Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd
y Cabinet gyda’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad a datganwyd bodlonrwydd
y Cabinet gyda’r adroddiad.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod effeithiau Covid-19 dal i’w gweld o fewn y maes hwn, gan
bod gwaith dydd i ddydd arferol wedi cronni dros gyfnod y pandemig. Manylwyd
bod swyddogion y gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ganllawiau’r
llywodraeth drwy gyfnod Covid yn ogystal â chefnogi
rheolwyr wrth addasu i’r normal newydd gyda’u timoedd.
Ymhelaethwyd bod nifer o weithwyr y Cyngor yn parhau i weithio o adref,
ac mae yna ddyletswydd gofal ar y Cyngor i sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn
ddiogel. Adroddwyd bod 2063 o holiaduron wedi eu gyrru i’r gweithlu i asesu ei
gweithfan. Cadarnhawyd bod 73% o’r gweithlu wedi ymateb i’r holiaduron, gan
arwain at 239 o asesiadau pellach gan y gwasanaeth.
Atgoffwyd bod gofyniad cyfreithiol i adrodd ar ddamweiniau sy’n cyfarch
rheoliadau RIDDOR (Reporting of Injuries,
Diseases and Dangerous Occurences Regulations 2013) i’r
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID).
Cadarnhawyd nad oes angen adrodd ar achosion Covid a nodwyd bod niferoedd sydd wedi eu hadrodd o dan
drefn RIDDOR wedi gostwng ychydig yn is na’r hyn a welwyd yn 2019.
Datganwyd bod lefelau damweiniau yn gyffelyb i’r lefelau cyn y pandemig.
Nodwyd bod tueddiadau o ran patrwm yn parhau yn fewnol o fewn y Cyngor ac yn
genedlaethol oherwydd mai symud a thrin, a llithro a baglu yw’r ddau brif achos
dros ddamweiniau. Manylwyd bod achosion eraill o ddamweinio yn amrywio o
gyflyrau iechyd penodol sydd wedi eu
hachosi gan y gwaith, ymosodiadau a damweiniau cerbyd.
Adroddwyd bod AGID wedi cynnal ymweliadau arolygol gyda’r Cyngor yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd eu bod wedi ymweld â dwy ysgol yn y sir am
reolaeth asbestos yn ogystal â ymweliad i safle Coed Ffridd Arw, Dolgellau ar
faterion trin gwastraff. Cadarnhawyd mai canlyniad yr ymweliadau hyn oedd bod
yr arolygwyr yn hapus ond bu i’r Cyngor dderbyn llythyr dilyniant ar fân
faterion sydd wedi golygu ffi ymyrraeth o oddeutu £600. Sicrhawyd bod
argymhellion yr AGID wedi cael ei rannu gyda’r gwasanaeth Eiddo er mwyn sicrhau
bod ysgolion eraill y sir yn cydymffurfio ac i osgoi ffioedd cyffelyb.
Esboniwyd bod nifer o gyrsiau hyfforddiant wedi
cael ei gynnal gan y gwasanaeth. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys cwrs Arwain yn
Ddiogel i’r Uwch Dim Rheoli er mwyn anelu i integreiddio diwydiant iechyd,
diogelwch a lles i bob agwedd o’r Cyngor. Manylwyd bod hyfforddiant Iechyd,
Diogelwch a Llesant wedi bod yn cael ei gynnal yn ogystal â chyrsiau IAct i gynorthwyo rheolwyr i ddelio gyda materion iechyd
meddwl. Eglurwyd bod 93 o reolwyr wedi manteisio ar yr hyfforddiant hwn hyd
yma, a bod yr adran wedi derbyn adborth cadarnhaol am ei gynnwys. Soniwyd bod
yr adran yn casglu data i weld faint o reolwyr sydd eto i gwblhau’r
hyfforddiant.
Cadarnhawyd bod rhaglen Gwyliadwriaeth Iechyd o fewn gwasanaethau iechyd
galwedigaethol wedi cael ei ailgydio ynddo, yn unol â gofynion statudol.
Tynnwyd sylw at y nifer o gyfeiriadau sydd wedi cyrraedd y gwasanaeth
dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Adroddwyd bod niferoedd yr atgyfeiriadau wedi
cynyddu ym mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023. Cadarnhawyd bod iechyd meddwl a
chyhyrysgerbydol yn parhau i fod yn brif achosion
absenoldebau salwch o fewn gweithlu’r Cyngor. Ystyriwyd mai dyma’r prif
achosion oherwydd ymwybyddiaeth gyhoeddus am y materion, a’r hyn sydd gan y
Cyngor ar gael i’w staff ddelio gyda’r materion hyn os ydynt yn delio â nhw.
Nodwyd hefyd bod y ffaith fod y Bwrdd Iechyd yn delio gyda problemau ar hyn o
bryd, bod posibilrwydd bod staff yn cyfeirio i’r Cyngor am gymorth gan ei fod
yn gyflymach. Cadarnhawyd bod hyn yn creu heriau o fewn y gwasanaeth ac bod
angen ymyrraeth ddwys.
Awdur:Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol
Dogfennau ategol: