Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad wedi dyddio ychydig gan fod y cyfarfod herio perfformiad wedi cael ei gynnal ers mis Gorffennaf.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £39.1m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Manylwyd bydd adolygiad ffurfiol o sefyllfa cyllidebol adrannau’r Cyngor yn 2023/24 wedi cael ei wneud ar ddiwedd Awst 2023 ac mae adroddiad o’r adolygiad hwnnw ar agenda Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 12 Hydref 2023.

 

Tynnwyd sylw i Gynllun Digidol 2023-28 gan fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd yn rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.Cadarnhawyd bod adroddiad pellach ar y Cynllun Digidol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 07 Tachwedd 2023, a fod y mater eisoes wedi cael ei flaen-graffu gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi.  Bydd sylwadau’r pwyllgor hwnnw yn cael eu hymgorffori yn y fersiwn fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran yn gyfrifol am weithredu’r drefn o dalu’r anfonebau a gyflwynir i’r Cyngor. Eglurwyd bod anfonebau yn cael eu trefnu i’w dalu mor fuan a phosibl, yn hytrach na defnyddio system 30 diwrnod. Perfformiad yr Adran yn y cyfnod hyd ddiwedd Mehefin oedd i dalu anfonebau lleol o fewn 16 diwrnod ac unrhyw anfoneb arall o fewn 26 diwrnod. Pwysleisiwyd bod y maes hwn yn derbyn sylwi’n rheolaidd fel rhan o gyfarfodydd herio perfformiad yr Adran ac mae’n fesur cyflawni allweddol.

 

Rhannwyd diweddariad ar berfformiad rhai o wasanaethau’r adran, gan gynnwys:

 

·       Gwasanaeth Dysgu Digidol (sydd o dan reolaeth y Cyngor ers i gwmni Cynnal ddod i ben). Nodwyd bod capasiti’r tîm i gefnogi ysgolion wedi bod yn is na’r disgwyl yn y cyfnod dan sylw oherwydd absenoldebau staff ond disgwylir i hyn wella dros y misoedd nesaf. Cydnabuwyd bod yr adran wedi bod yn delio gyda heriau o ddenu ymgeiswyr i swyddi technoleg gwybodaeth y Cyngor, oherwydd natur arbenigol y swyddi, ond bod y sefyllfa yn cael ei adfer erbyn hyn.

·       Buddsoddi a Rheoli Trysorlys: Cadarnhawyd bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd o fewn y chwarter uchaf o gronfeydd pensiwn llywodraethau lleol y Deyrnas Unedig. Nodwyd ar sail perfformiad 3-bynedd roedd y Gronfa yn y 3ydd safle o bron i 100 o gronfeydd ac yn y 7fed safle dros 5 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn dangos bod perfformiad y Gronfa wedi bod yn gryf iawn.

·       Gwasanaeth Pensiynau: Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi ymweld â stondin y Gwasanaeth Pensiynau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd nifer fawr o bobl wedi manteisio ar y cyfle i ddeall eu pensiwn a derbyn cymorth.

·       Gwasanaeth Cyflogau: Cydnabuwyd bod nifer o heriau, gan gynnwys ymdrin â thaliadau anghyfunol i athrawon. Yn sgil diffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru, roedd rhaid cyfrifo cyflogau yn unigol a’u bwydo i mewn i system gyflogau. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith ac i sicrhau nad oedd oediad yn nhaliadau staff y Cyngor.

·       Gwasanaeth Trethi: Cadarnhawyd bod llinellau ffôn bellach ar agor nes 5yh o’r gloch. Atgoffwyd bod y llinellau ffôn wedi bod yn cau am 2yh yn y gorffennol yn sgil capasiti staff. Hyderwyd bydd hyn yn cynyddu ansawdd y gwasanaeth.

·       Gwasanaeth Yswiriant a Rheoli Risg: Pryderwyd bod adroddiadau gan adrannau’r Cyngor ddim yn cyrraedd y gwasanaeth yn amserol, heb ddigon o fanylion ynddyn nhw, sy’n atal y gwasanaeth rhag gweithredu’n effeithiol. Ystyriwyd bod angen diwygio’r broses hon er mwyn gwella’r sefyllfa.

·       Gwasanaeth Cyllid a Chyfrifeg/Taliadau: Cadarnhawyd bod 6 set o gyfrifon llawn wedi cael eu paratoi a bydd Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl ar rhain yn ystod mis Tachwedd. Diolchwyd i staff yr adran a gafwyd eu cyfweld yn rhan o archwiliad ESTYN.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi cyflawni ei holl gynlluniau arbed ar gyfer y cyfnod 2015/16 hyd 2022/23. Nodwyd bod un cynllun arbed yn parhau o fewn y rhaglen 2022/23 sef ‘Denu Incwm ychwanegol drwy Asiantaeth Casglu Mewnol’. Cydnabuwyd na fydd y cynllun hwn am wireddu ei darged arbedion o £25,000 felly mae’r Adran yn parhau i edrych am gynllun amgen.

 

Awdur:Dewi Morgan: Pennaeth Cyllid

Dogfennau ategol: