Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau.
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion
yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2024.
Angorfeydd a Chofrestru Cychod
·
Esboniwyd bod 73 o gychod
wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi yn 2023 a bod hyn yn
gynnydd o un cwch o’i gymharu â’r
nifer yn 2022. Gobeithir y bydd y cynnydd yma’n parhau yn 2024 ond bod y
sefyllfa economaidd gyffredinol ac yn benodol, yr argyfwng costau byw
presennol, yn parhau i fod yn ffactor wrth geisio denu cwsmeriaid i’r harbwr.
·
Nodwyd bod y mwyafrif o aelodau’r cyhoedd sy’n
dymuno lansio cychod pŵer i ddyfroedd arfordir Gwynedd bellach yn
cofrestru eu cychod pŵer ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd a bod 1269 o gychod pŵer a 1240 o fadau dŵr personol wedi’u
cofrestru yng Ngwynedd y tymor hwn.
Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
·
Eglurwyd bod y Cod Diogelwch Morol
Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu’r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o
ddiogelwch morol porthladdoedd ac mai ei nod yw gwella diogelwch i bawb sy’n
defnyddio neu’n gweithio yn amgylchedd morol porthladdoedd.
·
Nodwyd
bod y Gwasanaeth yn adolygu’r Cod yn rheolaidd ar gyfer yr harbyrau
sydd o dan ei awdurdodaeth er mwyn sicrhau bod cydymffurfiaeth lawn gyda
gofynion presennol y Cod.
·
Atgoffwyd ei bod hi’n hanfodol, fel rhan o’r
broses adolygu, bod y Gwasanaeth yn derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor
Ymgynghorol am ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol.
·
Cyfeiriwyd at ddigwyddiad ar yr aber ym mis
Mawrth oedd yn ymwneud â
thri bad dŵr
personol a chwch pŵer. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda'r
heddlu ar yr ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad a bod hyn mewn perthynas â throseddau posib a ddatgelwyd o dan
ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn ddiweddar, y Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023.
·
Mynegwyd
pryder am unigolion sy’n mynd allan ar y dŵr heb dystysgrif na
hyfforddiant priodol. Holwyd a oes modd i’r harbwr feistr ofyn i weld
tystiolaeth o dystysgrif pobl cyn gadael iddynt fynd ar y dŵr?
o
Mewn
ymateb, eglurwyd nad oes gan yr Harbwrfeistr unrhyw
bŵer statudol i orfodi pobl i ddangos eu tystysgrif na’u dogfennau
yswiriant.
o
Nodwyd bod nifer o bobl yn mynychu
hyfforddiant a bod y swyddogion yn swyddfa’r Harbwr yn rhagweithiol wrth annog
pobl i fynd ar gyrsiau hyfforddi a bod cynnydd wedi’i weld yn y nifer o bobl
sy’n mynd ar gyrsiau hyfforddi.
·
Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi a oedd
modd cael y pwerau statudol angenrheidiol i allu gorfodi gweld tystysgrifau,
eglurwyd bod y pwerau ar gyfer hyn wedi’u lleoli yn San Steffan.
o
Serch hyn, eglurwyd bod rheoliadau newydd
wedi’u cyflwyno a bod ‘jet ski’ bellach yn disgyn o
dan y diffiniad o ‘fad’ neu ‘gwch’. Nodwyd bod hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir.
o
Esboniwyd bod gan y Cyngor reoliadau mewnol
hefyd a bod pob unigolyn sy’n cofrestru gyda’r Cyngor yn derbyn copi o’r rhain.
Nodwyd bod y mwyafrif o unigolion yn ufuddhau i’r rheoliadau.
o
Nodwyd bod y Cyngor yn gwneud popeth y
gallent o fewn eu pwerau presennol ac y byddent yn parhau i drafod gyda
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig tan y bydd tynhau pellach ar y
gofynion.
·
Holwyd sut y mae posib monitro gweithgaredd y bobl sy’n lansio ar ôl i’r
wardeiniaid traeth a’r swyddogion adael ar ddiwedd y diwrnod gwaith neu bobl
sy’n lansio o draethau cyfagos?
o
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod pobl yn sicr yn dod o ardaloedd
eraill a bod y llithrfa ar agor y tu allan i oriau gwaith. Cadarnhawyd nad oes
posib eu goruchwylio tu allan i oriau gwaith.
o
Canmolwyd gwaith y swyddogion ar y traethau sy’n rhagweithiol wrth ofyn
i bobl os ydynt wedi cofrestru ayyb a bod hyn yn ffordd ddefnyddiol o ddal
unrhyw unigolion sydd ddim yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.
o
Nodwyd
bod y system ar lein yn golygu bod pobl yn gallu cofrestru cyn ymweld â’r safle
rŵan.
Materion Staffio
·
Nodwyd nad yw’r lefel staffio yn Harbwr
Aberdyfi wedi newid ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor a bod yr Harbwrfeistr, William Stockford, yn parhau i gael ei
gefnogi gan ei gymhorthydd, Oli Simmons.
·
Eglurwyd bod staff yr harbwr wedi cynorthwyo
a chydweithio gyda staff yn Nhywyn, Harbwr Abermaw ac ar y traeth ym Morfa
Bychan yn ystod yr haf.
·
Diolchwyd i’r wardeiniaid staff tymhorol fu’n
gweithio yn Aberdyfi a Thywyn am eu gwaith caled dros yr haf.
Materion Ariannol
·
Nodwyd
bod yr ystadegau a nodwyd yn y tabl ar dudalen 14 o’r rhaglen yn seiliedig ar
adolygiad gydag Adran Cyllid y Cyngor. Eglurwyd bod yr adolygiad wedi’i gynnal
ddiwedd Awst ac felly bod 5 mis o wir-wariant a gwariant wedi’i broffwydo ar
gyfer gweddill y cyfnod hyd at Fawrth 2024.
·
Eglurwyd
bod y ffigyrau o ran yr incwm yn ei gyfanrwydd yn galonogol ond y bod modd i
hyn newid yn sylweddol gan ei bod hi’n anodd rhagweld beth y gallai ddigwydd
rhwng rŵan a diwedd mis Mawrth. Nodwyd bod posib i gostau annisgwyl godi,
yn enwedig os ceir tywydd garw dros y gaeaf.
Ffioedd a Thaliadau 2024/25
·
Nodwyd nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i
wneud hyd yma ar lefel y ffioedd ar gyfer y tymor nesaf.
Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r
materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis
Mawrth a Hydref 2023, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Materion Mordwyo
·
Nodwyd bod y sianel fordwyo i Harbwr Aberdyfi
wedi bod yn cael ei monitro gan staff yr harbwr dros yr haf. Mae’r sianel yn ddeinamig
ei natur ac felly mae’n rhaid i staff yr harbwr gynnal arolygon rheolaidd ar yr
afon i bennu i ba raddau y mae’r banciau tywod yn symud.
·
Eglurwyd bod archwiliad blynyddol o’r
cymhorthion mordwyo wedi’i gynnal yn Harbwr Aberdyfi gan yr Awdurdod Goleudai
Cyffredinol, Trinity House,
ar yr 11eg o Hydref 2023, a’u bod yn hapus bod y cymhorthion mordwyo yn
briodol. Nodwyd bod bwi marciwr arbennig melyn yn cael ei osod ymhen wythnos.
·
Ategwyd
y dylai morwyr gysylltu gyda swyddfa’r harbwr cyn dod i mewn neu adael yr
harbwr ac i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a mordwyo. Nodwyd y
byddai newidiadau i unrhyw gymorthfeydd mordwyo yn cael eu cylchredeg drwy
Hysbysiad Lleol i Forwyr.
Materion Gweithredol
·
Esboniwyd bod y gwaith o adeiladu’r glan cei newydd
fwy neu lai wedi’i gwblhau ac mai dim ond ychydig o waith adferol sydd ar ôl
i’w wneud bellach.
·
Nodwyd y
byddai pâr o giatiau yn cael eu gosod ar draws y fynedfa i lanfa’r harbwr ac y
byddai hyn yn gwella diogelwch y cyhoedd pan fydd gwaith pysgota yn digwydd yn
y lleoliad hwnnw.
·
Mynegwyd pryder am gyflwr strwythurol adeilad
swyddfa’r harbwr a bod Adran Eiddo’r Cyngor yn ymwybodol o’r mater. Nodwyd eu
bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ond bod y Gwasanaeth yn edrych ar ail-leoli
staff yr harbwr i eiddo dros dro fel mesur interim, hyd nes y gwneir
penderfyniad ar ddyfodol yr adeilad.
Cynnal a Chadw
·
Nodwyd bod gwaith cynnal a chadw wedi’i
gwblhau ac offer newydd wedi’i ddarparu ar gyfer yr angorfeydd a bod
contractwyr angorfeydd lleol wedi gosod yr angorfeydd.
·
Eglurwyd
bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gwblhau ar injans cwch patrolio Powercat yr harbwr cyn dechrau’r tymor prysur a bod y
gwaith hwn hefyd wedi’i wneud gan gwmni lleol o Wynedd. Nodwyd bod y cwch yn
parhau i berfformio’n effeithlon ac y byddai archwiliadau blynyddol yn cael ei
chynnal arni er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio gyda gofynion morio’r
Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau, yng nghyd-destun safonau adeiladwaith a
chyfarpar y cwch.
·
Nodwyd bod staff yr harbwr wedi dechrau ar waith
cynnal a chadw ar y meinciau eistedd. Eglurwyd eu bod yn chwilio am unigolion
sydd â chysylltiadau morwrol i
Aberdyfi er mwyn eu coffáu ar y meinciau ac anogwyd yr Aelodau i gysylltu â staff yr harbwr os oes ganddynt unrhyw
awgrymiadau addas.
Materion Eraill
·
Diolchwyd i’r rhanddeiliaid lleol am eu
hymdrechion wrth dreialu cyfarpar i gael gwared ar gasgliad mawr o dywod oedd
wedi ymgasglu ar y llithrfa gerllaw Clwb Hwylio Dyfi a gorsaf y Bad Achub.
Nodwyd y byddai’r broses yn parhau ac o bosib yn cael ei hadolygu.
·
Nodwyd
bod y Gwasanaeth yn parhau i obeithio y gellir darparu gwasanaethau trydan a
dŵr yng nghompownd yr harbwr er mwyn cynorthwyo
pysgotwyr lleol.
·
Atgoffwyd
bod y carcasau anifeiliaid sy’n golchi i’r lan ar y
blaendraeth yn parhau i arwain at sawl diwrnod o waith ymatebol gan staff yr
harbwr. Gofynnwyd i bobl roi gwybod cyn gynted â phosib os gwelant garcas, fel bod modd cymryd y camau angenrheidiol ar
unwaith.
Digwyddiadau
·
Nodwyd
bod nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal yn yr harbwr dros yr haf, gan gynnwys:
o
Digwyddiadau nofio
o
Digwyddiadau hwylio gan Glwb Hwylio Dyfi
o
Digwyddiad hwylio cenedlaethol y Noble Marine Allen RS 3000
o
Digwyddiad rhwyfo gan Glwb Rhwyfo Dyfi
o
Dyfi Fest
·
Diolchwyd
i staff yr Harbwr am eu gwaith a’r gefnogaeth sydd wedi’i ddarparu dros y
flwyddyn ddiwethaf ac ategwyd bod perthynas waith da rhwng y rhanddeiliaid a
staff yr harbwr.
` Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a
Chymuned
·
Darparodd y Rheolwr Morwrol grynodeb o’r
ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a
Chymuned.
·
Nodwyd nad oes gostyngiad wedi bod yn y nifer
o gwsmeriaid ar angorfeydd harbyrau Gwynedd ond nad
yw’r sefyllfa yn ôl i ffigyrau 2021 eto. Gobeithir y bydd y niferoedd yn
cynyddu dros y flwyddyn nesaf.
·
Eglurwyd bod arwyddion gyda ‘QR Codes’ wedi’u
gosod o amgylch yr harbyrau er mwyn ceisio canfod
barn defnyddwyr – nodwyd bod 89% o ymatebwyr wedi nodi bod harbyrau
Gwynedd yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn. Anogwyd pobl i lenwi’r holiaduron er mwyn i’r
Gwasanaeth allu deall y prif bryderon/rhwystredigaethau sy’n gysylltiedig â’r harbyrau.
·
Holwyd faint o le sydd yna i gychod ar yr afon a mynegwyd pryder bod llawer mwy o dywod
yn yr afon sy’n golygu llai o le i’r cychod.
o
Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn dasg y
byddai’n rhaid i’r Harbwrfeistr a’r Contractwr
Angorfa ei drafod ond eu bod yn parhau i fonitro’r sianel yn rheolaidd.
o
Nododd y Rheolwr Morwrol bod y Gwasanaeth yn
bwriadu prynu drôn yn yr wythnosau nesaf gyda’r gobaith y bydd yn ddefnyddiol
er mwyn monitro cwrs y sianel a gweld ble mae banciau tywod.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: