Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Derbyniwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 5 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2023.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai dyma’r pumed adroddiad blynyddol sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod y Cynllun cyfredol yn parhau nes 2025/26. Manylwyd bod gofyniad statudol i adrodd i’r Llywodraeth yn flynyddol ar gynnydd y Cynllun a bydd hynny’n digwydd erbyn diwedd mis Hydref os byddai’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Adroddwyd bod newidiadau mawr wedi bod i rediad y Cynllun ers yr adroddiad blynyddol diwethaf. Cadarnhawyd bod y trefniant o gydweithio ar y Cynllun gydag Ynys Môn wedi dirwyn i ben ac mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu Gweithgor Polisi Cynllunio o 15 Aelod i ymgymryd â’r gwaith erbyn hyn. Cadarnhawyd bod sylwadau’r Gweithgor wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod dangosyddion lliwiau goleuadau traffig yn cael ei ddefnyddio i fonitro effeithiolrwydd polisïau a rhoi trosolwg o berfformiad y Cynllun. Cadarnhawyd bod:

 

·       33 o bolisïau yn cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cynllun ac yn perfformio’n unol neu’n well na’r disgwyliadau – dangosydd gwyrdd.

·       21 o bolisïau ddim yn cael eu cyflawni fel y rhagwelwyd (ond nid yw hynny’n arwain at bryderon ynghylch gweithredu’r polisïau) – dangosydd oren.

·       5 o bolisïau sydd ddim yn darparu canlyniad disgwyliedig (ac mae pryderon canlyniadol ynglŷn â gweithredu’r polisïau) – dangosydd coch.

 

Sicrhawyd bod unrhyw bolisi sy’n syrthio i’r dangosydd coch yn derbyn ystyriaeth wrth symud ymlaen gyda’r Cynllun. Cadarnhawyd bod 11 o bolisïau wedi cael eu cyflawni ac ddim yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddangosydd.

 

Nodwyd y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 315 o unedau preswyl newydd yn ystod y flwyddyn 2022/23, gyda 298 ohonynt wedi eu cwblhau. Manylwyd bod 122 o’r rhain yn unedau fforddiadwy. Adroddwyd bod hyn yn 41% o’r holl unedau a gwblhawyd o fewn y flwyddyn sy’n uwch na’r targed disgwyliedig. Ystyriwyd bod unedau yn derbyn statws ‘unedau fforddiadwy’ oherwydd cyfyngiadau, maint a lleoliadau ac felly mae’n anorfod na fydd holl unedau a adeiladir gan y Cyngor yn mynd i dderbyn y statws hwn.

 

Eglurwyd bod Dangosydd D21 yn gosod targedau ar gyfer cyfarch yr adnoddau ynni adnewyddadwy posibl a gydnabuwyd yn y Cynllun. Atgoffwyd bod disgwyl y buasai 50% o hyn wedi ei gyfarch erbyn 2021. Cydnabuwyd nad yw’r targed yma wedi ei gyfarch hyd yma oherwydd prinder niferoedd y ceisiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cynllun hyd yma. Ystyriwyd hefyd bod nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy wedi eu lleoli ar Ynys Môn ac felly bydd angen diwygio’r targedau. Esboniwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi adnabod y diffyg hwn fel gwendid ac yn dymuno adfer y sefyllfa.

 

Cydnabuwyd bod gan Cyngor Gwynedd gynlluniau cyffelyb gyda Pharc Cenedlaethol. Manylwyd bod y berthynas rhwng y ddau awdurdod yn gryf. Er hyn, nodwyd nad oes modd uno cynlluniau gyda’r Parc oherwydd ei fod yn awdurdod annibynnol, yn ogystal â’r ffaith bod rhan o ‘i ardal wedi ei leoli o fewn tiriogaeth Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy.

 

Awdur:Gareth Jones: Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd

Dogfennau ategol: