Agenda item

Clwb Golff Abersoch, Lon Golff, Abersoch, LL53 7EY

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais yn ddarostyngedig i gyfaddawd a wnaed gyda’r ymgeisydd:

 

Bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle dan reolaeth pwyllgor y clwb

 

Ar ôl 0200, bydd yr eiddo ar agor i aelodau'r clwb golff yn unig

 

Bydd holl ddrysau a ffenestri'r eiddo yn cael eu cadw ar gau yn ystod adloniant rheoledig, ac eithrio yn ystod mynediad ac allanfa uniongyrchol.

 

Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth fyw/chwyddedig gael ei chwarae tu allan yr eiddo ar ôl 23:00

 

Ni fydd sŵn neu ddirgryniad y dod o'r eiddo a fyddai'n achosi niwsans.

 

Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead

 

Cofnod:

Clwb Golff Abersoch, Lon Golff, Abersoch, LL53 7EY

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Mr Michael Murphy (Ymgeisydd)

Amlyn Williams – Aelod Clwb Golff Abersoch

Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu)

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Clwb Golff Abersoch, Lon Golff, Abersoch sydd yn glwb ar gyfer aelodau yn bennaf - yn cynnwys bar, ystafell fwyta ac ardal patio. Adroddwyd bod y cais yn un i newid o dystysgrif Clwb i drwydded eiddo, gyda’r mwyafrif o’r gweithgareddau trwyddedig yn aros yr un peth.

 

Eglurwyd bod yr ymgeisydd yn gofyn am yr hawl i gynnal y gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan i’r eiddo. Amlygwyd bod hawl gwerthu alcohol 24ain awr y dydd, bob dydd ar y dystysgrif clwb presennol, ac ar y cais trwydded eiddo. Er nad oedd cynnydd cyffredinol yn yr oriau gweithgareddau trwyddedig, roedd yr ymgeisydd yn ceisio'r hawl i gynnal gweithgareddau trwyddedig yn hwyrach na’r drwydded gyfredol, ond i beidio agor tan amser cinio.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd sylwadau i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail pryderon am yr oriau a ofynnwyd amdanynt, o’r bwriad o agor y clwb i'r cyhoedd a chynnal gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan i’r eiddo. Ystyriwyd y gallai’r oriau a geisiwyd danseilio’r amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus.

 

Adroddwyd, ar 28ain Gorffennaf 2023, cynhaliwyd cyfarfod rhwng yr ymgeisydd a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a daethpwyd i gytundeb ar gyfaddawd fel a ganlyn. 

·        Bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle dan reolaeth pwyllgor y clwb

·        Ar ôl 02:00, bydd yr eiddo ar agor i aelodau'r clwb golff yn unig

·        Bydd holl ddrysau a ffenestri'r eiddo yn cael eu cadw ar gau yn ystod adloniant rheoledig, ac eithrio yn ystod mynediad ac allanfa uniongyrchol.

·        Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth fyw/chwyddedig gael ei chwarae tu allan yr eiddo ar ôl 23:00

·        Ni fydd sŵn neu ddirgryniad y dod o'r eiddo a fyddai'n achosi niwsans.

·        Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00. Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead

 

O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn unol â’r cyfaddawd a gytunwyd gyda’r ymgeisydd.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·        Eithriad fyddai cynnal digwyddiadau tu allan - nid oes digon o le i wneud hyn

·        Bydd rheolaeth ar yr oriau terfynol, os yn eu defnyddio

·        Bydd pob ymgais yn cael ei wneud i atal sŵn rhag ymledu

·        Bod y clwb yn cael ei reoli fel clwb ac yn dilyn rheolau’r clwb

·        Gweld cyfle i agor y drws i ymwelwyr i geisio annog mwy o fynychwyr

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng (TCC), nododd yr ymgeisydd bod darpariaeth 24 awr o TCC o amgylch yr eiddo. Ategodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd amodau TCC yn fandadol ar gyfer pob eiddo ac nad oedd tystiolaeth yn cyfiawnhau gosod amod TCC ar y drwydded yma.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

 

Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd)

·        Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd oedd wedi datgan nad oedd bwriad cyflawni alcohol 24awr – dim ond ar gyfer digwyddiadau arbennig yn unig e.e., gemau rhyngwladol

·        Bod yr ymgeisydd yn derbyn yr amod na fydd cerddoriaeth fyw yn cael ei chwarae tu allan ar ôl 23:00

·        Bod cau ffenestri i atal ymlediad sŵn yn amod cyffredinol

·        Yn hapus gyda bodlonrwydd yr ymgeisydd i gyfaddawdu

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

·        Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r clwb oherwydd pryder o’r bwriad i agor i’r cyhoedd. Yn dilyn trafodaeth a chadarnhad gan y clwb na fydd ar agor i’r cyhoedd ar ôl 02:00, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

d)                         Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd yr ymgeisydd

·        Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r holl asiantaethau a bod pawb bellach yn gytûn

·        Bod trefniadau yn ei lle i sicrhau rheolaeth dda o’r sefyllfa ac i liniaru pryderon

·        Nad oedd yn rhagweld problemau

 

dd)                Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais yn ddarostyngedig i gyfaddawd a wnaed gyda’r ymgeisydd:

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu dystiolaeth o drosedd ac anhrefn fel sail i gyfiawnhau gwrthwynebu’r cais.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd tystiolaeth yn berthnasol i’r egwyddor  hwn, er hynny roedd yr Is-bwyllgor yn croesawu y byddai’r digwyddiadau yn cael eu gorchwylio a bod goruchwylwyr drysau yn cael eu penodi i reoli’r safle mewn ffordd briodol.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, cyflwynwyd sylwadau ar y cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd oedd yn pryderu am yr oriau a ofynnwyd amdanynt, y bwriad o agor y clwb i’r cyhoedd a chynnal gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan i’r eiddo. Roedd yr Is-bwyllgor yn croesawu’r trafodaethau a gynhaliwyd gyda’r ymgeisydd ac o’r cyfaddawd a gytunwyd. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tân ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan drigolion lleol.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: