Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a’r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd ac hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw y sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.

 

 

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a'r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd, gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi'r fferm deuluol Gymreig sy'n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ailystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.”

 

Nododd yr aelod ymhellach y dylid cywiro’r cyfeiriad at ‘organic food supply’ yn y cyfieithiad Saesneg o’i gynnig i ddarllen ‘locally sourced food supply’.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.”

 

Nodwyd bod y rhesymau dros y gwelliant fel a ganlyn:-

 

·         Bod dau baragraff cyntaf y cynnig gwreiddiol yn cyfeirio at ryw fath o gynllwyn rhyngwladol gan gyrff goruwch-genedlaethol, ac na chredid eu bod yn berthnasol i’r cynnig o gwbl, ac felly y dylid eu dileu.

·         O ddeall gan yr undebau amaeth bod tua 7.5% o diroedd sy’n cael eu hamaethu ar hyn o bryd yn goedwigoedd, nad oedd cyrraedd 10% yn waith anodd, ond roedd angen bod yn hyblyg o ran y 10% gan nad oedd tiroedd pob fferm yn addas ar gyfer plannu coed.

·         Ei bod yn bwysig plannu’r coed iawn yn y llefydd iawn, a byddai polisi cyffredinol fel hyn yn anodd i ffermwyr ei weithredu.

·         Gan na allai tenant droi tir amaeth yn dir coedwigoedd heb ganiatâd y landlord, gallai hynny fod yn broblem hefyd.

·         Yr awgrymid felly y dylid gofyn i’r Llywodraeth ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Trafodwyd y gwelliant.  Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant gan rai aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y 2 baragraff cyntaf yn clymu cynnig, sydd yn ei hanfod yn un eithaf call, i rai o ddamcaniaethau cynllwyn y dde eithafol Inglo-americanaidd, ac felly’n gwanio difrifoldeb gweddill y cynnig yn sylweddol.  Byddai’n wrthyn o beth petai’r Cyngor yn cael ei gysylltu mewn rhyw ffordd gyda’r wleidyddiaeth wenwynig ryngwladol sy’n credu ein bod yn cael ein rheoli gan ryw gyrff annemocrataidd, ac ati.  Roedd camau wedi’u cymryd yn Iwerddon a’r Iseldiroedd, sef 2 wlad sydd ag allbynnau carbon sylweddol iawn yn deillio o amaethyddiaeth, ond nid cyrff annemocrataidd goruwch-wladwriaethol oedd wedi gwneud hynny, eithr llywodraethau sofran y 2 wlad honno.

·         Bod geiriad y gwelliant yn glir a’i bod yn amlwg beth yw’r bwriad a beth sydd angen ei wneud.  I’r gwrthwyneb, credid bod y wybodaeth ym mharagraffau cyntaf y cynnig gwreiddiol yn niwlog.  E.e. nodir bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi, ond nid yw’n glir a yw hynny’n cyfeirio at boblogaeth Gwynedd neu Gymru gyfan.

 

Mynegodd aelodau eraill gefnogaeth i’r cynnig gwreiddiol gan nodi:-

 

·         Y credid bod y 2 baragraff cyntaf yn cynnwys gwybodaeth gefndirol werthfawr ynglŷn â pham bod y cynnig gerbron. 

·         Bod yna gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol yn bodoli ac y teimlid y byddai’r gwelliant yn gwneud mwy o ddrwg i amaeth yng Ngwynedd.

·         Y teimlid bod yna ddarllen rhwng y llinellau a dychmygu drwy honni bod y 2 baragraff cyntaf yn clymu’r cynnig i ddamcaniaethau cynllwyn y dde eithafol.

·         Ei bod yn drueni gweld tir ffermio da yn cael ei droi’n goedwigoedd ac yn sefyll yn gwneud dim.

 

Nododd aelod na theimlai’n barod i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle ar fater mor bwysig, ac awgrymodd y dylid cael trafodaeth fwy manwl cyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen.

 

Nododd y Cadeirydd fod yna gynnig gerbron, ynghyd â gwelliant i’r cynnig, a bod rhaid i’r Cyngor ddod i benderfyniad ar hynny.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd cynigydd y cynnig gwreiddiol:-

 

·         Ei fod wedi bwriadu cynnwys fel rhan o’i gynnig bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gynnig cig lleol ar y fwydlen yn yr ysgolion, ond yn anffodus, iddo adael y cymal hwnnw allan o’i gynnig drwy amryfusedd.

·         Ei bod yn syndod ganddo glywed ei fod yn cael ei uniaethu gyda’r adain dde eithafol am geisio rhoi cynnig gerbron i helpu’r byd amaeth.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe gariodd.

 

Cynigiwyd gwelliant pellach, sef:-

 

“Yn unol ag ysbryd y cynnig, bod y Cyngor yn ymrwymo i gefnogi cynhyrchwyr lleol drwy sicrhau bod cig a chynnyrch lleol arall yn aros ar fwydlen ein hysgolion.”

 

Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro:-

 

·         Mai amcan rhybudd o gynnig oedd bod y Cyngor yn cyhoeddi’r rhybudd ymlaen llaw.

·         Y gallai gwelliant i gynnig ychwanegu neu newid geiriad yn unig, ac ni ellid dod â mater hollol wahanol i mewn i’r drafodaeth ar ôl rhoi rhybudd o’r bwriad.

·         Gan mai mater gweithredol oedd y fwydlen ysgolion, ayb, y byddai’n cynghori ei bod allan o drefn i ddod â mater newydd i mewn ar y pwynt yma.

 

Yn wyneb yr eglurhad, diwygiodd yr aelod ei welliant pellach, sef:-

 

“Yn unol ag ysbryd y cynnig, bod y Cyngor yn ymrwymo i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn ymarferol” (heb enghreifftio’r gefnogaeth honno).

 

Nododd y Prif Weithredwr ei fod yn credu bod y gwelliant pellach yn gofyn am ymrwymiad i gefnogi’r fferm deuluol, a bod hynny’n rhan o’r gwelliant oedd wedi’i dderbyn eisoes.

 

Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig gwreiddiol wedi’i wella, a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol.  Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig wedi’i wella.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig wedi’i wella, sef:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.