Agenda item

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  2. Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet:

·         Drosglwyddo £3.275k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor

·         Bod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr  i gael gwell dealltwriaeth o orwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant yn gosod rhaglen glir i ymateb i’r sefyllfa

 

Nodyn: bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau. Nododd ei bryder ynglŷn a gorwariant ym maes anabledd dysgu a diffyg incwm yn y maes gwasaneth gwastraff.  Cymerodd y cyfle i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu gwaith o gwblhau’r wybodaeth ac i aelodau Pwyllgor am eu craffu a cydweithio da.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd yr adroddiad yma yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet 7 Tachwedd 2023.

 

Yn dilyn adolygiad diwedd Awst nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd naw o’r deg adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. Eglurwyd, dros y blynyddoedd diwethaf bu adrodd rheolaidd ar risgiau i gyflawni rhai cynlluniau arbedion, oedd amlycaf yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes Gwastraff. Yn dilyn adolygiad diweddar o’r arbedion nad oedd yn cael eu gwireddu, penderfynwyd dileu gwerth £2 filiwn o gynlluniau arbedion drwy ddefnyddio darpariaeth risg arbedion i’w gyllido. Roedd yr adroddiad felly yn adrodd ar y sefyllfa ariannol yn dilyn dileu yr arbedion hynny.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - rhagolygon diweddaraf yn awgrymu £6.6 miliwn o orwariant, sydd yn gyfuniad o nifer o ffactorau sy’n cynnwys nifer o achosion newydd a chostus llety cefnogol yn y gwasanaeth anabledd dysgu.  Yng nghyd-destun gofal cymunedol, nodwyd bod costau staffio uwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel ac felly’n cael effaith negyddol ar yr incwm a adenillir. Yng nghyd-destun  gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd ffioedd uwch gan ddarparwyr preifat, ond lleihad mewn gyda defnydd cynyddol o staff asiantaeth mewn gwahanol feysydd hefyd yn cyfrannu at y gorwariant

·         Adran Addysg - bod tuedd o bwysau cynyddol ar y gyllideb tacsis a bysus ysgolion yn dod yn fwy amlwg eleni, gyda gorwariant o £1.5m yn cael ei ragweld. Nodwyd bod y maes cludiant eisoes wedi bod yn destun adolygiad strategol i geisio rheoli’r cynnydd yn y gwariant ac awgrymwyd bod angen gwneud gwaith pellach i geisio lleihau’r gorwariant a manteisio ar gyfleoedd effeithlonrwydd.

·         Byw’n Iach – gyda covid wedi cael effaith ar incwm Cwmni Byw’n Iach, yn 2022/23 rhoddodd y Cyngor £550k o gefnogaeth ariannol i Byw'n Iach i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol wedi lleihau i £375k.

·         Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - rhagwelir gorwariant o bron i filiwn gan yr adran, gyda lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sy’n cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau priffyrdd. Yng nghyd-destun maes bwrdeistrefol gwelwyd cyfuniad o resymau, oedd yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus. Nodwyd hefyd bod colledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus, ond cynnydd mewn incwm gan y gwasanaethau profedigaeth sydd yn lleihau'r gorwariant.

·         Adran Amgylchedd – bod y tuedd blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau. Nodwyd bod hyn yn gyfuniad o gylchdeithiau ychwanegol sydd wedi arwain at orwariant ar gostau cyflogaeth a chostau fflyd, lefelau salwch a goramser ynghyd a chostau ychwanegol mewn llogi cerbydau.

·         Tai ac Eiddo – bod tuedd o weld pwysau sylweddol ar wasanaethau llety dros dro digartrefedd yn parhau i fod yn ddwys iawn; eleni dyrannwyd £3m o Bremiwm Treth Cyngor ynghyd â dyraniad un-tro £1.4m o ddarpariaeth covid corfforaethol i gyfarch y costau ychwanegol.

·         Corfforaethol - bod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2023/24 a lleihad yn y niferoedd sydd wedi hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Effaith y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog wedi arwain at dderbyniad llog gwerth £1.8 miliwn ychwanegol ac effaith y polisi rheolaeth trysorlys presennol wedi golygu bod modd osgoi benthyca yn allanol. Ategwyd bod tanwariant ar gyllidebau eraill yn cynorthwyo i leddfu’r pwysau ychwanegol a ragwelwyd. (Bydd y cynnydd cenedlaethol i gyflogau gweithwyr Llywodraeth Leol i’w gadarnhau eto).

·         Rhagwelir y bydd  rhaid gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido’r bwlch ariannol o £5.9 miliwn am 2023/24.

 

Nodwyd dymuniad yr Aelod Cabinet Cyllid i’r Pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau ac argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r adroddiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen i’r Cabinet edrych ar gynllun gweithredu penodol yr Adran Addysg i ymdrin â materion trafnidiaeth. Er yn derbyn bod chwyddiant a chostau ail dendro diweddar o £833,000 wedi ychwanegu at y broblem, bod y broblem yn un hanesyddol ac angen cynllun arloesol i’w symud ymlaen.

·         Bod angen datrys problemau ailgylchu

·         Bod angen ystyried dull o godi ffi ar y gwasanaeth Airbnb i godi incwm i’r Cyngor

·         Angen ystyried y risg bod lleihad mewn niferoedd disgyblion yn ysgolion Gwynedd a hyn felly yn arwain at leihad mewn cyllid i’r dyfodol

·         Angen sicrhau bod arian premiwm ailgartrefi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth digartref yn unig

 

PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

2.    Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet:

·         Drosglwyddo £3.275k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor

·         Bod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr  i gael gwell dealltwriaeth o orwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant yn gosod rhaglen glir i ymateb i’r sefyllfa

 

Nodyn: bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd

 

Dogfennau ategol: