I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwrfeistr
Croesawyd pawb i’r cyfarfod, gan ddiolch i’r Aelod Cabinet
am allu bod yn bresennol hefyd, a cychwynnwyd gydag
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod
Cadarnhawyd bod 71 cwch wedi eu
cofrestru yn 2023 o’i gymharu â 64 yn
2022, a’i bod yn braf adrodd ar y cynnydd.
Tybiwyd mai y costau is sydd yn denu cwsmeriaid i Harbwr Abermaw a
gobeithio y bydd y ffigwr yn hyd yn oed uwch flwyddyn nesaf a’r tueddiad yn parhau. Adroddwyd bod y rhan fwyaf wedi eu cofrestru
ar-lein, sef 1,269 o gychod pŵer a 1,240 o gychod dŵr personol.
Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd
Cadarnhawyd bod Harbwr Abermaw yn
cydymffurfio a’r Gofynion, a petai gan unrhyw un sylwadau ar y Côd, bod modd iddynt hysbysu’r Uwch Swyddog Harbyrau.
Materion Staffio
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newid wedi
bod yn y sefyllfa staffio, ond bod yr Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr
Cynorthwyol wedi bod yn helpu yn Harbyrau Porthmadog
ac Aberdyfi. Cymerwyd y cyfle hefyd i
ddiolch i’r staff tymhorol am eu holl waith.
Materion Ariannol : Sefyllfa Ariannol Harbwr Abermaw
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
ar y gyllideb gan grynhoi o dan y prif benawdau. Adroddodd bod y wybodaeth wedi ei selio ar
gyfarfod gyda y Swyddogion Cyllid yn ystod mis Awst, oedd yn dangos
gwir-wariant am bum mis ac yna yn proffwydo gwariant ar gyfer Medi 2023 i
Fawrth 2024. Adroddodd ei fod yn anodd
iawn proffwydo a bod materion megis gaeaf trwm am effeithio ar y ffigyrau.
Gweithwyr - £65k - gorwariant £800
oherwydd costau goramser gan fod staff wedi bod yn rhoi cymorth ym Mhorthmadog
ac Aberdyfi. Nid yw’r gyllideb hon yn
adlewyrchu costau staff tymhorol
Eiddo - £12k - gorwariant £650 -
oherwydd y byrddau picnic ar arwyddion, a chadarnhawyd bod hyn i’w ddisgwyl
Trafnidiaeth - £1000 - tan wariant £700
– mae’r ffigwr yn cynnwys tanwydd/petrol
i’r cwch (ond ddim yn cynnwys costau cynnal a chadw). Nodwyd bod y ffigwr oherwydd bod y cwch wedi
bod allan llai oherwydd yr haf gwael a bod y peiriannau newydd yn gwneud y
gwaith yn fwy economaidd.
Gwasanaethau a Chyflenwadau - £11k -
gorwariant o £6k - mae hyn yn cynnwys y cadwyni, shaclau,
goleuadau, ynghyd a phris y cymhorthydd mordwyo newydd (oedd dros £3k). Adroddwyd eu bod wedi gorfod talu i
gontractwyr osod y bwi ynghyd a chostau gwasanaethu peiriannau’r cwch.
O ran yr Incwm, adroddwyd ei fod yn dod
o’r ffioedd angori, ffioedd aros dros dro, a’r maes parcio ac mai y targed oedd
£38,500 ond eu bod yn proffwydo £40,500.
Cyfeiriwyd at y gwaith ar y Bont a’r incwm gan Gwmni Network
Rail, ond nad oedd llawer mwy o incwm. Cadarnhawyd, heb yr incwm Network
Rail, na fyddai y targed wedi ei gyrraedd.
O ran y ffigyrau penodol nodwyd £50,924
o wariant, £55,524 wedi ei broffwydo a gorwariant o £4,601, a’r ymdeimlad oedd
nad oedd hyn yn peri pryder, er y byddai yn debygol o godi ychydig.
Nododd y Pwyllgor ei bod yn braf gweld
y ffigyrau yn enwedig o wybod ei bod wedi bod yn dymor anodd. Adroddwyd bod adroddiadau da yn cael eu rhoi
am y staff.
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol nad
oedd anfoneb Network Rail
wedi ei chyflwyno eto, ond y byddai yn cael ei chyflwyno cyn diwedd y
flwyddyn. Ategodd yntau y sylwadau am y
staff a’i gwaith da, gan nodi bod yr Harbwr yn edrych yn dda. Nododd ei bod yn adeg anodd, a bod angen rhoi
pob clod am gyrraedd y targed incwm.
O ran y cynnydd o 11% yn nifer y
cwsmeriaid, nodwyd efallai bod hyn o ganlyniad i sefyllfa Harbyrau
Felinheli ac Aberystwyth a bod Harbwr Abermaw fymryn yn rhatach na nifer o Harbyrau eraill.
Ategwyd y diolch gan yr Aelod Cabinet hefyd.
ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR
Materion Mordwyo
Gosodwyd bwi tramwyo wedi'i adnewyddu a
chynhaliwyd arolwg o’r sianel i fonitro’r banciau tywod. Adroddwyd bod angen cymhorthydd mordwyo Rhif
10 newydd a bod y gwaith monitro yn parhau.
Cadarnhawyd bod y Rhybudd i Forwyr
am y gwaith ar y Bont yn parhau i fod mewn lle ar gyfer morwyr hyd nes canol
mis Rhagfyr
Mae bwiau rhif 1 ac 8 nawr wedi eu goleuo a diolchwyd i
Harbwr Porthmadog am gael benthyg y cyfleuster goleuo.
Cadarnhawyd bod yr holl farciau yn eu lle ac yn gweithio.
Materion Gweithredol
Adroddodd Harbwrfeistr
Abermaw bod yr ymwelwyr erbyn hyn yn gallu defnyddio wal yr Harbwr. Cyfeiriwyd at y ‘Powercat’
newydd oedd wedi cael dipyn o ddefnydd a’r manteision o gael cwch o’r math, er
bod cost o £15,000 wedi bod ynghlwm a hi.
Cadarnhawyd bod gwaith monitro a rhifo angorfeydd wedi cymryd lle,
ynghyd a buddsoddi yng ngherbyd y gwasanaeth.
Nodwyd bod radio VHF newydd wedi ei
brynu ar gyfer y swyddfa, ynghyd a radios llaw.
Mae arolygiadau dyddiol a gwaith cynnal a chadw dyddiol o’r bariau a’r
llithrfeydd.
Adroddwyd bod marc mordwyo
Rhif 2 wedi mynd ar goll yn ystod storm yn gynharach yn y tymor ac nad
oedd wedi dod i’r golwg, ac felly roedd rhaid prynu un newydd yn ei le. Yn ychwanegol cafwyd costau gyda chadwyni
angorfeydd, ac roedd costau llafur contractwr ynghlwm a hyn.
Adroddwyd bod nifer o deiars tractor
wedi eu rhoi i’r Harbwr sydd o gymorth oherwydd nifer o gychod
ymwelwyr i’r Harbwr. Nodwyd bod
bolardiau wedi eu gosod hefyd i ymdrin â’r diffyg llefydd parcio i weithredwyr
masnachol y dŵr.
Yn ystod arolwg diweddar, adroddwyd bod
arwydd y morglawdd a’r arwydd yn rhybuddio pobl i beidio â nofio wedi eu
trwsio, tra mae meinciau picnic, wedi eu gwneud allan o blastig wedi ei
ailgylchu, wedi eu gosod hefyd.
O ran Pont Rheilffordd Abermaw, adroddwyd bod y gwaith yn y
camau olaf. Cadarnhawyd bod Rhybudd i Forwyr yn parhau i fod mewn lle a bod yr holl draffig oedd
yn mynd o dan y bont wedi eu hatal a’u bod wedi eu symud o’r hen harbwr. O ganlyniad, cadarnhawyd bod lloc yr Harbwr
wedi ei dwtio a diolchwyd i bawb am eu cymorth.
Adroddwyd bod Gerddi Orielton wedi
tyfu yn wyllt a bod contractwyr wedi gwneud y gwaith clirio yno. O ran y sied, adroddwyd bod asbestos wedi ei
ddarganfod ar do’r sied, ond y gobaith oedd y
byddai’r gwaith yn cael ei wneud cyn y Nadolig.
Cyfeiriwyd at y loceri
siacedi achub bywyd oedd wedi eu darparu gan y gwasanaeth Bad Achub, a
diolchwyd yn benodol i Trevor Lewis, gan nodi mai Harbwr Abermaw oedd y cyntaf yng
Nghymru i gael cyfleuster o’r math.
Adroddwyd bod ymdrech fawr yn mynd mewn
i gynnal digwyddiadau da megis gŵyl gerddoriaeth, y tri chopa, gŵyl
fwyd a’r digwyddiad ‘motor cross’ a chadarnhawyd bod
adborth positif wedi ei dderbyn.
Atgoffwyd yr Aelodau i hysbysu Swyddfa’r Harbwr am unrhyw ddigwyddiad
cyn gynted â phosib.
Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau, ac mewn ymateb nodwyd
fel a ganlyn :
Diolchwyd am yr adroddiad ond nodwyd
pryder nad oedd llawer o wybodaeth ar gael am y pontwns,
a holiwyd tybed fyddai modd cael adroddiad ynglŷn â’r sefyllfa? Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiweddaru’r
Pwyllgor ar y sefyllfa gan gadarnhau bod y Cyngor Tref yn ceisio cymryd drosodd
y Pontwns, gan gadarnhau y dymuniad i’w gadael ar y
wal, yn gorffwys ar wely’r môr. Gan fod
craen yn yr ardal wythnos nesaf, nodwyd y dymuniad i gymryd mantais o hyn, gan
ofyn am ganiatâd i roi’r craen ar y tarmac wrth Adeilad Dora.
O ran y gwaith ar y Bont, adroddwyd bod gwaith gosod y trac
yn dilyn cwblhau’r Bont, gyda gwaith
pellach ar Draphont Abermaw yn 2024, ond nid oedd cadarnhad wedi ei dderbyn.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau
Morwrol at y Ddeddf Newydd yn ymwneud a Beiciau Dŵr, ac yn benodol y
sustem cofrestru. Adroddodd bod rhai
beiciau dŵr yn cael eu lansio o’r meysydd carafanau ac o ganlyniad ei bod
yn anodd iawn cadw cofnod ohonynt.
Cyfeiriwyd at yr ymchwiliad sydd ar y gweill yn Aberdyfi, gan nodi ei
falchder nad oedd unrhyw ddamweiniau difrifol, oedd o bosib oherwydd ymddygiad
rhagweithiol staff, a’r cymorth gan staff y traethau. Yn ychwanegol, diolchwyd i staff Abermaw,
staff traeth, Swyddogion y Bad Achub a Gwylwyr y Glannau am eu holl waith a’r
berthynas dda.
O ran y digwyddiadau oedd wedi cymryd lle, adroddodd y
Cadeirydd mai unig bryder yr Heddlu oedd achos o yfed o dan oed yn yr Ŵyl
Gerddoriaeth.
Cwestiynwyd y sefyll o ran clirio y
tywod ac yn benodol yr argraff a roddwyd bod cynllun i ganiatáu twyni tywod ar
y traeth. Y pryder gyda hyn oedd y
byddai sgwteri symudedd yn mynd yn sownd yn y tywod. Nodwyd, er gwybodaeth, bod cynlluniau i
glirio y tywod.
Adroddwyd bod unrhyw drafodaeth
ynglŷn â thywod am effeithio yr arfordir i gyd, ac o ganlyniad bod hwn yn
eitem fydd o flaen y Pwyllgor Craffu yn Ebrill.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth
Morwrol nad oedd wedi clywed unrhyw son am gynllun i
annog tyfu y twyni gan gwestiynu o ble ddaeth y wybodaeth. Nododd ei fod wedi cyfarfod a’r Harbwrfeistr yr wythnos flaenorol ac roedd y ‘bull dozer’ yn tynnu tywod o’r
wal ac wedi ei glirio erbyn y penwythnos.
Adroddwyd bod trafodaethau ar y gweill gyda YGC a bod bwriad i’w glirio
cyn diwedd y flwyddyn, ond nad oedd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn ymwybodol
o’r Cynllun y cyfeiriwyd ato uchod.
Adroddwyd ymhellach mai rhan o’r Cynllun oedd clirio y tywod ddwywaith,
ond ei bod wedi dod yn glir nad oedd hyn yn ddigon.
Ehangwyd ar yr uchod, gan adrodd bod
unigolyn wedi mynd i gyfarfod gyda Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, ble rhannwyd map yn
dangos y twyni rhwng yr orsaf bad achub a’r cawsai ond nid oedd neb yn siŵr o ble ddaeth y
map? Adroddwyd fel y byddai ffermwyr,
rhai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn, yn arfer glanhau’r afon Sgethin er mwyn cadw
y sianel yn agored. Er bod trafodaeth
wedi bod gyda Gweinidog yr Amgylchedd, rhybuddiodd y ffermwyr y byddai
problemau gyda’r twyni a’r effaith ar Dalybont, megis
llifogydd yn y maes carafanau. Mae y
twyni yn diflannu yn Nhalybont.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb am eu
cyfraniadau a nododd bod themâu tebyg yn codi yn y Pwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau eraill.
Awgrymwyd bod cyfle yma i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru. Cymerodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a
Chymuned y cyfle i nodi bod cydweithio rhwng asiantaethau ar brosesau
arfordirol, megis prosesau Aberdyfi a Pwllheli.
Yn sgil yr uchod, holiwyd tybed a oes
cyfarfod o Gynllun Tywod Bermo wedi ei gynnal yn
ddiweddar? Nid oedd neb yn siŵr ond
nodwyd nad oedd unrhyw synnwyr mewn gadael i’r twyni dyfu, yn enwedig o gwmpas
ble mae’r orsaf Bad Achub. Awgrymwyd efallai y byddai yn syniad ail-gynnull
y Grŵp? Cadarnhawyd y byddai y
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned yn ceisio cadarnhau y sefyllfa ac
adrodd yn ôl i aelodau y Pwyllgor Ymgynghorol, ac y byddai y Cadeirydd yn
trafod gyda Rhidian Morgan, Pennaeth Datblygiad
Twristiaeth Llywodraeth Cymru, gan fo esiamplau o draethau eraill yn dirywio,
megis Traeth Benar.
Holodd Cynrychiolydd Cyngor Tref
Abermaw am drefniadau’r noson tan gwyllt, gan nodi pan gafodd y diweddariad
diwethaf bod popeth ar amser ac nad oedd unrhyw bryderon. Cadarnhawyd y neges oedd wedi dod i law yn
cadarnhau na fyddai sgaffald ar y traeth yn y 7-10 diwrnod nesaf.
Cwestiynwyd hefyd y byrddau sydd wedi
eu gosod ar hyd y promenâd, a bod eu gosod yno yn drefniant hanesyddol. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai yn trafod y
mater ymhellach.
Cymerwyd y cyfle i
drafod y graffiau oedd yn rhan o Ddashfwrdd Rheoli
Perfformiad Economi a Chymuned gan gadarnhau eu bod yn cydymffurfio 100% gyda
gofynion Tŷ’r Drindod.
Cyfeiriwyd
at y gwaith o osod codau QR ar arwyddion fel bod modd i bobl rannu eu sylwadau
ar yr holiadur bodlonrwydd cwsmer.
Nodwyd bydd gwaith mynd drwyddynt maes o law i weld unrhyw themâu, ond
ar hyn o bryd nodwyd bod oddeutu 30 wedi eu cwblhau ar gyfer yr Harbyrau, gyda 89% yn nodi fod eu profiad o’r harbwr yn
‘dda iawn’ neu’n ‘dda, gyda nifer yn canmol y staff ond yn nodi’r angen i
garthu’r Harbwr.
Nodwyd bod cyfle hefyd i roi barn ar
draethau, ac mae 350 wedi cwblhau’r holiadur hyd yma, gyda 75% yn nodi bod y
traethau yn gyffredinol yn ‘dda iawn’
neu ‘da’, gyda sylwadau yn cael eu gwneud am brysurdeb y traethau.
Tynnwyd sylw penodol bod 2,500 o
feiciau dwr wedi eu cofrestru yng Ngwynedd, mewn cymhariaeth a 500 ym Môn a 300
yng Nghonwy.
Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: