I ddiweddaru
Aaelodau’r Pwyllgor Craffu ar y cynnydd a’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno
pwyntiau gwefru cyhoeddus.
Penderfyniad:
(i)
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth;
(ii) Gofyn i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu
mwy o beiriannau gwefru chwim;
(iii) Derbyn adroddiad cynnydd pan yn amserol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd a Rheolwr Gwasanaeth Traffig
a Phrosiectau. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod y Cyngor ynghlwm â phrosiect
heriol a thechnegol i osod dros 100 o bwyntiau gwefru mewn 25 safle ar draws
Gwynedd, gydag 16 o’r heini yn cynnwys pwyntiau gwefru chwim. Eglurwyd bod yr
Adran yn cynnig cyfleon newydd i’w staff gan eu bod yn derbyn hyfforddiant i
osod y pwyntiau gwefru eu hunain, yn hytrach na chontractio’r gwaith i gwmni
allanol.
Adroddwyd bod y prosiect hwn wedi ei rannu i
bum rhan, ac mai gosod y pwyntiau gwefru yw’r cam cyntaf. Nodwyd mai dyma’r unig
gam bydd y Cyngor yn gallu ei gyflawni yn annibynnol a bydd rhaid dibynnu ar
gyrff eraill i gydweithio ar y camau eraill er mwyn cyflawni’r prosiect.
Eglurwyd bod hyn wedi achosi cryn oedi yn y prosiect hyd yma, gan fod nifer o
bwyntiau gwefru wedi cael eu gosod ond ddim wedi cael eu cysylltu i’r
rhwydwaith eto. Sicrhawyd bod yr Adran wedi dysgu o’r heriau hyn ac yn hyderu
na fyddai’r un trafferthion yn codi wrth weithredu’r prosiect i’r dyfodol.
Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn ymatebion
cadarnhaol i lythyr yn ddiweddar ynghylch cael pwyntiau gwefru cymunedol.
Cydnabuwyd nad oes modd i bawb gwefru eu ceir adref gan nad oes gan bob tŷ
man parcio agos neu bod y lleoliad y man parcio yn anodd i’w gysylltu.
Adroddwyd bod cynlluniau i gael pwyntiau gwefru cymunedol yn y dyfodol.
Mynegwyd siom bod y Llywodraeth wedi newid
eu targed o atal ceir petrol a disel erbyn 2030, yn ôl hyd at 2035.
Cadarnhawyd bod ymgynghori yn rhan bwysig
o’r broses gan fod casglu adborth o ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn hanfodol. Eglurwyd
bod yr adborth sydd eisoes wedi ei dderbyn gan ddefnyddwyr y pwyntiau gwefru yn
gadarnhaol. Esboniwyd bod adborth yn cael ei gasglu wrth i ddefnyddwyr orffen
defnyddio’r pwynt gwefru a bod eu hymatebion yn cael eu gyrru i system fewnol o
dan reolaeth y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt
ymgynghoriadau’r Cyngor gyda cymdeithasau tai ynglŷn â pwyntiau gwefru,
cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y prif bwyslais yn cael ei roi
i’r 25 man presennol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gan y Cyngor
berthynas clos gydag cymdeithasau tai ac mae pwyntiau gwefru wedi eu cynnwys
fel rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad ar ddulliau o dalu am
wasanaeth y pwyntiau gwefru, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Traffig a
Phrosiectau y bydd tair ffordd i wneud hyn. Manylwyd bod modd defnyddio cerdyn
penodol ar gyfer y pwyntiau gwefru, drwy ap ar ffôn symudol ac yn y dyfodol
gobeithir bydd darpariaeth i dalu drwy gerdyn banc arferol.
Rhannwyd pryderon nad oes digon o fetel i
gynhyrchu batris ar gyfer mwy o geir trydan ar hyn o bryd yn ogystal â
phryderon bydd cael ceir trydan yn fwrn mawr i’r rhwydwaith trydanol ymdopi ag
o. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, cydnabuwyd bod yr her o annog pobl Gwynedd i
ddefnyddio ceir trydan yn sylweddol. Er hyn, pwysleisiodd Pennaeth Cynorthwyol
Amgylchedd bod y prosiect hwn yn bwysig fel rhan o dargedau cynllun newid
hinsawdd a natur.
Holwyd os oes modd darparu mwy o bwyntiau
gwefru chwim yn y dyfodol, gan eu bod yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd.
Cydnabuwyd bod defnyddio mwy o bwyntiau chwim yn heriol i’r rhwydwaith
trydanol, ond bydd y Adran yn ôl i’r Pwyllgor gyda diweddariad ar y mater hwn
pan yn amserol.
Sicrhawyd bod gwaith yn cael ei wneud er
mwyn datblygu cynllun busnes ar gyfer y pwyntiau gwefru. Nodwyd bod hyn yn
galluogi’r Cyngor i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’r arian a gasglwyd
wrth i bwyntiau gwefru cael eu defnyddio, a’r posibilrwydd o ddefnyddio paneli
solar i’w pweru. Cadarnhawyd bod nifer o syniadau wedi cael eu cyflwyno a bod
gwaith ymchwil yn cael ei gwblhau i sicrhau bod yr opsiynau gorau yn cael eu
dewis. Ychwanegwyd bydd yr Adran yn darparu adroddiad ar gynnydd y prosiect pan
yn amserol.
Cydnabuwyd bod y newid hwn i gerbydau trydan
yn newid mawr i orsafoedd petrol. Croesawyd unrhyw gyfle i’w cefnogi gyda’r
newid hwn.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth
2.
Gofyn
i’r Aelod Cabinet/Adran Amgylchedd edrych i mewn i ddarparu mwy o beiriannau
gwefru chwim
3.
Derbyn
adroddiad cynnydd pan yn amserol
Dogfennau ategol: