Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd addasiadau sydd wedi eu gwneud i’r Strategaeth Iaith yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu’r strategaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y strategaeth ddrafft yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r iaith ar draws y sir ac mae’n bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Rhannwyd y weledigaeth i greu strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf sy’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ystod mis Ebrill a Mai 2023 ac bod ymateb cadarnhaol wedi ei dderbyn. Manylwyd bod sicrhau cyfleoedd digonol ac addas i bobl ddysgu Cymraeg a magu hyder wrth siarad yr iaith yn themâu cyson yn yr ymatebion hyn. Cydnabuwyd bod rhai ymatebion llai cadarnhaol wedi dod i law megis sylwadau yn nodi na ddylai’r Cyngor ddefnyddio’r Gymraeg fel ffordd o wahaniaethu ac na ddylid gwastraffu adnoddau prin ar yr iaith.

 

Cydnabuwyd ei fod yn siomedig mai dim ond 3 ymateb i’r holiadur a gyflwynwyd gan unigolion rhwng 25 a 34 oed. Yn sgil y canlyniad hwn, adroddwyd bod grwpiau ffocws wedi cael ei gynnal i unigolion rhwng 16 a 20 oed. Cadarnhawyd bod  cynnal ymgynghoriadau gyda unigolion ifanc yn heriol ac mae’r uned yn gweithio i ganfod dulliau newydd o ymgysylltu er mwyn sicrhau nifer uwch o ymatebion yn y dyfodol.

 

Cadarnhawyd nad oedd awgrymiadau am newidiadau ymarferol i’r strategaeth yn deillio o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd nad oes newidiadau mawr wedi cael eu gwneud i’r strategaeth, dim ond man addasiadau. Tynnwyd sylw at yr addasiadau canlynol;

 

·       Diwygiwyd y strategaeth i gynnwys mwy o ffocws ar dechnoleg gan ei fod yn cael ei adnabod fel her ymhob maes gweithredu.

·       Ystyriwyd os oes modd cynyddu presenoldeb y Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol wrth ddatblygu’r rhaglen waith, gan bod ymatebwyr yn ei nodi fel her.

·       Newidiwyd y strategaeth i gyfarch pryderon am agweddau pobl a heriau economaidd a effeithir ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn hytrach na heriau demograffig a Sylfaen Tystiolaeth.

 

Esboniwyd bod y rhaglen yn rhoi sylw i’r Gymraeg mewn cynlluniau strategol fel CYSGA, prosiectau megis prosiect enwau llefydd sy’n rhoi statws i enwau Cymraeg a phrosiect15 sy’n ceisio annog defnydd o’r Gymraeg gan blant a pobl ifanc yn ddigidol.

 

Pwysleisiwyd ei fod yn rhaglen waith byw sy’n cael ei haddasu fel bo’r angen yn codi. Eglurwyd nad oes cyllideb penodol ar gyfer gweithredu’r strategaeth iaith ac felly mae angen sicrhau bod cyllideb ddigonol ar gael i weithredu prosiectau’r rhaglen waith drwy gyflwyno bidiau am arian drwy system bidiau corfforaethol y Cyngor fel bo’r angen yn codi.

 

Cadarnhawyd bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn diweddaru’r Cabinet ar gynnydd y rhaglen waith a gweithrediad y Strategaeth fel rhan o’u hadroddiad blynyddol am y maes iaith. Manylwyd hefyd bydd yr holl adrannau hefyd yn egluro eu cyfraniadau i weithredu’r strategaeth fel rhan o’u hadroddiadau blynyddol i’r Pwyllgor Iaith, yn ogystal â rhannu data gyda’r Uned Iaith a Chraffu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Cyfeiriwyd at Menter Iaith Gwynedd a nodwyd bod rhaglen waith yn cael ei gytuno gyda hwy er mwyn gweld sut gellir cydweithio ar wahanol rannau o’r strategaeth. Eglurwyd bydd y cydweithio hyn yn digwydd yn naturiol gan eu bod yn rhan o Fforwm Iaith Gwynedd.

 

Awdur:Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Corfforaethol

Dogfennau ategol: