I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
a) Derbyn a nodi’r adroddiad ar sefyllfa llety cefnogol i
unigolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn unig gan nad oes cyfeiriad at
iechyd meddwl a chefnogaeth i ferched yn yr adroddiad.
b) Gofyn i’r swyddogion rannu gwybodaeth gydag aelodau’r pwyllgor am lety
cefnogol sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd meddwl ac ar gyfer
cefnogaeth i ferched.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yr adroddiad er mwyn darparu
cyd-destun a diweddariad ar y sefyllfa yng nghyd-destun llety a chefnogaeth i
unigolion ag anableddau dysgu. Diolchodd i’r Uwch Reolwr Anableddau Dysgu ac
i’r tîm cyfan am eu gwaith gan ddatgan ei bod hi’n anodd cyfleu drwy eiriau pa
mor bwysig yw’r gwaith yma.
Eglurwyd bod
Cynllun Gweithredol Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru yn
amlinellu’r agenda ar gyfer gwasanaethau i unigolion ag anableddau dysgu a bod
yr adran yn cydweithio gyda phartneriaid er mwyn cynllunio a datblygu modelau
llety a chefnogaeth sy’n addas i gwrdd â’r anghenion hyn. Nodwyd bod 70 o bobl
yn disgwyl am lety ar hyn o bryd a bod y rhain yn cael eu rhoi mewn tri
chategori: yr unigolion sydd ag angen blaenoriaeth sef llety o fewn y flwyddyn
nesaf; yr unigolion sydd angen llety o fewn y ddwy flynedd nesaf a’r unigolion
sydd angen cynllunio ar eu cyfer dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod yr adran
yn cydweithio gyda'r Adran Tai a’r cymdeithasau tai a bod y cysylltiad hwn yn
hollbwysig. Eglurwyd bod gwaith newydd ei gwblhau ar dŷ newydd yn Y
Groeslon a fyddai’n gallu darparu cefnogaeth ar gyfer tri unigolyn ac mai’r
gobaith yw gallu cartrefu pobl erbyn mis Tachwedd.
Esboniwyd bod y
Cyngor yn meddu ar ddarlun eithaf llawn o’r sefyllfa yn y sir a’u bod yn cwblhau
asesiadau parhaus o deuluoedd/unigolion sy’n dod trwy'r system a bod paratoi
tuag at y dyfodol yn rhan o becyn pawb. Cadarnhawyd hefyd bod y Tîm Anabledd
Dysgu a Thîm Derwen yn cwrdd yn gyson i drin a thrafod sefyllfaoedd unigolion
sydd mewn oed trosglwyddo, hynny yw oddeutu 6 mis bob ochr i 18 mlwydd oed, er
mwyn paratoi a chydweithio ar gyfer y plant hynny sy’n troi yn oedolion.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y
datblygiadau.
-
Nodwyd nad oedd cynnwys yr adroddiad yn cyfateb i
deitl yr eitem ar yr agenda a bod yr eitem ar yr agenda yn llawer ehangach na’r
hyn a roddwyd yn yr adroddiad.
o Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn sylw digon teg gan gadarnhau bod yr
elfennau eraill yn rhan o’r darlun er nad oes cyfeiriad atynt yn yr adroddiad.
o Eglurwyd bod yr elfen o ran cefnogaeth i ferched yn dueddol o orgyffwrdd
gyda meysydd sydd o dan gyfrifoldeb yr Adran Tai ac efallai bod hyn yn
enghraifft o faes lle gellir cryfhau’r cydweithrediad rhwng yr adrannau.
-
Mynegwyd pryder bod diffiniad anabledd dysgu yn rhy
gul a bod tueddiad i ganolbwyntio ar y diffiniad yn unig, heb ystyried y modd y
mae’r anghenion yn debyg iawn i anghenion iechyd meddwl. Nodwyd y byddai gwell
cydweithrediad rhwng y gwasanaeth anabledd dysgu a’r gwasanaeth iechyd meddwl
yn fuddiol iawn yn hytrach na gosod y materion mewn blociau ar wahân.
-
Nodwyd bod corff sy’n gyfatebol i Arolygaeth Gofal
Cymru yn arolygu gwasanaethau o’r math hwn yn Yr Alban ond nad yw hyn yn
digwydd yng Nghymru gan mai dim ond edrych ar y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd y
mae Arolygaeth Gofal Cymru. Yn sgil hyn, gofynnwyd beth mae Cyngor Gwynedd yn
ei wneud i arolygu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn y lletyau cefnogol er
mwyn sicrhau ansawdd ac nad oes unrhyw broblemau na chamdriniaeth?
o Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Cyngor yn blaenoriaethu diogelwch yr
unigolion yn y lletyau a bod y partneriaid yn darparu gwasanaeth da iawn.
o Derbyniwyd bod problemau yn gallu codi o fewn yr asiantaethau ac o fewn
darpariaeth y Cyngor ei hun a nodwyd y byddai’r Cyngor yn camu mewn os oes
unrhyw broblem yn codi.
o Nodwyd bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y gwaith monitro yn cael ei
wneud yn briodol ond nad yw hyn bob amser yn warant 100%.
o Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw’r Tîm Sicrwydd Ansawdd mor gryf
ac y dylai fod ac nad ydynt yn gallu ymweld â gwasanaethau, yn fewnol ac yn
allanol, yn ddigon aml ond bod y tîm yn ceisio gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd
ar gael. Nodwyd bod newidiadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod y tîm yn gallu
cyrraedd mwy o’r ddarpariaeth.
o Cadarnhawyd nad yw’r Arolygaeth yn mynd i mewn i arolygu’r eiddo hyn yn
benodol fel y maent yn gwneud yng nghyd-destun cartrefi preswyl.
o Eglurwyd felly bod cydweithrediad rhwng Arolygaeth Gofal Cymru a’r Tîm
Sicrwydd Ansawdd yn bwysig yn y cyd-destun hwn.
·
Mynegwyd balchder o weld cyfeiriad at y cynlluniau i
ail-ddatblygu cartref Fron Deg yng Nghaernarfon a holwyd os oes modd cael
diweddariad ar hynny.
o Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y gwaith wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd
a bod yr adran yn cydweithio’n agos gyda’r Adran Tai arno.
o Eglurwyd bod cynnydd wedi’i wneud. O ran y cyllid, esboniwyd bod
trafodaethau yn mynd yn ei blaen ar hyn o bryd. Mae’n bosib y bydd y datblygiad
yn cynnwys unedau i’w rhentu a fydd yn golygu y bydd modd defnyddio’r taliadau
rhent i ad-dalu peth o’r costau adeiladu.
o Nodwyd bod yr adran yn edrych ar y posibiliadau o dynnu arian o gronfeydd
rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer darpariaeth gofal a thai.
-
Croesawyd y bwriad i gael pobl sydd wedi eu lleoli
yn allsirol yn ôl i Wynedd drwy geisio darparu mwy o wasanaethau yn lleol.
-
Holwyd cwestiynau am y 21 unigolyn sydd mewn
lleoliad allsirol.
o Cadarnhawyd bod yr unigolion wedi’u lleoli’n allsirol oherwydd yr
arbenigedd sy’n cael ei gynnig yno.
o Ychwanegwyd hefyd bod rhai unigolion wedi bod yn y lleoliadau hyn ers yn
blant ac felly’n eu gweld fel cartref bellach. Pwysleisiwyd mai’r peth pwysig
yw sicrhau bod trafodaethau cyson yn cael eu cynnal gyda’r unigolion yma i weld
beth yw eu dymuniadau nhw am aros neu ddychwelyd i Wynedd.
-
Cyfeiriwyd at y cynlluniau ar gyfer safle Penrhos,
Pwllheli gan nodi rhwystredigaeth am ba mor hir y mae popeth yn cymryd i
ddisgyn i’w le. Holwyd a oes posib cael unrhyw ddiweddariad?
o Mewn ymateb, nodwyd bod ymrwymiad y partneriaid i gyd ym Mhenrhos yn dal
i fod yn ei le er bod y partneriaid dan bwysau ariannol trwm.
o Eglurwyd bod unrhyw ddatblygiad yn ddibynnol ar beth sy’n digwydd yn yr
wythnosau nesaf o ran caniatâd cynllunio. Ategwyd bod llawer o waith wedi mynd
ymlaen yn y cefndir a bod pethau’n edrych yn addawol.
-
Mewn ymateb i gwestiwn am y cydweithio sy’n digwydd
ar draws y gwasanaethau oedolion, nodwyd bod cydweithrediad yn hollbwysig gan
fod nifer o’r achosion yn berthnasol i fwy nac un adran. Eglurwyd bod y
gweithwyr cymdeithasol, y therapyddion galwedigaethol ac unigolion eraill yn y
timau yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd a bod ganddynt berthynas waith da
gyda’u cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd.
-
Ategodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant
bod y timau yn cydweithio’n effeithiol gyda’i gilydd ac yn sicrhau bod yr
unigolyn yn ganolog.
PENDERFYNWYD
a) Derbyn a nodi’r adroddiad ar sefyllfa llety cefnogol i
unigolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn unig gan nad oes cyfeiriad at
iechyd meddwl a chefnogaeth i ferched yn yr adroddiad.
b) Gofyn i’r swyddogion rannu gwybodaeth gydag aelodau’r
pwyllgor am lety cefnogol sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd meddwl
ac ar gyfer cefnogaeth i ferched.
Dogfennau ategol: