Agenda item

I gyflwyno’r Cytundeb Cyflawni Drafft.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg posib i’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem yma gan yr Is-Gadeirydd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Polisi Cynllunio. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael ei greu yn dilyn adolygiad diweddar. Manylwyd fod y broses o’i ddatblygu’n un technegol gyda nifer o gamau sydd angen eu cyfarch yn statudol.

 

Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf yw mabwysiadu Cytundeb Cyflawni. Esboniwyd bod holl broses o ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei rannu i 7 cam, gydag amserlen fras a chyfnodau ymgynghoriad allweddol wedi ei nodi ar gyfer pob agwedd.

 

Nodwyd bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael eu cymryd i’w ystyriaeth cyn cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni i’r Cabinet ar 10 Hydref 2023. Manylwyd bydd y mater yn cael ei gyflwyno i Weithgor Polisi Cynllunio ym mis Ionawr, cyn dychwelyd i’r Cabinet a’i gyflwyno i’r Cyngor Llawn pan yn amserol.

 

Ystyriwyd y posibilrwydd o ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg o fewn Atodiad 5 y Cynllun (“Risgiau Posib a dulliau ymateb”). Nodwyd ei fod yn amlwg o’r ddogfen fod ymgynghori yn ran pwysig o’r cytundeb cyflawni ac yn cael sylw ond ddim wedi ei nodi fel risg. Sef, y risg o beidio ymgynghori yn ddigonol. Ymhelaethwyd gan ei fod yn elfen mor bwysig, fyddai’n fuddiol ei gynnwys fel risg er mwyn sicrhau ei fod yn cael sylw yn gyson. Derbyniwyd bod yr amserlen i gwblhau’r Cynllun yn heriol ac felly ystyriwyd y posibilrwydd byddai’n anodd i ymgynghori’n effeithiol o fewn yr amser hynny gan sicrhau bod nifer fawr o ymatebion yn cyrraedd y swyddogion, gan sicrhau amser i’w dadansoddi. Holwyd yng nghyswllt yr ymgynghori blaenorol gan ofyn a ddysgwyd rhywbeth o’r ymgynghoriad blaenorol ac a weithredwyd ar yr hyn a ddysgwyd i fwydo i mewn i’r ymgynghori oedd i ddod.

 

Croesawyd bod y rhestr o gyrff y bwriedir ymgynghori â hwy yn cynnwys grwpiau wedi eu tangynrychioli a bod yr ymgynghoriad yn agored i bawb ymateb. Cyfeiriwyd at y dulliau ymgynghori gan nodi pryder eu bod yn ddulliau arferol a ddefnyddir wrth ymgynghori. Holwyd sut y sicrheir ymateb gan y grwpiau wedi eu tangynrychioli a sylweddoli’n gynnar ni dderbyniwyd ymatebion ganddynt a gwneud rhywbeth amdano. Nodwyd bod rôl i gynghorwyr gefnogi’r gwaith.

 

Mewn ymateb i’r ystyriaethau hyn, nododd Aelod Cabinet Amgylchedd ei fod yn bwysig iawn bod y Cyngor yn cymryd perchnogaeth o’r cynllun hwn, drwy sicrhau bod Aelodau’n annog unrhyw un addas i gwblhau unrhyw ymgynghoriad ac yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth ar y Cynllun pan yn amserol. Esboniwyd bod yr Adran wedi diwygio’r dulliau maent yn ei ddefnyddio wrth ymgynghori yn dilyn adborth o’r gorffennol a gobeithiai bydd hyn yn arwain at niferoedd uwch  o ymatebion y tro hwn.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar bedwar achlysur gwahanol. Esboniwyd mai’r gofyniad statudol i gyflwyno’r Cynllun yw dwywaith, ac felly mae Cyngor Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y broses yn gynhwysol ac yn rhoi nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth arno.

 

Datganwyd gan y Rheolwr Polisi Cynllunio bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi cael ei wneud gan swyddogion ar ddechrau’r broses o greu Cynllun newydd. Manylwyd bod yr asesiad hwn yn sicrhau bod lleisiau grwpiau a chymdeithasau o fewn ein cymunedau yn cael eu clywed. Soniwyd bod hyn wedi bod yn fuddiol wrth ddatblygu Atodiad 6 (“Rhestr o Ymgynghoron”) o fewn y Cynllun. Esboniwyd bod nifer helaeth o ymgynghorai  wedi eu rhestru yma, boed yn gyrff sy’n cynrychioli buddiannau pobl anabl, pobl gyda busnesau a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau diwylliant Cymreig. Cydnabuwyd nad yw holl gyrff posibl wedi cael eu nodi o fewn yr Atodiad ond sicrhawyd nad yw’r rhestr hwn yn un holl gynhwysfawr. Cadarnhawyd bod ymgynghoriadau gyda chyrff ychwanegol yn mynd i gael eu cyflawni os bydd yr angen yn codi.

 

Sicrhawyd y bydd Aelodau yn cael diweddariadau cyson o ddatblygiadau’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ychwanegu ‘ymgynghori’ fel risg posib i’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dogfennau ategol: