Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Derbyn a nodi’r adroddiad.

b)     Gofyn i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law ar unrhyw oblygiadau posibl i’r polisi yn dilyn asesu cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

c)     Gofyn i’r swyddogion ystyried a oes lle i’r Pwyllgor gyfrannu at ymateb Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad sy’n dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro mai diweddariad pellach ar y Polisi Gosod Tai a oedd dan sylw a bod y polisi eisoes wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu Gofal yn y gorffennol. Esboniwyd bod newidiadau wedi’u gwneud i bolisi’r Cyngor yng nghyd-destun sut y pennir i ba fandiau y caiff ceisiadau tai eu rhoi a bod y polisi presennol wedi bod mewn gweithrediad ers bron i dair blynedd bellach. Nodwyd bod y polisi wedi llwyddo i uchafu’r nifer o dai sy’n cael eu gosod i drigolion Gwynedd o 90% i 96.7% a bod hyn yn ganran uchel iawn, yn enwedig o ystyried nad oes modd ystyried cyswllt lleol fel maen prawf blaenoriaeth hanfodol ym mhob cais.

 

Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ym mis Hydref 2023 fyddai’n adolygu’r ddeddfwriaeth a’n gwneud newidiadau sylfaenol i’r ffordd yr ymdrinnir gyda digartrefedd ei ddelio gydag yng Nghymru. Oherwydd y cysylltiad rhwng digartrefedd ac eiddo cymdeithasol, sgil-effaith edrych ar adolygu’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yw bod angen ail-edrych ar sut mae eiddo cymdeithasol yn cael ei osod ac unrhyw sgil-effeithiau sy’n deillio o’r broses honno.

 

Nodwyd bod yr Adran Tai yn disgwyl yn eiddgar i weld y Papur Gwyn er mwyn cael dealltwriaeth o gyfeiriad y Llywodraeth. Eglurwyd bod ganddynt syniad eithaf da gan eu bod wedi bod mewn cyfarfodydd a thrafodaethau cyson gyda’r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf ac wedi cael cyfle i nodi eu barn a’u teimladau am y newidiadau posib. Nodwyd felly eu bod yn gobeithio na fydd unrhyw beth rhy ysgytwol wedi’i gynnwys yn y Papur Gwyn ond y bydd angen ychydig o amser ar yr adran i werthuso ei gynnwys ac unrhyw effaith y gallai gael ar bolisïau’r Cyngor. Eglurwyd ei bod hi’n debygol bod cryn waith yn wynebu’r adran unwaith y caiff y Papur Gwyn ei gyhoeddi.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi balchder dros lwyddiant y polisi hyd yma.

 

-        Codwyd cwestiynau am ddiffiniad y cysylltiad lleol a mynegwyd pryder y gallai’r Cyngor ddweud eu bod yn llwyddiannus wrth ddarparu tŷ i rywun o Aberdyfi ym Methesda. Gofynnwyd am eglurhad o sut y gellir sicrhau bod pobl fregus yn gallu aros yn eu cymunedau.

o   Mewn ymateb eglurwyd er bod gan bob awdurdod elfen o hyblygrwydd pan mae’n dod i Bolisi Gosod Tai, bod rhaid rhoi blaenoriaeth statudol i 5 categori o bobl ac felly bod yr elfen cysylltiad lleol yn gorfod bod yn eilradd i’r categorïau statudol hynny.

o   Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi ychwanegu haen cysylltiad cymuned sy’n mynd ymhellach na chysylltiad lleol. Mewn sefyllfa pan fo ymgeiswyr yn yr un band blaenoriaeth eglurwyd y byddai pobl sydd gyda chysylltiad cymunedol yn cael blaenoriaeth dros y rhaid nad oedd gyda’r cysylltiad cymuned.

o   Esboniwyd bod 54% o’r gosodiadau diweddar wedi eu gwneud i ymgeiswyr oedd gyda chysylltiad cymunedol. Er bod y ffigwr yn ymddangos yn isel ar yr olwg gyntaf, eglurwyd bod diffyg llety addas mewn rhai cymunedau, er enghraifft dim fflatiau i bobl sengl mewn ardaloedd mwy gwledig, yn cyfrannu’n uniongyrchol at y ffigwr. Cadarnhawyd bod y ffigwr yn llawer uwch os yr ystyrir pobl sydd gyda chysylltiad i gymunedau cyfagos.

o   Yng nghyd-destun cryfhau’r elfen cysylltiad lleol, nodwyd y byddai’n anodd gweld beth ellir ei wneud yn ychwanegol o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth a chanllawiau presennol ac felly byddai’n rhaid disgwyl a gweld beth sy’n cael ei ddweud yn y Papur Gwyn.

 

-        Cadarnhawyd bod y Cyngor yn derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn er mwyn cefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd a’u bod yn cydweithio gydag asiantaethau allanol er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dal gafael ar eu tenantiaethau.

 

-        Mewn ymateb i gwestiwn am rôl y cymdeithasau tai yn y broses o benderfynu pwy sy’n cael tŷ, eglurwyd mai’r polisi sy’n gyrru’r penderfyniad a bod trefn flaenoriaethu glir i’w gael yn y polisi.

o   Nodwyd mai’r cyngor oedd yn hanesyddol yn cynhyrchu’r rhestr flaenoriaeth ond bod swyddogion y cymdeithasau tai yn gwneud hyn bellach. Er hyn, cadarnhawyd mai’r un polisi sy’n cael ei ddefnyddio ac y byddai angen rheswm dilys i beidio rhoi’r eiddo i’r person ar dop y rhestr.

o   Eglurwyd na ddylid gwneud penderfyniadau am geisiadau unigol oni bai am mewn amgylchiadau eithriadol gan fod hyn yn mynd yn groes i’r polisi.

o   Nodwyd bod y Cyngor yn y broses o weithio ar system gyfrifiadurol a fyddai’n gwneud hi’n amhosib hepgor ymgeisydd gan na fyddai posib cynnig yr eiddo i’r person nesaf ar y rhestr.

o   O ran atebolrwydd, cadarnhawyd mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am y gofrestr a’u bod yn derbyn adroddiadau gosod gan y cymdeithasau tai er mwyn gallu monitro’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

 

-        Esboniwyd nad yw’r Cyngor ei hun yn adeiladu tai cymdeithasol, yn hytrach maent yn gweithio gyda phartneriaid a chymdeithasau tai er mwyn eu hadeiladu. Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn yr arian sydd ar gael i adeiladu tai cymdeithasol ac o ran y broses, eglurwyd bod y cymdeithasau tai yn adnabod cynlluniau posib ac yna’r mae’r Cyngor yn asesu pa rai y maent am flaenoriaethu.

 

-        Cadarnhawyd mai er mwyn adeiladu tai fforddiadwy, nid tai cymdeithasol, y byddai’r refeniw o’r dreth ychwanegol yn cael ei ddefnyddio.

 

-        Nodwyd bod y ffurflen gais ar gyfer y tai cymdeithasol ar gael ar wefan y Cyngor ac er bod y ffurflen wedi ei chwtogi o 20 i 12 tudalen, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith ei bod hi’n ffurflen hir sy’n gofyn nifer o gwestiynau. Esboniwyd bod y cwestiynau’n cael eu gofyn am resymau penodol er nad yw hyn bob amser yn glir i’r ymgeisydd.

 

-        Eglurwyd bod y broses o sicrhau bod y tai a brynwyd gan y Cyngor yn barod wedi cymryd hirach na’r disgwyl ond eu bod yn gobeithio gallu eu llenwi cyn gynted â phosib o fewn y misoedd nesaf.

 

-        Mynegwyd pryder am le mae gweithwyr allweddol yn ffitio mewn i’r polisi, yn enwedig o ystyried nad oes modd cael gweithwyr mewn rhai rhannau o Wynedd oherwydd diffyg llefydd iddynt aros.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod y gyfraith yn nodi bod rhaid dangos blaenoriaeth i 5 categori o bobl a bod gweithwyr allweddol ddim yn rhan o’r rheini.

o   Serch hynny, nodwyd bod elfen o hyblygrwydd yno i’r Cyngor adolygu hyn ond bod angen aros rŵan i weld y newidiadau sy’n gysylltiedig â’r Papur Gwyn.

 

-        Cafwyd sawl cwestiwn am y modd y caiff ffigyrau eu dyblygu wrth ystyried faint o bobl sydd ar y rhestr aros mewn gwahanol ardaloedd gan fod rhai ymgeiswyr yn debygol o fod ar y rhestr mewn mwy nac un ardal. Holwyd hefyd a oes lle i ddatblygu system well o ddarparu gwybodaeth am restrau aros?

o   Mewn ymateb, cadarnhawyd gan swyddog bod 2346 o ymgeiswyr ar y gofrestr ond bod y ffigwr yn newid yn ddyddiol. Nodwyd bod y tîm yn derbyn oddeutu 27 o geisiadau newydd bob wythnos ac wedi derbyn oddeutu 950 o geisiadau yn barod eleni.

o   Eglurwyd bod galw cynyddol ar y tîm i rannu’r wybodaeth a’i bod hi’n llawer haws adrodd ffigyrau fesul ardal ar hyn o bryd gan ei bod hi’n mynd yn llawer mwy cymhleth wrth gyfuno ardaloedd ayyb. Nodwyd bod angen meddwl am flaenoriaethau’r tîm.

o   Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw’r nifer o geisiadau yn hafal i’r nifer o bobl gan fod nifer o geisiadau yn cynnwys teuluoedd. Nodwyd bod y ffigyrau yn frawychus a bod yr adran yn deall pam fod y cynghorwyr eisiau gwybod beth sy’n digwydd yn eu wardiau.

 

-        Nodwyd ei bod hi’n bwysig bod Cynghorwyr yn gallu gwybod (gyda chaniatâd yr ymgeisydd) pa wybodaeth sydd gan yr adran gan fod ymyrraeth Cynghorwyr yn aml yn gallu arwain at ddarparu’r wybodaeth lawn i’r adran.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod y gyfraith a chod ymarfer gan Lywodraeth Cymru yn egluro pa rôl y gall Cynghorwyr chwarae yn y broses. Derbyniwyd bod lle iddynt gefnogi neu eirioli ar ran eu hetholwyr.

o   Eglurodd y swyddogion eu bod yn gobeithio y byddai datblygu’r system newydd yn hwyluso’r broses gofrestru am eiddo cymdeithasol sydd yn cynnwys darparu gwybodaeth i gefnogi’r cais. Er eu bod yn symud i’r cyfeiriad cywir, cafwyd cydnabyddiaeth nad yw hynny wedi ei gyflawni’n llawn eto.

 

-        Mewn ymateb i gwestiwn am rôl hicyn cyflog neu hicyn incwm yn y polisi, esboniwyd nad yw hynny bellach yn rhan o’r polisi a bod y Cyngor wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio hyn gan fod y farchnad yn gallu amrywio rhwng ardaloedd. Nodwyd bod yr adran yn ystyried amgylchiadau unigol yr ymgeisydd yn ddibynnol ar y math o ardaloedd maent yn eu dewis a dod i’r casgliad ydi’r incwm ganddyn nhw i gwrdd â’r anghenion tai yn gyfforddus yn y sector preifat.

 

-        Mynegwyd pryder am dai anodd eu gosod, er enghraifft tai pedair llofft mewn ardaloedd gwledig, a’r modd y mae perygl i’r rhain gael eu gosod i bobl sy’n isel ar y rhestr. Gofynnwyd a oes posib gwneud gwell defnydd o’r tai rhain, er enghraifft, eu gwerthu i bobl leol?

o   Mewn ymateb, derbyniwyd bod problemau mewn rhai ardaloedd ac efallai bod lle i’r adran gael sgyrsiau gyda’u partneriaid er mwyn cael datrysiad.

o   Nodwyd bod y partneriaid yn rhagweithiol wrth geisio denu pobl i’r eiddo ond bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r we er mwyn hysbysebu eiddo yn cynyddu’r risg o dynnu diddordeb o’r tu allan. Dadleuwyd mai dyma ble mae’r polisi yn camu mewn a bod ymgeiswyr sydd gyda chysylltiad Gwynedd yn cael eu blaenoriaethu a’i bod hi’n deg dweud mai eithriadau ydi’r bobl sy’n cael eiddo heb gysylltiad.

 

-        Tynnwyd sylw at y modd y mae’r boblogaeth yn heneiddio ac efallai nad yw rhai pobl yn yr eiddo mwyaf addas ar eu cyfer. Yn sgil hyn, holwyd sut mae’r Adran Tai yn cydweithio gyda'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant er mwyn sicrhau bod pobl yn byw mewn eiddo sy’n addas ar eu cyfer a sut mae monitro bod nifer digonol o dai addas ar gyfer anghenion demograffig Gwynedd?

o   Mewn ymateb, nodwyd bod systemau mewn lle gan bartneriaid er mwyn adnabod enghreifftiau felly o’u tenantiaid a sut y mae posib rhyddhau’r math yna o eiddo ar gyfer defnydd mwy priodol.

o   Wrth gynllunio eiddo newydd, eglurwyd bod dadansoddiad manwl o’r anghenion yn cael ei wneud er mwyn ceisio cwrdd ag anghenion ar draws y sbectrwm o fewn y cynllun datblygu.

o   O ran y cydweithio rhwng yr adrannau, cadarnhawyd bod perthynas agos rhwng yr adrannau yn hanfodol bwysig. Esboniwyd bod perthynas agos rhwng gofal a gwasanaethau tai gan fod canran uchel o’r materion sy’n codi yng nghyd-destun gofal yn ymwneud gydag addasrwydd tai. Mae cydweithrediad rhwng yr adrannau yng nghyd-destun addasu tai er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu aros yn eu cartrefi.

o   Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith fod heriau’n codi o ran argaeledd arian ac adnoddau er mwyn gwneud addasiadau i dai. Mynegwyd pryder nad oes adnoddau digonol er mwyn cyfarch yr angen a bod risg i hyn arwain at gynnydd yn yr amser y mae’n rhaid i bobl aros am dŷ addas.

o   Nodwyd bod y ddwy adran newydd ddechrau cydweithio ar ddarn o waith i edrych ar y sefyllfa yng nghyd-destun addasrwydd tai ac er mwyn ceisio rhagweld yr anghenion dros y 25 mlynedd nesaf i weld sut y gellir cynllunio a pharatoi ar gyfer cyfarch yr angen sydd i ddod yn sgil y boblogaeth sy’n heneiddio.

 

-        Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn gofyn sut mae’r penderfyniad am y bandiau yn cael ei wneud, eglurwyd mai’r polisi sy’n penderfynu.

o   Ceir enghreifftiau cynhwysfawr yn y polisi o’r hyn sy’n cael ei ystyried fel anghenion tai a’r hyn sy’n cael ei ystyried fel anghenion tai brys. Mae’n ddibynnol ar amgylchiadau’r unigolyn a sut mae’r rhain yn cael eu cyfleu i’r Tîm Opsiynau Tai.

o   Eglurwyd bod y trothwyon yn glir yn y polisi a bod yr angen am dai cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol a bod anghenion pobl wedi dod yn fwy amlwg a dybryd ers cyfnod Covid-19. Oherwydd hyn, nodwyd bod y tîm wedi gorfod gwrthod rhai ceisiadau ym mand 2.

o   Nodwyd eto bod angen aros a gweld os bydd unrhyw gyfeiriad yn y Papur Gwyn tuag at newid y ffordd o asesu.

 

-        Esboniwyd bod cynrychiolwyr o’r Cyngor, y cymdeithasau tai a therapyddion galwedigaethol o ochr plant ac oedolion yn rhan o’r Grŵp Tai Arbenigol a bod y grŵp yn ceisio darganfod datrysiadau ar gyfer achosion lle nad yw’r stoc dai traddodiadol cymdeithasol yn diwallu anghenion yr ymgeisydd.

 

-        Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi os oedd unrhyw beth yn rhwystro’r Cyngor rhag adeiladu rhagor o dai cymdeithasol, eglurwyd bod y stoc wedi ei throsglwyddo i’r cymdeithasau tai ond bod y Cyngor yn parhau i arwain ar y gwaith ac yn penderfynu ble mae’r arian yn mynd.

 

-        Nodwyd bod cynlluniau i adeiladu 700 o dai ychwanegol cyn diwedd y Cynllun Datblygu a bod y Cyngor eisoes wedi prynu 16 tŷ a bod 5 arall ar y gweill.

 

-        O ran yr ymgynghoriad sy’n dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyn, cadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad. Nodwyd nad yw’r Llywodraeth wedi cyhoeddi manylion yr ymgynghoriad ac felly byddai’n anodd dweud a oes rôl i’r pwyllgor yn yr ymgynghoriad.

-        Nodwyd bod heddiw wedi bod yn gyfle da i’r adran ddiweddaru’r Pwyllgor o’r newidiadau sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD

 

a)     Derbyn a nodi’r adroddiad.

b)     Gofyn i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law ar unrhyw oblygiadau posibl i’r polisi yn dilyn asesu cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

c)     Gofyn i’r swyddogion ystyried a oes lle i’r Pwyllgor gyfrannu at ymateb Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad sy’n dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyn.

 

Dogfennau ategol: