Agenda item

Mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio Strategaeth Llifogydd Lleol erbyn Hydref 2023. Mae’r gwaith wedi ei ddyrannu fel risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)             dylid cynnwys gwybodaeth am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal a’r risg i eiddo yn y Strategaeth Llifogydd Lleol;

(ii)            dylid codi ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

2.    Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn un o ofynion y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2021 a bod rhaid iddo fod yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Adroddwyd ar yr angen i ddiwygio’r Strategaeth er mwyn iddo gyd-fynd â gofynion statudol erbyn gwanwyn 2024.

 

Cadarnhawyd mai’r 5 prif Amcan o’r Strategaeth ddiwygiedig hon yw:

1.    Anelu at leihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd.

2.    Datblygu dealltwriaeth bellach o’r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid hinsawdd.

3.    Parhau i weithio gyda’r holl gyrff perthnasol i sicrhau datblygiad priodo a chynaliadwy yng Ngwynedd.

4.    Codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydi arfordirol lleol

5.    Gweithio ar y cyd â’r holl Awdurdodau Rheoli Perygl eraill a grwpiau/cyrff perthnasol i sicrhau ymateb cyd-gysylltiedig i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Esboniwyd nad yw’r Strategaeth wedi ei lunio yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd ond bod yr Adroddiad a’r Atodiadau yn dangos y math o wybodaeth bydd y cynllun yn ei gynnwys. Cadarnhawyd bod yr Amcanion wedi cael eu llunio mewn ymateb i heriau sydd i’w gweld yng Ngwynedd. Gwnaed cais i’r Pwyllgor ystyried craffu’r Strategaeth lawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol arno.

 

Nododd aelod ei gefnogaeth i ymgynghori gyda chymunedau sydd mewn ardaloedd ble mae risgiau o lifogydd yn uchel ond bod angen cynnwys cymunedau mewn ardaloedd gyda risg llifogydd eilradd yn ogystal. Cydnabuwyd bod angen i holl drigolion fod yn ymwybodol o’r Strategaeth a sut i ymateb pan fydd llifogydd oherwydd bod rhai ardaloedd yn gallu cael eu hynysu wrth i lifogydd gau lonydd, gan arwain at drafferthion i ofal meddygol, mynediad at siopau a nifer o broblemau eraill. Pwysleisiwyd bod gwahoddiad i bawb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol er mwyn sicrhau bod gymaint o wybodaeth a phosibl yn bwydo mewn i’r ddogfen derfynol, a bod systemau mewn lle i rannu gwybodaeth a diogelu trigolion Gwynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y defnydd o derminoleg feddal megis ‘anelu’ o fewn dogfennaeth yr adroddiad, cadarnhawyd bod yr iaith hon wedi cael ei ddefnyddio oherwydd cyfyngiadau ar y Cyngor. Cadarnhawyd bod rhai elfennau o fewn y maes yn gyfrifoldeb ar gyrff y tu hwnt i’r Cyngor, ac o dan reolaeth y Llywodraeth ac felly mae’n anodd gosod geirfa gadarn ar hyn o bryd heb ddeall mwy am ddyheadau’r Llywodraeth.

 

Cydnabuwyd bod pennu cyfrifoldebau ymysg partneriaid wedi bod yn heriol yn y gorffennol ond bod dealltwriaeth wedi ei gyrraedd erbyn hyn wrth i berthynas rhyngddynt ddatblygu. Pwysleisiwyd bydd y strategaeth lawn yn mynd i amlygu cyfrifoldebau'r holl bartneriaid i’r dyfodol. Eglurwyd bod y partneriaid yn mynd tu hwnt i’w cyfrifoldebau mewn sefyllfaoedd argyfyngus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nodwyd y cynhelir cyfarfodydd cynllunio argyfwng yn rheolaidd a bod bwriad i gynnal ymarferiad er mwyn sicrhau gwytnwch trefniadau i ymateb i ddigwyddiad llifogydd.

 

Holodd aelod o ran trefniadau cyllido gwaith yn y maes llifogydd. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwaith y gellir ei gyflawni yn ddibynnol ar grantiau. Ymhelaethwyd y byddai newid o ddull ariannu grant penodol i’w gynnwys yn y grant cefnogi refeniw yn golygu byddai effaith ar ddenu grantiau eraill yn y dyfodol.

 

Anogwyd yr holl aelodau i fynychu’r cyfarfodydd ymgynghori ac annog trigolion eu wardiau i leisio eu barn hefyd. Diolchwyd i’r holl swyddogion am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

 

(i)             dylid cynnwys gwybodaeth am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal â’r risg i eiddo yn y Strategaeth Llifogydd Lleol;

(ii)           dylid codi ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

 

2.    Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024.

 

Dogfennau ategol: