Agenda item

I ystyried a chymeradwyo yn derfynol y cynnig i godi’r ffioedd yn weithredol o’r 1af o Hydref 2023,  i’r lefel a argymhellir ; yn unol â’r drefn a amlinellwyd yn dilyn yr  ymgynghoriad cyhoeddus.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo yn derfynol y cynnig i godi’r ffioedd yn weithredol o’r 1af o Hydref, i’r lefel a argymhellwyd; yn unol a’r drefn a amlinellwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd arfaethedig trwyddedau tacsi 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor, ar y 12fed o Fehefin 2023, wedi penderfynu cymeradwyo cynyddu ffioedd trwyddedau tacsis yn ddarostyngedig i gynnal ymgynghoriad llawn yn unol â gofynion statudol.

 

Adroddwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor adolygu ei ffioedd mewn perthynas â thrwyddedu tacsis (h.y. trwyddedau cerbydau hacni, cerbydau hurio preifat, gweithredwyr hurio preifat a gyrwyr) yn rheolaidd, ac yn 2013, penderfynodd y Pwyllgor hwn y byddai ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol.   

 

Eglurwyd bod Adran 53 a 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn nodi y caiff y ffioedd eu codi ar lefel ddigonol i dalu costau rhesymol.

·         I ganiatáu trwydded gyrrwr ar gyfer cerbyd hacni neu hurio preifat – costau ynghlwm â phrosesu, gweinyddu a rhoddi trwyddedau.

·         I ganiatáu trwydded cerbyd a gweithredwr - costau archwilio, arosfa cerbyd hacni, rhybuddion cyhoeddus, rheoli a goruchwylio cerbydau ac unrhyw gostau eraill ynghlwm â phrosesu cais.

 

Nodwyd bod y diwydiant wedi derbyn llythyr yn amlinellu’r newidiadau mewn ffioedd a bod rhybudd cyhoeddus wedi ymddangos yn y wasg leol ar yr 20fed o Orffennaf 2023. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar y 18fed o Awst ac adroddwyd bod un gwrthwynebiad wedi dod i law yn mynegi pryder y byddai’r cynnydd mewn ffioedd yn:

 

·         mynd i wneud pethau yn anodd i gwmnïau ddenu gyrrwyr newydd i ymgeisio am drwyddedau gyrru tacsi oherwydd y costau sydd ynghlwm a’r broses drwyddedu

·         bod prinder tacsis eisoes ym Mhwllheli a Phen Llŷn

·         bod y diwydiant yn parhau i geisio adfer eu busnesau yn dilyn gostyngiad sylweddol a fu mewn incwm dros y covid

·         bod costau'r Uned Drwyddedu yn debygol o fod wedi gostwng gan fod cwmnïau bellach yn defnyddio’r drefn hunanwasanaeth ar lein i gyflwyno ceisiadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawliau gweithredu ar draws y Sir, nodwyd bod gan bob gyrrwr tacsi hawl i weithredu dros Wynedd, ond bod problemau / anghydfod / cwynion yn codi pan fydd tacsi yn gweithredu ar reng tacsi ‘lleol’ arall. Tu allan i Wynedd, nodwyd bod gan hawl i unrhyw gwmni weithredu ar draws Siroedd, ond bod llogiad (booking) yn hanfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd arfaethedig sylweddol mewn trwydded 3 mlynedd, derbyniwyd mai dyma’r cynnydd mwyaf sydd yn cael ei argymell oherwydd y gwaith o sicrhau os yw gyrrwr yn addas a phriodol (fydd hefyd i’r dyfodol, yn unol â gofynion statudol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys gwirio taliadau treth).

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill ar draws Gogledd Cymru, adroddwyd bod Gwynedd yn rhatach na Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy ond yn ddrutach na Chyngor Ynys Môn: ar gyfartaledd roedd Gwynedd yn ymddangos yn y canol.

 

Mewn ymateb i sylw bod ymgynghoriad statudol wedi ei weithredu ac er wedi hysbysebu yn y Daily Post mai ond un gwrthwynebiad a dderbyniwyd, adroddwyd bod yr Uned Trwyddedu wedi cyfathrebu gyda’r diwydiant tacsi cyn yr ymgynghoriad a nifer o’r cwmniau erbyn hyn yn derbyn bod costau yn cynyddu. Ategwyd bod y diwydiant eu hunain yn codi eu costau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod penderfyniad wedi ei wneud yn ystod covid 19 i wrthod cynyddu’r ffioedd fel modd o warchod y diwydiant; amserol fyddai cynyddu’r ffioedd erbyn hyn.

·         Amlygu gwerthfawrogiad i’r diwydiant am eu gwasanaeth yn ystod covid 19

·         Bod pryder o golli gyrwyr a chwmnïau tacsi ym Mhenllyn oherwydd cynnydd sylweddol yn y costau

·         Bod rhai cwmnïau yn gwrthod teithiau byr - nid yw cyfradd sefydlog 2 filltir yn boblogaidd ymysg y diwydiant (er ei fod wedi ei anelu ar gyfer pobl fregus / anghenus)

·         Rhaid sicrhau bod y cynnydd yn talu costau’r gwasanaeth

 

Cynigiwyd ac eiliwyd codi’r ffioedd

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo yn derfynol y cynnig i godi’r ffioedd yn weithredol o’r 1af o Hydref, i’r lefel a argymhellwyd; yn unol â’r drefn a amlinellwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

 

 

 

Dogfennau ategol: