Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr.
(1)
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr
am y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a Chwefror 2024.
(Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn absenoldeb yr Uwch Swyddog
Harbyrau oherwydd salwch.)
Diolchwyd i’r Uwch
Swyddog Harbyrau am baratoi’r adroddiad ysgrifenedig, a dymunwyd gwellhad buan
iddo.
Llongyfarchwyd
Math Roberts ar ei benodiad i’r swydd lawn amser Swyddog Traethau. Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd na ragwelid ar
hyn o bryd y byddai angen i’r Swyddog Traethau fynychu cyfarfodydd y pwyllgor
harbwr gan mai traethau fyddai prif ffocws y swydd, ond eglurwyd y byddai’r
swyddog yn cynorthwyo staff yr harbwr gyda materion harbwr hefyd pan fo angen.
Fel rhan o’r
adroddiad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r
Harbwr 01/4/23 - 31/3/24 (Adolygiad Tachwedd 2023), a gynhwyswyd fel atodiad
i’r adroddiad. Manylwyd ar yr elfennau
canlynol o’r gyllideb:-
Gweithwyr
Eglurwyd bod y
gorwariant a ragwelid o dan y pennawd hwn yn bennaf oherwydd costau goramser
staff oedd wedi’u galw i mewn i’r gwaith yn ystod cyfnodau o wyliau / y tu
allan i oriau gwaith arferol dros y flwyddyn i ddelio â digwyddiadau, nid yn
unig yn Harbwr Porthmadog, ond ar y traethau ac yn yr harbyrau eraill yng
Ngwynedd hefyd.
Diolchwyd i’r
staff, ac yn arbennig i’r Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol, am eu
hymrwymiad i gynorthwyo gyda’r digwyddiadau hyn.
Eiddo
Eglurwyd bod arian
ychwanegol wedi’i gynnwys dan y pennawd hwn rhag ofn y byddai angen gwario’n
sylweddol ar yr adeiledd, wal yr harbwr neu’r tir o gwmpas yr harbwr. Gan na chafwyd unrhyw gostau sylweddol y
tymor hwn, rhagwelid tanwariant ar y gyllideb.
Gwariant Un Tro –
Ariannu o Gronfeydd yr Adran
Eglurwyd:-
·
O
ganlyniad i godi ffioedd, bod gan y Gwasanaeth Morwrol a Hafan Pwllheli
gronfeydd lle mae arian wedi cronni ers blynyddoedd, a chafwyd cyfarwyddyd i
adnabod cynlluniau ar draws y Gwasanaeth lle gellid defnyddio’r arian hwnnw i
wella cyfleusterau morwrol.
·
Bod
nifer o brosiectau wedi’u rhoi ymlaen, gyda rhai yn cael eu gwireddu yn y
flwyddyn ariannol bresennol, ac eraill yn y flwyddyn ariannol nesaf.
·
Mai
un o’r prif brosiectau yn Harbwr Porthmadog oedd adnewyddu’r cadwyni angori, a
buddsoddwyd cyllid sylweddol yn hynny, yn ogystal â chynnal a chadw’r bwiau,
lleoli ysgolion newydd ar ochr wal yr harbwr a chostau contractwyr i ymgymryd
â’r holl waith.
·
Bod
oddeutu £28,000 wedi’i wario hyd yma, a rhagwelid gwariant pellach o rhwng
£7,000 ac £8,000 cyn diwedd Mawrth ar fanion eraill, gan gynnwys gwaith
gwella’r compownd, ail-leoli slabiau yn yr ardal y tu cefn i adeilad yr harbwr
ac uwchraddio system teledu cylch cyfyng.
·
Na
fyddai’r gwariant hwn yn cael unrhyw effaith ar y gyllideb gan fod £36,000
wedi’i drosglwyddo o gronfeydd yr Adran i gwrdd â’r costau.
·
Bod
rhagor o arian yn y gyllideb i wneud gwelliannau ar dir yr harbwr hefyd, er na
ragwelid y byddai modd gwario’r arian hwnnw erbyn diwedd Mawrth.
·
Bod
bwriad hefyd i ddefnyddio arian o’r cronfeydd hyn ar gyfer pob math o
welliannau yn yr harbwr dros yr haf a thrwy gydol y flwyddyn.
Incwm
Eglurwyd bod yr
incwm ychydig yn is na’r disgwyl oherwydd y tywydd gwael yr haf diwethaf.
Mewn ymateb i
gwestiwn, eglurwyd bod costau’r holl gerbydau morwrol yn cael eu hariannu yn
ganolog o’r gyllideb traethau.
Yna manylodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol ar ffioedd a thaliadau 2024/25, gan nodi:-
·
Bod
y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r ffioedd ar gyfer 2024/25 yn unol â chyfradd
chwyddiant, sef 7.49% ar y pryd.
·
Er
bod ffioedd angorfeydd wedi’u codi’n uwch na lefel chwyddiant mewn rhai
harbyrau eraill, awgrymwyd cynnydd yn unol â chwyddiant yn unig yn Harbwr
Porthmadog gan fod y ffioedd angori wedi bod yn hanesyddol yn uwch yno nag mewn
harbyrau fel Aberdyfi ac Abermaw.
·
Y
codwyd y ffioedd lansio a chofrestru ychydig bach yn uwch na chwyddiant. Gan bod y ffi lansio eisoes wedi cynyddu o
£10 yn 2020 i £22 y llynedd, awgrymwyd cadw’r ffi yn £22 ar gyfer 2024/25
gyda’r ffi cofrestru yn codi o £60 i £70 (sef cynnydd o bron i 17%) a’r ffi
flynyddol, sef cofrestru a’r tocyn tymhorol a lansio yn codi o £170 i £180 (sef
cynnydd o 6%).
(2)
Adroddiad
yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a
brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a Chwefror, 2024, gan gynnwys
materion cynnal a chadw.
Cyn cychwyn
cyflwyno ei adroddiad, cydymdeimlodd yr Harbwrfeistr â theulu Michael Holt o
Borthmadog, fu farw’n ddiweddar tra’n rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd mewn
ymgais i godi arian i ddwy elusen.
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Harbwrfeistr:-
·
Bod
yr holl waith ar yr angorfeydd yn yr harbwr wedi’i gwblhau bellach.
·
Y
byddai’r gwaith o uwchraddio offer y cyfleuster Teledu Cylch Cyfyng yn yr
harbwr yn cael ei gwblhau yn y 3 wythnos nesaf.
·
Y
gofynnwyd i Adran Briffyrdd y Cyngor ac i gwmni lleol am bris ar gyfer ail-osod
y slabiau palmant sydd wedi’u codi gan wreiddiau coed o amgylch yr harbwr.
·
Bod
Parkingeye yn fyw yn y Ganolfan bellach.
·
Y
derbyniwyd cŵyn gan aelod o’r cyhoedd bod diffibrilwyr ym Morfa Bychan
wedi’u tynnu oddi ar eu safleoedd, ond bod hynny wedi’i wneud oherwydd diffyg
cyflenwad trydan i’r blychau sydd yn eu dal, gan fod peryg’ y gallai’r padiau
gel rewi a’r batris fynd yn fflat ac i anwedd ffurfio o ganlyniad i ddiffyg
gwres yn y bocs. Gobeithid y byddai’r
diffibrilwyr yn ôl yn eu safleoedd wythnos nesaf.
·
Bod
2 neu 3 o ymatebwyr i holiadur diweddar wedi holi a oedd modd gosod gwe gamera yn yr Harbwr, ac o bosib’ bod hyn
yn rhywbeth y gellid gofyn i Gyngor Tref Porthmadog ystyried ei wneud, mewn
cydweithrediad â’r Gwasanaeth Morwrol.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
Llongyfarchwyd
y Gwasanaeth ar fodloni’r arolygydd o Dŷ’r Drindod bod popeth mewn trefn dda
ac effeithlon o ran y cofnodion o argaeledd y cymhorthion mordwyo lleol o dan
reolaeth Cyngor Gwynedd, ac nad oedd unrhyw faterion yn codi oedd angen sylw
pellach.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chost y gwaith o drin cwch y Dwyfor a’r cwch
patrôl ‘Powercat’, nodwyd y neilltuwyd cyllid penodol ar gyfer y gwaith cynnal
a chadw ar gwch y Dwyfor. Eglurwyd bod
cwch y Dwyfor yn rhedeg yn dda yn sgil cwblhau gwaith sylweddol arni cyn y
cyfnod Cofid, gan gynnwys ail-adeiladu’r injan, ond bod y rheoliadau o ran
codio cychod, ayb, wedi newid bellach.
Nodwyd hefyd nad oedd yna gostau sylweddol ar y cwch patrôl ‘Powercat’.
Diolchwyd
i’r Gwasanaeth am y rhaglen o waith cynnal a chadw ar feinciau eistedd a’r
waliau cerrig ger hen lecyn docio’r peilot ym Morth y Gest.
Ategwyd
geiriau’r Harbwrfeistr ynglŷn â Michael Holt a diolchwyd i’r Harbwrfeistr
am ei holl waith gyda’r diffibrilwyr ym Morfa Bychan. Diolchwyd hefyd am yr adroddiad ac am y
gwaith o osod yr ysgolion ar wal yr harbwr, ayb, a mynegwyd cefnogaeth i’r
syniad o gael gwe gamera yn yr harbwr.
Mynegwyd gobaith y byddai cwch y Dwyfor a’r cwch patrôl ‘Powercat’ yn ôl
mewn gwasanaeth erbyn yr haf. Mewn
ymateb, nodwyd ei bod yn debygol y byddai’r cychod yn ôl mewn gwasanaeth cyn y
Pasg, ond bod modd defnyddio cychod o harbyrau eraill hefyd petai gwir angen
cwch ar y dŵr yn yr harbwr yn y cyfamser.
Nodwyd ymhellach:-
·
Y
llwyddwyd i gyrraedd y gofynion am y tymor yma o ran y rheoliadau codio.
·
Bod
codio cwch y Dwyfor yn wahanol i’r ‘Powercats’ oherwydd ei bod yn codi bwiau a
phryderid, pe byddai gofynion y Cod yn newid, yna bod risg na ellid defnyddio’r
Dwyfor i wneud unrhyw waith allan ar y môr, ac felly’n ddibynnol ar gontractwr,
sy’n mynd i gynyddu’r costau.
·
Y
neilltuir cyllideb benodol ar gyfer y gwaith o gynnal a chadw cwch y Dwyfor,
ond y gallai’r gwir gost fod yn uwch na’r hyn a ragdybiwyd oherwydd yr angen i
wneud gwaith ychwanegol na ragwelwyd.
Diolchwyd i’r
Harbwrfeistr a’r staff am y gwaith caled o geisio cadw Sianel Porthmadog yn
glir ac wedi’i farcio, a nodwyd y byddai gwe gamera yn yr harbwr yn gallu bod o
gymorth i Sefydliad y Bad Achub hefyd.
Holwyd beth fyddai
cost gosod a chynnal gwe gamera yn yr harbwr.
Mewn ymateb, nodwyd y gallai’r Harbwrfeistr wneud ymholiadau ynglŷn
â hynny, ond y credid y byddai adnodd o’r fath yn fuddsoddiad da iawn i’r
harbwr. Gwnaed y sylw hefyd ei bod yn
werth buddsoddi mewn gwe gamera o ansawdd.
PENDERFYNWYD nodi a
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: