn cynyddu defnydd ohono.

 

Trafodwyd y pwysigrwydd o sicrhau bod swyddogion pwrpasol yn delio gyda materion newid hinsawdd a natur a diolchwyd i Reolwr Rhaglen Newid Hinsawdd am ei gwaith gyda’r cynllun. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau nad yw gwaith swyddogion o fewn y maes hwn yn cael ei golli wrth i’r Cyngor wynebu toriadau ariannol a bod cyfrifoldeb am y cynllun ddim yn cael ei basio ymlaen i swyddogion sy’n gweithio y tu hwnt i’r maes, fel rhan o’u cyfrifoldebau. Nodwyd bod arbenigedd yn y maes hwn yn y Cyngor a bod angen ystyried cyfleoedd i gynnig gwasanaeth ymgynghorol ar gyfer sefydliadau eraill a chreu incwm o ganlyniad.

 

Tynnwyd sylw at deitlau ‘Beth y gwnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn Adrannau 5-11 gan nodi bod y wybodaeth yn gallu ymddangos yn aneglur yn y rhannau hyn. Nodwyd y dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth er eglurder i’r darllenydd.

 

Cadarnhawyd byddai’r sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o’r drafodaeth yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet wrth gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol iddynt ar 19 Rhagfyr. Nodwyd y bwriad i gyflwyno adroddiad blynyddol arall i’r Pwyllgor hwn yn y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

 

(i)      Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’.

(ii)     Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau ‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd.

 

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

 

Dogfennau ategol: