I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
a) Derbyn
a nodi’r adroddiad.
b) Derbyn
adroddiad cynnydd ymhen blwyddyn.
c) Gofyn
i’r Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Tai gysylltu gyda’r cymdeithasau tai i
weld a oes modd iddynt ddod i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu a threfnu ffyrdd o
hwyluso cyfathrebiad rhwng y cynghorwyr a’r cymdeithasau tai.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan egluro mai bwriad y Siop un Stop yw gweithredu fel drws blaen ar
gyfer holl ymholiadau’r gwasanaeth tai a hwyluso’r broses ar gyfer y cwsmer.
Esboniwyd bod adroddiad ar hyn wedi bod gerbron y Pwyllgor yn y gorffennol ond
bod y gwaith wedi datblygu’n sylweddol ers cyflwyno’r adroddiad honno.
I ddechrau,
eglurwyd bod sesiynau ymgysylltu wedi’u cynnal gyda phartneriaid allweddol, gan
gynnwys y cymdeithasau tai a’r mudiadau trydydd sector, dros y 18 mis diwethaf
er mwyn adnabod cyfleodd i gryfhau’r trefniadau presennol ac unrhyw effaith
posibl ar natur y cyswllt y byddai unigolion yn ei gael gyda’r mudiadau.
Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda holl wasanaethau’r adran er mwyn cael gwell
dealltwriaeth o’r cyswllt gyda thrigolion yng nghyd-destun yr ymholiadau y
byddai’r Siop un Stop yn eu cefnogi.
Nodwyd bod
ymgynghoriad cychwynnol gyda’r cyhoedd wedi’i gynnal yn Ionawr 2023 er mwyn
derbyn adborth ar brofiadau cyffredinol trigolion Gwynedd sydd wedi cysylltu
gyda’r gwasanaeth tai. Nodwyd bod 154 o ymatebion wedi’u derbyn a bod y
mwyafrif o’r rhain wedi bod yn gadarnhaol. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith
bod yr ymgynghoriad wedi amlygu dyhead clir gan y cyhoedd i allu llenwi
ffurflen gais ar-lein ar gyfer ceisiadau’r gofrestr tai cymdeithasol gyda dros
70% o ymatebion yn nodi y byddai hyn yn ddatblygiad positif. Nodwyd bod hyn
eisoes wedi’i adnabod fel blaenoriaeth i’r adran ond nad oes cynhwysedd o fewn y
system bresennol i alluogi pobl i wneud ceisiadau ar-lein. Amlygodd yr
ymgynghoriad hefyd bod rhai aelodau o’r cyhoedd yn credu bod angen gwella’r
cyfathrebu rhwng y Cyngor a’r cwsmer ac felly byddai gwell presenoldeb ar-lein
er mwyn derbyn gwybodaeth heb orfod codi’r ffon neu e-bostio yn fuddiol.
Datblygiad
allweddol arall a nodwyd yw penodi arweinydd ar gyfer y Siop un Stop ym mis
Chwefror 2022 sydd wedi galluogi’r adran i ymchwilio sut y gellid gosod
strwythur priodol i weithrediad y siop. Yn sgil hyn, penderfynwyd ymgorffori’r
Uned Tîm Opsiynau Tai i mewn i’r Siop un Stop gan mai dyma’r maes gwaith a oedd
yn derbyn y mwyafrif o ymholiadau gan y cyhoedd. Eglurwyd bod strwythur y tîm
bellach bron yn gyflawn wrth i ddirprwy arweinydd gael ei benodi ym mis Mai
2023.
Nodwyd bod yr
adran wedi ymchwilio mewn i system newydd a fyddai’n eu galluogi i gadw
gwybodaeth gynhwysfawr a chyfredol mewn un lle Eglurwyd y byddai’r system sydd
wedi’i dewis yn moderneiddio’r gwasanaeth a gynigir i’r cyhoedd a bod y gwaith rhaglenedig
sy’n mynd yn ei flaen yn cynnwys trefniadau i sefydlu’r system, cyfnod treialu
a dyddiadau ar gyfer hyfforddiant perthnasol. Esboniwyd hefyd bod yr adran wedi
penderfynu defnyddio’r system fewnol FFOS ar gyfer gwaith derbyn galwadau a
gwaith gweinyddol dydd-i-ddydd y siop gan ei fod yn gysylltiedig gyda gwefan y
Cyngor a chyfrifon y wefan yn barod.
Yn ychwanegol,
nodwyd bod y Cyngor wedi penderfynu sefydlu Un Pwynt Mynediad (SPOA) ar gyfer
rhai o brosiectau a gwasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai.
Eglurwyd y byddai’r drefn newydd yn symleiddio’r broses i unigolion sy’n cael
eu cyfeirio at wasanaethau a darparwyr sydd yn derbyn arian o’r Grant Cymorth
Tai. Nodwyd y byddai’r drefn hefyd yn caniatáu gwell trosolwg o holl anghenion
yr unigolyn ac yn golygu y gellid defnyddio data cyfredol yn hytrach na
gwybodaeth hanesyddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o bwy sy’n derbyn
cymorth gan y Grant Cymorth Tai. Nodwyd bod trefn newydd y SPOA yn cael ei
threialu gydag unedau mewnol ar hyn o bryd a bod 220 o drigolion Gwynedd eisoes
wedi elwa wrth dderbyn gwybodaeth ac arweiniad gyda’u hanghenion cymorth tai
perthnasol.
Diolchwyd am yr
adroddiad gan ddymuno’n dda i’r tîm wrth iddynt ymgymryd â’r gwaith o gael
popeth at ei gilydd ar gyfer sefydlu’r Siop un Stop. Cadarnhawyd mai dechrau’r
flwyddyn newydd yw’r targed ar gyfer gweld y system yn mynd yn fyw.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
-
Mynegodd sawl Cynghorydd rwystredigaeth am y
cymhlethdod a’r amser y mae’n cymryd i Gynghorwyr gael yr hawl i drafod ar ran
etholwyr ar hyn o bryd a bod angen symleiddio’r system i gynghorwyr allu helpu,
gobeithio y bydd y siop yn gallu esmwytho pethau. Mewn ymateb, nodwyd nad oes
datrysiad o’r rheidrwydd i’r amser y mae’n cymryd i gael yr hawl i drafod ar
ran etholwyr gan mai’r gyfraith, nid y swyddogion, sy’n penderfynu pwy sy’n
cael yr hawl i weld y wybodaeth. Ategwyd eu bod bob amser yn barod i edrych am
ffyrdd o geisio esmwytho pethau.
-
Croesawyd y ffaith y bydd sefydlu’r system newydd yn
golygu y bydd modd llenwi ffurflenni cais ar-lein, yn enwedig gan fod
digideiddio ffurflenni yn un o’r argymhellion a gyflwynwyd gan Sefydliad Bevan
yn eu hadroddiad ar dlodi yn Arfon. Cafwyd cadarnhad y byddai ffurflenni papur
yn parhau i fod ar gael i’r unigolion sydd eu hangen hefyd.
-
Holwyd a oes modd i gynghorwyr dderbyn gwybodaeth yn
fwy cyson am y ceisiadau yn eu wardiau gan fod cynghorwyr yn teimlo yn aml bod
pobl leol yn gwybod mwy na nhw am eiddo gwag yn eu wardiau.
o Cynigodd ambell gynghorydd y byddai sefydlu system ble byddai neges
awtomatig yn cael ei hanfon at gynghorwyr i ddweud bod eiddo gwag yn eu ward ac
yna neges arall i ddweud pan mae’r eiddo wedi ei osod yn fodd o roi gwell
syniad i gynghorwyr o’r hyn sy’n digwydd yn eu ward.
o Ychwanegwyd y byddai cael gwybod pam fod yr unigolyn/ion penodol wedi
derbyn yr eiddo hefyd yn ddefnyddiol gan mai cwynion am bwy sydd wedi derbyn
eiddo cymdeithasol y mae cynghorwyr yn eu cael gan amlaf.
o Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Tai ac Eiddo ei bod yn deall
rhwystredigaeth y cynghorwyr ond y byddai rhoi system felly yn ei lle yn llawer
o waith ac yn ofyn mawr ar yr adran. Byddai angen cyngor cyfreithiol am ba mor
addas fyddai rhannu gwybodaeth o’r fath gyda chynghorwyr.
o Eglurwyd bod yr adran yn gwneud popeth y gallent o fewn y polisi ar hyn o
bryd.
o Nodwyd y byddai’n bosib iddynt edrych i weld beth sy’n bosib ei wneud i
hwyluso pethau ond gofynnwyd am amser i sefydlu’r system fewnol ac i gael y
Siop un Stop yn ei lle cyn gallu ystyried hyn.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi a yw’r Cyngor
wedi colli elfen o atebolrwydd gan nad ydynt yn berchen ar eu heiddo
cymdeithasol bellach, nodwyd y byddai’r system newydd yn hwyluso’r trefniadau o
fonitro gweithrediad y polisi.
-
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am drefnu’r fforwm tai
sy’n cael ei chynnal bob ychydig o fisoedd. Nodwyd bod y fforwm yn ffordd dda o
rannu gwybodaeth a rhoi cyfle i aelodau ofyn cwestiynau a lleisio barn mewn ffordd
anffurfiol. Ategwyd y byddai’n ddefnyddiol cael fforwm/sianel i allu siarad
gyda swyddogion y cymdeithasau tai yn ogystal, ac y byddai’n braf gweld
cynrychiolaeth o’r cymdeithasau tai yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor craffu.
PENDERFYNWYD
a) Derbyn a nodi’r adroddiad.
b) Derbyn adroddiad cynnydd ymhen blwyddyn.
c) Gofyn i’r Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Tai gysylltu
gyda’r cymdeithasau tai i weld a oes modd iddynt ddod i gyfarfod o’r pwyllgor
craffu a threfnu ffyrdd o hwyluso cyfathrebiad rhwng y cynghorwyr a’r
cymdeithasau tai.
Dogfennau ategol: