Agenda item

Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau presennol trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu cae chwarae

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i'r argymhelliad

 

Amodau:

 

  • 5 mlynedd
  • Yn unol â’r cynlluniau
  • Defnydd gwyliau yn unig
  • Cadarnhau nifer unedau ar y safle yn ei gyfanrwydd
  • Cyflwyno manylion ynglŷn â’r man chwarae neu waith cysylltiol iddo
  • Bod y bwnd yn cael ei adeiladu cyn y gwaith ail-leoli
  • Materion archeolegol

 

Cofnod:

Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau presennol trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu cae chwarae

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02-10-23

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer uwchraddio ac ymestyn safle carafanau presennol. Eglurwyd bod y cais yn cynnwys bwriad i ail-leoli pum caban gwyliau o fewn safle a nodir fel cae 470 (Cwrs Golff) ynghyd a chadw ffordd fynediad a ganiatawyd yn wreiddiol am gyfnod dros dro ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, ynghyd a chreu cae chwarae. Bu cwrs golff ar y lleoliad yn y gorffennol, ond yn amlwg bod y defnydd yma bellach wedi dirwyn i ben. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 uned sefydlog neu gaban i leoliad ar ran o ble fyddai’r cwrs golff (Cae 470) tra roedd 5 arall i’w hail-leoli i ran arall o’r safle sef cae 471.

 

Er eglurder byddai’r bwriad yn golygu lleoli’r cyfan o’r cabanau gyda’i gilydd ar gae 470 yn lle’r caniatâd a roddwyd i leoli pump ar gae 470 a phump arall ar gae 471. Tybiwyd y byddai’r cabanau gwyliau arfaethedig yn mesur yr un peth a’r hyn a ganiatawyd eisoes.Yn ogystal bwriedir codi clawdd pridd newydd ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 470.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ddiarffordd a chymharol fynyddig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE) a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r adeilad preswyl, sef Gwynus, a leolir ar ran o’r safle yn adeilad rhestredig gradd II. Ceir mynedfa tuag at y safle oddi ar y ffordd gyhoeddus agosaf ar hyd ffordd ddi-ddosbarth sydd yn gwyro i’r gogledd cyn cyrraedd y safle ei hun ac yna ar hyd ffordd fynediad preifat; y  ffordd ddi-ddosbarth hefyd wedi ei ddynodi fel llwybr cyhoeddus. Nodwyd bod y safle yn gweithredu ac wedi hen sefydlu fel parc carafanau.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod perthynas agos i’r ymgeisydd yn aelod etholedig o’r Cyngor.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad adroddwyd mai’r prif bolisi perthnasol oedd TWR 3 a pherthynas y safle a'i leoliad  o fewn yr AHNE.  Nodwyd bod rhan 3 o’r polisi yn derbyn y gellid caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd safleoedd sefydlog a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda chyfres o feini prawf sy’n cynnwys fod bwriad yn cynnig gwelliannau sylweddol a pharhaol i ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd o’i amgylch.

 

Ystyriwyd na fyddai’r ardal newydd yma yn estyniad bychan i arwynebedd y safle carafanau presennol ac ni welwyd rheswm digonol pam fod angen ail-leoli’r 5 uned sefydlog ychwanegol i gae 470 pan mae cynllun blaenorol wedi ei ganiatáu yn dangos y byddai’n bosibl eu lleoli ar gae 471 sydd o fewn y safle presennol ac sydd eisoes wedi ei ddatblygu.  Er derbyn dyhead yr ymgeisydd i wella’r safle, ni ellid cyfiawnhau graddfa a lleoliad y bwriad heb ystyried ei effaith yn llwyr. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad arfaethedig yn gwella gosodiad y safle cyfan yn y dirwedd ac nad oes angen i’r holl unedau sefydlog gael eu hail-leoli i du allan y safle carafanau presennol. O ganlyniad, byddai’r bwriad yn creu estyniad eithaf sylweddol i’r safle carafanau presennol a fyddai’n golygu creu safle estynedig gan adael rhan o safle sefydlog presennol yn wag i bob pwrpas (er yn cael ei gynnig fel cae chwarae). Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cynnig gwell na’r hyn a wrthodwyd yn flaenorol trwy gais C18/0614/43/LL a gan mai’r un polisïau sydd yn dal i weithredu, rhaid bod yn gyson gyda phenderfyniadau. Gan nad oedd dim mewn gwirionedd wedi ei gynnig i wella dyluniad, gosodiad nag edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd ystyriwyd y bwriad yn groes i ran 3i a vi o Bolisi TWR 3 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, cyfeiriwyd at elfen o’r cais oedd yn ceisio caniatâd i gadw’r ffordd a ganiatawyd dros dro yn flaenorol o dan gyfeirnod C15/0495/43/LL. Geiriad yr amod ynghlwm a’r caniatâd yma oedd “Rhaid i’r trac dros dro sydd i’w greu i gael mynediad i gae 470 gael ei ddileu a’r tir i’w adfer i’w gyflwr presennol cyn cychwyn ar bedwerydd cam y datblygiad”. Ystyriwyd fod yr amod yma yn berthnasol ar gyfer gweithredu’r caniatâd blaenorol yn unig ac nad oedd cyfiawnhad ar gyfer ei gadw gan fod yr egwyddor o symud 5 uned ychwanegol yn annerbyniol. Er hynny, ni ystyriwyd fod y cais ei hun yn annerbyniol o safbwynt gofynion cyffredinol diogelwch ffyrdd a pholisi TRA 4 CDLl a gan y byddai lle parcio i’w cael ger yr unedau ar gyfer cerbydau’r defnyddwyr, pe byddai caniatâd wedi ei roi,  byddai hynny hefyd yn cydymffurfio gyda gofynion cyffredinol polisi TRA 2.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell gwrthod y cais

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·      Nad oedd y cais yn un am ragor o unedau

·      Y bwriad oedd ail leoli cabanau moethus

·      Byddai’r bwriad yn gwella trefn y safle sydd ar hyn o bryd yn flêr ac anhwylus

·      Bod y safle yn cynnig ardal ar gyfer carafanau sefydlog a theithiol

·      Bod y safle wedi ei sefydlu ers 1947

·      Bod uned wedi ei gwerthu i berson oedd yn enedigol o’r ardal - y caban yn caniatáu iddi ddychwelyd i’r ardal - yn gefnogol i’r cais

·      Bod prynu caban yn arbed lleol droi yn haf

·      Nad yw’r bwriad yn fwy gweledol na sied amaethyddol fawr gerllaw

·      Bod bwriad plannu 700  o goed cynhenid

·      Nad oedd yr estyniad yn un sylweddol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod y Cyngor Cymuned, er heb gyflwyno sylwadau yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad oherwydd gwyliau’r haf, wedi trafod y cais mewn cyfarfod ym mis Medi a nodi nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais (cofnod bellach ar eu gwefan)

·         Bod cymuned Pistyll yn gefnogol i’r cais oherwydd ei fod yn creu cyflogaeth i bobl leol

·         Nad yw’r safle yn weladwy o ardal Llithfaen

·         Nad yw’n amharu ar yr ardal leol

·         Er yn nodi bod y safle yn sylweddol o ran maint, bod safleoedd mwy yn yr ardal

·         Y bwriad yw cael trefn ar y safle - dim ehangu ond adleoli

·         Bod egwyddorion strategaeth Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn nodi’r angen i warchod cymunedau, iaith a diwylliant

·         Er nad yn ymwybodol o bolisïau TWR a TAN, bod y safleoedd gorau yn llwyddiannus oherwydd trefniant da - cyfle yma i aildrefnu ac uwchraddio

·         Croesawu llecyn cymunedol yng nghanol y safle

·         Awgrymu'r angen i weld dyluniad o’r hyn sydd i’w gynnig fel cae chwarae

·         Bod y safle wedi ei dirlunio yn dda

·         Bod y cais yn gynnig i wella parc cwmni lleol sydd o faint canoligyn dderbyniol i gefn gwlad Llŷn

·         Y gwella yn ymateb i anghenion ymwelwyr

·         Nad oedd yn gwrthwynebu’r cais

 

d)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad

Rhesymau:

·         Bod y bwriad (plannu, ail-leoli, cynnig cabanau o ansawdd a darparu man chwarae) yn welliannau o sylwedd

Mewn ymateb i’r cynnig nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd bod y polisi yn cefnogi ail leoli o le amlwg i le llai amlwg. Yma ceir cais i symud carafanau o le sydd ar hyn o bryd yn guddiedig i le amlwg yn y dirwedd sydd yn groes i bolisi. Nodwyd hefyd bod ardal chwarae hamdden anffurfiol eisoes yn bodoli ar y safle - pam felly bod angen safle chwarae ychwanegol? Ategwyd, pe byddai’r pwyllgor yn penderfynu caniatáu’r cais, bydd rhaid gosod amodau pwrpasol.

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         Bod angen gwella’r safle sydd yn ymddangos, erbyn hyn wedi dyddio

·         Nad yw’r parc yn amlwg o’r ffordd.

·         Byddai’r gwelliant yn sicrhau swyddi, yn cadw’r gymuned yn fyw

·         Na fyddai’r bwriad yn amharu ar yr edrychiad lleol

·         Y dylid cadw’r ffordd i gael mynediad at y safle

·         Bod yr ymgeisydd yn creu dyfodol i’r parc a’i deulu

·         Bod y cabanau yn foethus a safonol

·         Bod ymwelwyr bellach yn disgwyl safon

·         Y Cyngor Cymuned a’r gymuned leol yn gefnogol i’r cais

·         Bod coed aeddfed a gwrychoedd trwchus o gwmpas y ffin

·         Byddai tirweddu ychwanegol yn meddalu’r effaith

·         Yn diolch am y cyfle i ymweld â’r safle

 

·         Bod cais tebyg wedi ei wrthod gan y Pwyllgor

·         Bod yr AHNE yn gwrthwynebu’r cais oherwydd ardrawiad ar yr amgylchedd - rhaid sicrhau bod y pwyllgor yn rhoi ystyriaeth gyson i sylwadau swyddogion yr AHNE

·         Dim newid yma i’r caniatâd gwreiddiol

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn groes i'r argymhelliad

 

Amodau:

 

1.    5 mlynedd

2.    Yn unol â’r cynlluniau

3.    Defnydd gwyliau yn unig

4.    Cadarnhau nifer unedau ar y safle yn ei gyfanrwydd

5.    Cyflwyno manylion ynglŷn â’r man chwarae neu waith cysylltiol iddo

6.    Bod y bwnd yn cael ei adeiladu cyn y gwaith ail-leoli

7.    Materion archeolegol

 

Dogfennau ategol: