Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a
chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol
Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
Amodau
1. Amser
2. Yn
unol â’r cynlluniau
3. Cytuno deunyddiau gan
gynnwys llechi to
4. Cyfyngu hawliau
datblygiadau a ganiateir a ffenestri
5. Rheoli’r math o
ffenestr/gwydr a osodir
6. Tirlunio
7. Gwelliannau
Bioamrywiaeth
8. Cynllun rheoli adeiladu
9. Cyfyngu
defnydd yr adeilad preswyl yn unig ac nid ar gyfer ail dŷ neu lety gwyliau
Cofnod:
Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol
a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02-10-23
a)
Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn
cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Medi
11eg 2023 lle penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle
fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad
a’i effaith ar fwynderau trigolion cyfagos.
Adroddwyd mai cais llawn ydoedd i
ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar
wahân gyda gwaith cysylltiol. Saif y
safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig
Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac
Enlli. Nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol
mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda
swyddogion. Derbyniwyd cynllun
diwygiedig pellach ar y 14.09.2023 sydd yn symud y tŷ newydd oddeutu 2m
ymhellach i’r de-ddwyrain yn unol â chais yr aelod lleol.
Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor
Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y
tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.
Eglurwyd bod y
safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir
llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Roedd y bwriad
felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI). Yn bresennol mae’r safle yn cynnwys siediau
diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o
fewn y llain.
Cydnabuwyd y
byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol, ond
mewn ymateb i bryderon a amlygwyd diwygiwyd yr adeilad o’r hyn a gyflwynwyd yn
wreiddiol gyda’r tŷ newydd wedi ei
leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu. Er bod hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin
ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle,
ni ystyriwyd fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Adroddwyd bod
uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to
arfaethedig yn 5.8m sydd fymryn yn is nag uchder crib yr eiddo cyfochrog i’r
gorllewin. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n sefyll allan fel nodwedd cwbl
anghydnaws yn y rhan yma o’r pentref nac yn gwbl groes i’r patrwm datblygu
cyffredinol a welir yno. Ni ystyriwyd y byddai’r tŷ newydd arfaethedig yn
effeithio i raddau cwbl annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad y safle na’r
ardal o gwmpas o ran ei ymddangosiad, graddfa, uchder na mas. Gyda phresenoldeb
coed a pherthi aeddfed o fewn y safle sy’n rhoi gorchudd priodol i’r safle, ni
ystyriwyd y byddai’r adeilad yn dominyddu edrychiadau tuag at y safle o fannau
amlwg cyhoeddus na dynodiadau tirweddu.
Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod y safle i gyfeiriad y
de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin wedi ei amgylchynu gan dai annedd
gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin ddeheuol/de-ddwyreiniol y safle
gydag elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau
presennol. Eglurwyd bod tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos
yn lleihau rhywfaint o’r effaith. Amlygwyd pryderon gan gymdogion yn ystod y
cyfnod ymgynghori cyhoeddus am effaith y bwriad arnynt ac y byddai’n sylweddol
niweidiol o gymharu â’r sefyllfa bresennol. Ystyriwyd fod ymgais gwirioneddol
wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol a bod
diwygiadau yn ymateb i’r pryderon a amlygwyd gan swyddogion cynllunio.
Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau
lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun.
Yn ddibynnol ar raddfa datblygiadau,
disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol â throthwy a adnabyddir ar
gyfer aneddleoedd y Sir. Yn achos pentref
Edern, sydd wedi ei adnabod
fel pentref gwledig/arfordirol/lleol, y trothwy yw 2 neu fwy o unedau. Gan fod y bwriad hwn
yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn
unig nid yw’n cwrdd â’r
trothwy yma ar gyfer ystyried
darpariaeth fforddiadwy. Yn ychwanegol gan
fod y bwriad yn ymwneud a chodi tŷ preswyl newydd, mae bwriad gosod amod
cynllunio safonol i gyfyngu defnydd yr eiddo ar gyfer tŷ preswyl yn unig
ac nid ar gyfer defnydd fel ail gartref neu lety gwyliau heb ganiatâd cynllunio
pellach.
O ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol yn ogystal â'r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd,
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Diolchwyd i’r Aelodau hynny a
fynychwyd yr ymweliad safle
·
Ei fod o blaid angen yr ymgeisydd i gael tŷ
newydd yn Edern, yn ei
bentref genedigol, o fewn y ffin datblygu
·
Croesawu cynlluniau diwygiedig
fydd yn golygu
bod y tŷ
newydd oddeutu 2m ymhellach i’r de-ddwyrain o’r ffin - hyn yn lleihau effaith
ar gymdogion
·
Pwysig
ystyried colli preifatrwydd a cholled golau dydd yng nghyd-destun lles
cymdogion
·
Cadw at yr amod o symud
y tŷ ymhellach o’r ffin
·
Cadw
at yr amod o osod ffenestri tryloyw
·
Cadw
at amod i blannu coed a gwrych fel ffin amlwg rhwng Arhosfa a thai cyfagos
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Bod budd a phwysigrwydd
dros gynnal a mynychu ymweliadau safle
·
Bod y safle o
fewn y ffin datblygu
·
Bod y safle yn un
delfrydol
·
Bod yr ymgeisydd
wedi cyfarch y sylwadau drwy ostwng lefel y to a symud y tŷ ymhellach o’r
ffin
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
Amodau
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Cytuno deunyddiau gan gynnwys llechi to
4. Cyfyngu hawliau datblygiadau a ganiateir
a ffenestri
5. Rheoli’r math o ffenestr/gwydr a osodir
6. Tirlunio
7. Gwelliannau Bioamrywiaeth
8. Cynllun rheoli adeiladu
9. Cyfyngu
defnydd yr adeilad preswyl yn unig ac nid ar gyfer ail dŷ neu lety gwyliau
Dogfennau ategol: