I ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg yn amlinellu
perfformiad y Gwasanaeth Addysg yn ystod y flwyddyn gan nodi cryfderau a
gwendidau y mae’r Gwasanaeth wedi eu hadnabod y mae angen rhoi sylw iddynt
(a) Nododd yr Aelod Cabinet
Addysg bod y Gwasanaeth Addysg wedi profi cyfnod ansefydlog gyda nifer o swyddi
allweddol yn wag cyn penodiad y Pennaeth Addysg i’w swydd ac ymfalchïwyd bod y Gwasanaeth wedi ei adfer erbyn
hyn. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu
gymryd sylw o’r elfennau isod wrth gymharu perfformiad Gwynedd o safbwynt y dangosydd TL2+ gydag awdurdodau
eraill:
·
Bod ysgolion Gwynedd yn
llawer mwy cynhwysol
·
Bod y Gymraeg a’r
Saesneg yn gyfartal yng Ngwynedd
Yn ogystal, tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol:
·
Mai arweinyddiaeth dda
sy’n gwella ysgolion
·
Bod gwaith yn mynd
rhagddo i weddnewid y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
·
Llwyddiant y Siarter
Iaith drwy ledaenu’r defnydd nid yn unig drwy Ogledd Cymru ond ar draws Cymru
gyfan
(b) Gosododd y Pennaeth Addysg
gyd-destun yr adroddiad o dan dri phennawd sef safonau, darpariaeth ac ansawdd
arweinyddiaeth. Nodwyd bod yr adroddiad
wedi adnabod materion sydd angen sylw a fydd yn cael eu bwydo i’r cynlluniau
busnes 2016/17 ac ymhen blwyddyn o amser hyderir y gellir
dangos cynnydd.
Tynnwyd sylw bod ESTYN yn adolygu fframwaith newydd o arolygu ar gyfer
pob sector ac y byddai’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE)
yn derbyn arolwg yn fuan.
(c) Derbyniwyd cyflwyniad
byr ar lafar fel a ganlyn:
A. Gan Uwch Ymgynghorydd
Her GwE
Adroddwyd ar brif negeseuon o’r data perfformiad ysgolion gan nodi bod y
perfformiad yn gadarn ar draws pob Cyfnod Allweddol a bod y cynnydd treigl o
2013 – 2015 yn rhan fwyaf y meysydd yn fwy na chynnydd treigl
cenedlaethol. Mewn cymhariaeth a’r 22
awdurdod drwy Gymru nodwyd bod proffil Gwynedd yn dda
iawn o safbwynt CA3, yn lled gadarn yn CA2 a bod lle i wella yn y Cyfnod
Sylfaen. O safbwynt y rhaglen waith ar
gyfer y Cyfnodau Allweddol uchod bod angen:
·
Parhau i weithio gydag
ysgolion i sicrhau bod y ganran lle mae perfformiad yn yr hanner cant isaf o
fewn y teulu cinio am ddim yn cael ei leihau
·
Parhau i weithio gydag
ysgolion mewn perthynas â dibynadwyedd a grymuster asesiadau athrawon
·
Gwella a grymuso ansawdd
y cynllunio a’r ddarpariaeth yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen
O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y perfformiad yn eithaf cadarn
ac yn broffil i ymfalchïo ynddo sef bod Gwynedd mewn cymhariaeth a’r 22
awdurdod ar draws Cymru yn y safle 1af yn TL1, 3ydd safle o safbwynt dangosydd
y pynciau craidd a 5ed yn ddangosyddion TL2 a TL2+.
Atgoffwyd yr Aelodau bod perfformiad nifer o ysgolion wedi bod yn
pendilio ac yn dilyn gwaith penodol gyda
rhain braf ydoedd nodi bod cynnydd sylweddol mewn nifer o’r ysgolion wedi ei
gyflawni a chynnydd pellach i’w wneud.
O safbwynt perfformiad yng nghyd-destun arolygiadau ESTYN sydd ychydig
mwy pryderus, nodwyd bod 18 o ysgolion wedi eu harolygu gyda 3 ohonynt wedi eu
gosod mewn categori statudol. Ym marn yr Uwch Ymgynghorydd Her roedd hon yn
broffil anfoddhaol ac fe gymerwyd llawer o gamau i unioni’r sefyllfa ac erbyn
hyn mae’r sefyllfa yn llawer iawn mwy cadarnhaol.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau gwestiynu cynnwys yr uchod ac fe ymatebodd y
swyddogion perthnasol iddynt fel a ganlyn:
(i)
Bod arolygwyr yn edrych
ar safonau dros gyfnod o amser, pa mor dda yw’r ddarpariaeth addysgu, cwricwlwm
yr ysgol, pa mor dda yw’r arweinyddiaeth.
Fe osodir ysgol mewn mesurau arbennig os yw yn perfformio yn gyson isel
dros gyfnod o dair blynedd a bod yr Arolygwyr wedi gweld ansawdd canran o’r
gwersi yn ddigonol neu anfoddhaol. Os
nad yw ysgol wedi adnabod ei gwendidau / cryfderau ac yn symud ddigon cyflym i
wella, fe’i gosodir mewn mesurau arbennig.
(ii)
O safbwynt y gwahaniaeth
yn safonau'r dysgwyr a’r pendilio ym mherfformiad rhai ysgolion, rhaid cofio
bod pob plentyn yn wahanol ac y gall un / ddau blentyn wneud gwahaniaeth i’r
dangosyddion perfformiad. Os yw’r dysgu yn gyson dda nodwyd bod disgyblion yn
gwneud y gorau y gallent ac yn cyrraedd y safonau disgwyliedig.
(iii)
Yng nghyd-destun
cydweithio rhwng y cynradd a’r uwchradd, cydnabuwyd bod y mater ar raglen y
Gwasanaeth Addysg ers sawl blwyddyn.
Tra’n derbyn bod lle i wella'r cyfathrebu a dealltwriaeth o’r gofynion,
nodwyd bod GwE wedi rhannu ysgolion i hyrwyddo
cydweithio ysgol i ysgol er mwyn rhannu arferion da. Hyderir y gellir
gweld ffrwyth y cydweithio yn ystod tymor yr haf. Yn ogystal, drwy sefydlu’r model ysgolion
dilynol o 3 - 16 oed hyderir y bydd y math yma o batrwm yn cryfhau’r
cydweithio.
(iv)
O safbwynt siom bod
Gwynedd yn safle 17eg ym mhrofion darllen Cymraeg, cydnabuwyd bod yn rhaid rhoi
ystyriaeth bellach i hyn ond rhaid cofio bod polisi iaith Gwynedd yn gynhwysol
yn y sector cynradd ac yn enwedig mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill. Sicrhawyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
gydag ESTYN ynglŷn â chasglu a dehongli’r
data hwn a sut maent yn dod i’r farn ar ysgolion sy’n
hyrwyddo’r ddwy iaith.
(v)
Ynglŷn ag
arwyddocâd y categorïau ac yn benodol yr ysgolion hynny a ddyfarnwyd yn
rhagorol gan ESTYN ond eto yn cael ei monitro gan yr awdurdod, esboniwyd mai’r
elfen sydd angen ei wella ydoedd presenoldeb yn y sector cynradd. Nodwyd ymhellach fel Sir bod angen gwella
presenoldeb.
(vi)
Byddai’n fuddiol i
aelodau’r Ymchwiliad Craffu Gwasanaeth Cefnogol Addysg drafod gydag ysgolion
sydd wedi eu dyfarnu yn goch y math o gefnogaeth a dderbynnir gan Wasanaeth
Cefnogol Addysg a GwE.
(vii)
Yn dilyn gwaith a
gyflawnwyd gan yr Ymchwiliad Ansawdd Addysg, ymddengys bod y bwlch rhwng
perfformiad CA3 a CA4 yn parhau yn anferthol.
Mewn ymateb, esboniwyd ei bod yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd nad
lefel 5 yn CA3 yw gwir ddangosydd y perfformiad pan mae dysgwyr yn cwblhau
addysg ar ddiwedd CA4 ond yn hytrach mai lefel uwch yn CA3 sydd fwyaf
arwyddocaol mewn perfformiad.
(viii) Gwnaed sylw y dylai’r iaith Gymraeg
fod yn gryfach. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod angen gosod y nod
drwy’r amser er mwyn i’r disgyblion fod yn
ddwyieithog fel eu bod yn cael eu haddysgu i safon i fedru gweithio’n lleol a
bod arddel y Gymraeg yn her nid yn unig i addysg ond hefyd yn gymdeithasol.
(ix)
O safbwynt pryder
pellach ynglŷn â chynnal yr iaith Gymraeg yn y sector uwchradd yn dilyn
gwaith da wneir yn y sector cynradd yn sgil y Siarter Iaith, bod bwriad i
ehangu’r Siarter i’r sector uwchradd. Yn
ychwanegol bod arbenigwr allanol yn ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ac fe
fyddir yn ddiddorol i’r Pwyllgor Craffu hwn weld deilliant y gwaith hwnnw i
graffu’r amrywiaeth o fewn ysgolion.
(x)
Nad oedd cyfeiriad yn yr
adroddiad ynglŷn â’r newid yn y cwricwlwm a’r
heriau a wynebai ysgolion yn hyn o beth.
Mewn ymateb, eglurwyd bod manylebau CA4 yn y Gymraeg / Saesneg /
Mathemateg yn cael eu cyflwyno.
Adnabuwyd ysgolion arweiniol ar draws y rhanbarth i ddatblygu ar i
arwain a chynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddiant ac ystod o weithdai i’w
cefnogi. O safbwynt adroddiad Yr Athro Donaldson ar gyfer oddeutu 2020, nodwyd bod rhaglen genedlaethol
yn mynd rhagddo i adnabod ysgolion arweiniol cenedlaethol ac o 2017 ymlaen fe
fydd yr ysgolion hynny yn gweithio mewn dalgylchoedd i roi arweiniad i weddill
yr ysgolion.
(xi)
Ynglyn a sut fydd y toriadau ariannol yn amharu ar hyfforddiant i athrawon yn
enwedig i’r ysgolion sydd yn tangyflawni, eglurwyd y byddai’n rhaid bod yn
greadigol drwy gydweithio hefo GwE o safbwynt beth
sydd angen, ystyried dulliau mwy cydweithredol, rhannu adnoddau / arbenigedd yn
ogystal ag osgoi dyblygu.
(xii)
Esboniwyd bod y
dangosydd cinio am ddim wedi bod yn eitha’ cyson.
Aeth yr Uwch Ymgynghorydd Her GwE ymlaen i
nodi bod perthynas waith da yn bodoli rhwng yr awdurdod a GwE ac wedi ei
grymuso lle mae llif gwybodaeth yn rhedeg yn llyfn sydd yn caniatáu bod Gwe a’r
awdurdod yn gallu ymyrryd ynghynt.
Cyfeiriwyd at y model newydd mewn perthynas â chategoreiddio cefnogaeth
i ysgolion yn seiliedig ar liw. Eglurwyd bod ysgolion yn y categorïau gwyrdd
yn cael eu grwpio hefo’i gilydd lle gellir rhoi mwy o
annibyniaeth iddynt i fraenaru a defnyddio eu harbenigedd. Rhydd hyn gapasiti
i fedru gweithio mwy dwys hefo’r ysgolion yn y
categorïau melyngoch a choch. Byddir
mewn sefyllfa i adrodd yn fwy aeddfed ar ddatblygiad y model hwn flwyddyn
nesaf.
Tynnwyd sylw at y drefn ganolog o gasglu
targedau er mwyn ymyrryd ynghynt a’r bwriad i benodi Ymgynghorwyr Her i
ddatblygu perfformiad yn Saesneg a Mathemateg.
Fe fyddir yn cyd-gyllido gyda’r awdurdod rôl yr Ymgynghorydd Mathemateg
fydd yn benodol yn gweithio yng Ngwynedd.
Cyflwynwyd ystod o raglenni i wella ansawdd arweinyddiaeth ynghyd a
rhaglen i wella arweinyddiaeth ganol.
Mewn ymateb i gwestiynau, nododd y swyddogion fel a ganlyn:
(i)
Y byddir yn ceisio
newid Ymgynghorwyr Her Cyswllt pob 2/3
blynedd.
(ii)
O safbwynt y nifer sy’n
ymgymryd â chymhwyster CPCP, esboniwyd bod gan GwE
raglen arweinyddiaeth gynhwysfawr lle fyddent yn trafod gyda’r awdurdod pa
gefnogaeth mae ysgolion angen a phwy yw darpar arweinwyr y dyfodol. Yn ogystal nodwyd yr angen i dargedu
unigolion i fynychu cyrsiau addas.
(iii)
Yng nghyd-destun penodi
Penaethiaid, esboniwyd bod yr awdurdod yn gweithio ar y cyd gyda llywodraethwyr
gan fod gan yr awdurdod adnabyddiaeth dda o botensial unigolion.
B. Gan y Swyddog Gwella Ansawdd
Nodwyd y comisiynwyd
adroddiad ar faes arweinyddiaeth sydd i’w chyflwyno i’r Cabinet maes o
law. Tynnwyd sylw at y prif ganfyddiadau
isod a ddeilliwyd o gyfweliadau gyda nifer o Benaethiaid ac Aelodau
etholedig:
1. Bod llawer mwy o ffocws ynglŷn â phenderfyniadau a thrafodaethau
diweddar ar lefel awdurdod ar arweinyddiaeth a chydnabuwyd bod angen newid
arwyddocaol ym maes arweinyddiaeth
2. Ymrwymiad clir i gydweithio
3. Nad oedd y trefniadau presennol bellach yn briodol a bod angen cymryd
camau i ymdrin â hyn h.y. edrych ar arweinyddiaeth a threfniadaeth oherwydd nad
oeddynt yn gynaliadwy gyda barn glir gan Benaethiaid bod angen newid
4. Bod angen i’r awdurdod wella ei berfformiad i adnabod arweinwyr
5. Gostyngiad sylweddol yn nifer staff canolog yr awdurdod ac o ganlyniad
bod capasiti i fodloni anghenion ysgolion yn is
6. Bod ffocws penodol i’w weld ar arweinyddiaeth yng nghynlluniau busnes yr
awdurdod a GwE
7. Bod yr awdurdod wedi sefydlu Bwrdd Monitro cynnydd annibynnol i edrych
pa mor gyflym mae ysgolion yn dod allan o’r categori statudol
8. Wedi adnabod problem ym mherfformiad Saesneg / Mathemateg
9. Enghreifftiau o fodelau ffederal - rhannu arweinyddion ar draws ysgolion
10. Parhau i weithio ar amodau
11. Parhau gyda’r gyfundrefn o gydweithio ysgol i ysgol
12. Sicrhau bod buddsoddiad cyfalaf ar gael i greu model swyddfa ardal
13. Datblygu rôl yr Uned Datblygu Addysg
Ymatebodd y Pennaeth Addysg a’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg i ymholiadau gan Aelodau unigol fel a ganlyn:
(i)
Dymunir gweithredu’r
drefn newydd ar gyfer Swyddfeydd Ardal y Gwasanaeth yn y flwyddyn academaidd
nesaf
(ii) O safbwynt y niferoedd sy’n dilyn y cymhwyster CPCP, bod 20 unigolyn o
fewn y rhanbarth wedi derbyn mynediad y llynedd a bod oddeutu 100 o lefydd ar
gael yn genedlaethol. Eleni am y tro
cyntaf gwelwyd bod y cwota wedi codi.
Ychwanegwyd pe byddir yn derbyn mwy i ddilyn y cymhwyster, byddai mwy o
gystadleuaeth ar gyfer y swyddi a nodwyd pwysigrwydd i unigolion ddefnyddio’r
cymhwyster os ydynt yn llwyddo i’w
dderbyn.
C. Gan Uwch Reolwr Anghenion Dysgu
Ychwanegol a Chynhwysiad:
Amlinellwyd gweithrediadau a’r
blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod megis:
·
Sefydlu trefn o hunan arfarnu ar draws ysgolion i’w harfogi i adnabod
patrymau o ran presenoldeb ynghynt
·
Trefn o erlyn a
rhybuddion cosb benodol
·
Bod gostyngiad yn y gwaharddiadau parhaol yn y sector uwchradd gyda
chynnydd mewn gwaharddiadau parhaol yn y sector cynradd oherwydd yn bennaf
diffyg cynhaliaeth ar gyfer plant hefo problemau ymddygiad. Nodwyd bod angen rhoi sylw brys i’r mater yn
CA2 a CA3.
·
Trefn newydd yn ei le
ers dechrau Ionawr i gefnogi disgyblion sydd gydag ymddygiadau emosiynol yn
CA4. Gwelwyd bod y disgyblion yn cael
budd o’r pecynnau sydd wedi ei teilwro ar gyfer eu hanghenion unigol hwy
·
Sefydlwyd cynllun TRAC ers Ionawr
·
Penodwyd Swyddog Diogelu ar gyfer yr Adran ac wedi grymuso trefniadau
diogelu / mynediad i ysgolion ynghyd â threfnu hyfforddiant pwrpasol
·
Bod yr adolygiad
strategol yn mynd rhagddo ar gyfer y disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac
wedi bod yn modelu ar y cyd gydag Ynys Môn er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth. Nodwyd bod angen bod yn ymwybodol o anghenion
plant o fewn y gyfundrefn bresennol megis sut i gefnogi plant ar y sbectrwm
awtistig, plant gydag anhwylder iaith benodol ac ymddygiad.
·
Gwelwyd gostyngiad
bychan mewn nifer o ddisgyblion sydd ar ddatganiadau ac wedi sefydlu trefn
newydd o gynlluniau datblygu unigol
·
Wedi sefydlu fforymau
sydd wedi rheoli'r mynediad at wasanaethau anghenion arbennig e.e. anhwylder
iaith, ymddygiad, ac sydd yn rhoi mwy o ffocws ar gefnogaeth i’r disgyblion trwy’r gwasanaethau canolog
Ymatebodd y swyddogion i
ymholiadau’r Aelodau fel a ganlyn:
(i) Bod angen cyfarwyddo rhieni ynglŷn â pholisïau ysgolion yn benodol
o safbwynt tynnu disgyblion allan o’r ysgol yn ystod tymor ysgol i fynd ar
wyliau. Byddir yn cydweithio gyda’ r
Adran Gyfreithiol ar union eiriad y polisi, a.y.b.
(ii)
Bod presenoldeb yn
allweddol i feithrin agwedd pobl ifanc tuag at waith.
(iii) Tra’n derbyn bod economi Gwynedd yn ddibynnol ar dwristiaeth a rhieni
ddim ond yn gallu mynd ar wyliau yn ystod y gaeaf, nodwyd pwysigrwydd i
gyfleu’r neges i rieni bod presenoldeb yn hynod bwysig.
(iv) Rhagwelir y byddai Ysgol Hafod
Lon newydd yn agor oddeutu mis Hydref 2016 ac y
byddir yn cadw’r Uned ABC o fewn prif lif yn Ysgol Eifion Wyn,
Porthmadog, oherwydd prinder lle yn yr ysgol arbennig.
(v) Hyderir y byddir yn penodi cwnselydd yn y
dyddiau nesaf ar gyfer tymor nesaf.
(vi) Cadarnhawyd y byddai newid sylweddol o ran darpariaeth plant awtistig
fel rhan o’r
adolygiad strategol anghenion dysgu ychwanegol lle byddir yn ystyried
sefydlu unedau o fewn ysgolion i gefnogi’r plant yn unigol er mwyn ffocysu’r
arbenigedd a chryfhau’r gwasanaeth.
Penderfynwyd: (a) Derbyn
a nodi cynnwys yr adroddiad blynyddol.
(b) Cymeradwyo:
(i)
bod yr Ymchwiliad Craffu
Gwasanaethau Cefnogol Addysg yn gwneud pwynt penodol i drafod gydag ysgolion yn
y categori coch i asesu’r math o gefnogaeth y mae’r ysgolion hynny yn cael gan
yr awdurdod, GwE ac eraill
(ii)
Bod yr elfennau Gwasanaethau Cefnogol yn cael sylw gan yr Ymchwiliad
Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg yn hytrach nag yn y Pwyllgor Craffu llawn
(c)
Oherwydd y perygl o oedi mewn
adrodd ar berfformiad,
gofyn i’r Aelod Cabinet
Addysg gyflwyno adroddiad interim yn ôl i’r Pwyllgor Craffu yn yr Hydref i weld
beth yw patrwm canlyniadau arholiadau’r haf.
(ch) Bod
y Pwyllgor Craffu yn rhoi sylw penodol i Addysg Arbennig yn rhaglen waith ar
gyfer flwyddyn nesaf gan ystyried ei graffu yn fuan yng nghyfarfod mis Mai.
Dogfennau ategol: