Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Mena Trenholme

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2022/23.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod niferoedd gweithlu’r Cyngor ar gynnydd gan fod cyfanswm o 5,995 o bobl yn gweithio i’r Cyngor erbyn diwedd mis Mawrth eleni, o’i gymharu â 5,908 y llynedd. Nodwyd bod cynnydd mewn nifer o staff yn groes i’r hyn a ddisgwylir mewn cyfnod ble mae angen gwneud toriadau i gyfarch cyllideb y Cyngor. Eglurwyd mai staff yw prif asedau’r Cyngor ac felly mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw doriant i wasanaethau’r Cyngor yn cael ei wneud heb leihau niferoedd y gweithlu. Manylwyd hefyd bod nifer o aelodau staff yn cael ei ariannu drwy grantiau sydd ddim yn deillio o gyllideb y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at yr ystadegyn bod 71.2% o weithlu’r Cyngor yn ferched ac bod y ffigwr hwn yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod mwy o ferched yn gweithio yn rhan amser yn hytrach na llawn amser.

 

Nodwyd bod 65% o weithlu'r staff dros 50 oed a bod 40% yn hŷn na 50 oed. Cydnabuwyd bod hyn yn cael ei gysidro fel risg oherwydd y posibilrwydd o golli blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth mewn cyfnod byr  yn y dyfodol. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau nad ydi’r golled hyn yn digwydd gan fod cynllunio’r gweithlu yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor hwn, drwy brentisiaethau, hyfforddai proffesiynol a rhaglenni eraill i foderneiddio prosesau recriwtio’r Cyngor. Manylwyd hefyd bod mesur trosiant staff a chael dealltwriaeth o’r rhesymau tu ôl i hynny yn allweddol a chymhleth ac felly mae trefniant mewn lle i gynnal holiaduron a chyfweliadau gadael i unigolion.

 

Ymfalchïwyd bod 38.4% o staff heb fod yn sâl o gwbl o fewn y cyfnod 2022/23. Cydnabuwyd bod y ffigwr hwn yn is na 43% yn 2021/22 sy’n achosi pryder bod niferoedd salwch ar gynnydd. Nodwyd bod canran o staff sydd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn disgyn i mewn i gategori ‘Arall’, hynny yw, nid ydynt yn wael oherwydd rhesymau haint, cefn/gwddf, cyhyrysgerbydol, straen neu gategori penodol arall, ac felly mae’n anodd cefnogi’r aelodau staff hynny. Er hyn, pwysleisiwyd bod gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn darparu ystâd eang o wasanaethau i gefnogi unrhyw aelod o staff sy’n wael, gan nodi bod mwy o salwch i’w weld mewn rhai adrannau nac eraill.

 

Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i hysbysu’r gweithlu o nodi y categori cywir fel y rheswm eu bod i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei ddarparu iddynt. Cadarnhawyd  y gobeithir bydd y broses o adrodd salwch yn cael ei symleiddio dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys system syml fel rhan o adnodd Hunanwasanaeth Staff.

 

Sicrhawyd bod cynadleddau achos yn digwydd gydag adrannau a’r gwasanaethau adnoddau dynol er mwyn trafod achosion o absenoldebau tymor hir er mwyn canfod dulliau o gefnogi staff yn ôl i’r gwaith.

 

Cadarnhawyd y cyflawnwyd archwiliad annibynnol yn ystod 2022/23 ar strwythur tâl a chyflog y Cyngor. Casglwyd bod systemau tâl y Cyngor yn ymdrin â chyflogau’n gyfartal.

 

Tynnwyd sylw fod y materion a gynhwysir o fewn yr adroddiad yn heriau hir dymor ac o’r herwydd yn faterion sy’n cael eu trafod yn flynyddol. Manylwyd bod rhaid yn cynnwys prif heriau sy’n wynebu’r Cyngor fel cyflogwr sef

 

·       Cynllunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol.

·       Parhau i hyrwyddo a chefnogi llesiant corfforol a meddyliol ein gweithlu.

·       Sefydlu cynllun gweithio i’r dyfodol.

 

Awdur:Eurig Williams: Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol

Dogfennau ategol: