Agenda item

I dderbyn yr wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Nodyn: Argymell i’r Cabinet bod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid, oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor ac yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion cyn cyflwyno i’r Cabinet 7.11.23.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau, er mwyn cau'r bwlch ariannol eleni, rhaid oedd gweithredu gwerth £7.6 miliwn o arbedion yn ystod 2023/24, sydd yn gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar gyfer yr Ysgolion o £1.1 miliwn, £3 miliwn ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4 miliwn pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y Cyngor.

 

Ategwyd, fel sydd wedi cael ei adrodd yn gyson i’r Pwyllgor, bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd (y rhai mwyaf amlwg oedd yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r maes Gwastraff). Nodwyd, yng Ngorffennaf 2023, adolygwyd yr holl gynlluniau arbedion ac asesu pa gynlluniau oedd bellach yn anghyraeddadwy. Lluniwyd rhaglen i ddileu gwerth £2 filiwn o gynlluniau oedd â risgiau sylweddol i’w cyflawni. Cyfeiriwyd hefyd at y cynlluniau arbedion hanesyddol am gyfnod blwyddyn ariannol 2015/16 hyd flwyddyn ariannol 2023/24ac er bod rhai o’r cynlluniau hyn wedi eu dileu, bod 98%, sef dros £33.7 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu.

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod 81% o arbedion 2023/24 eisoes wedi eu gwireddu gyda 6% pellach i gyflawni’n amserol. Ategwyd bod ychydig o oediad i wireddu gwerth £700k o gynlluniau arbedion 2023/24, ond nad oedd yr Adrannau yn rhagweld problem i’w gwireddu. Adroddwyd bod mwyafrif o’r swm yma, oedd  yn cynnwys arbedion o £539k gan ysgolion, yn llithro gan fod yr ysgolion yn gweithio i flwyddyn academaidd, ac felly bydd y gwireddu yn llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf. Trafodwyd gwerth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2024/25 ymlaen ynghyd a chynlluniau arbedion a thoriadau pellach ar gyfer 2024/25 sydd eisoes dan ystyriaeth. Bydd y rhain yn destun adroddiad pellach.

 

Wrth grynhoi, adroddwyd bod £39.1 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu sydd yn 96% o’r £41 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelwyd y bydd 1% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond y bydd oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar y llwyddiant  - bod 96% o’r Arbedion wedi eu gwireddu - y  tuedd yw rhoi gormod o ffocws ar y rhai hynny sydd heb eu gwireddu, sydd efallai'r rhai anoddach.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod patrwm hanesyddol cyson o orwario yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

·         Er bod gorwario mewn deg cynllun gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, nid oedd eglurhad clir na rhesymau dros y gorwariant. A oedd Rheolwr Prosiect wedi ei benodi? Angen sicrhau bod trefniadau yn cael eu tynhau a bod gwersi yn cael eu dysgu. Annog i’r Cabinet gwestiynu mwy am y sefyllfa

·         Awgrym y dylid ystyried rhoi sylw allanol i’r cynlluniau - adnabod arbenigwyr i edrych yn fanylach ar y sefyllfa

·         Bod dyletswydd i rannu gwybodaeth am y cynlluniau arbedion gyda’r Pwyllgor - anodd i’r Pwyllgor roi barn realistig, a’r Pwyllgor yn agored i feirniadaeth am beidio herio yn fwy trylwyr. Angen ystyried sut gall y Pwyllgor gyflawni eu rôl yn well.

·         Yn datgan balchder bod 95.6% o’r arbedion wedi ei gwireddu - angen llongyfarch y swyddogion am hyn

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Pwyllgor am eu sylwadau ac ategodd falchder bod swm sylweddol wedi ei arbed. Nododd bod gan y Cynghorwyr hynny sydd yn mynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adrannau y grym i herio’r sefyllfa ariannol - hyn yn hanfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Nodyn: Argymell i’r Cabinet bod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny

 

 

Dogfennau ategol: