Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2024.

 

Angorfeydd a Chofrestru Cychod

 

·        Esboniwyd bod 73 o gychod wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi yn 2023 a bod hyn yn gynnydd o un cwch o’i gymharu â’r nifer yn 2022. Gobeithir y bydd y cynnydd yma’n parhau yn 2024 ond bod y sefyllfa economaidd gyffredinol ac yn benodol, yr argyfwng costau byw presennol, yn parhau i fod yn ffactor wrth geisio denu cwsmeriaid i’r harbwr.

·        Nodwyd bod y mwyafrif o aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno lansio cychod pŵer i ddyfroedd arfordir Gwynedd bellach yn cofrestru eu cychod pŵer ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd a bod 1269 o gychod pŵer a 1240 o fadau dŵr personol wedi’u cofrestru yng Ngwynedd y tymor hwn.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

·        Eglurwyd bod y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu’r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol porthladdoedd ac mai ei nod yw gwella diogelwch i bawb sy’n defnyddio neu’n gweithio yn amgylchedd morol porthladdoedd.

·        Nodwyd bod y Gwasanaeth yn adolygu’r Cod yn rheolaidd ar gyfer yr harbyrau sydd o dan ei awdurdodaeth er mwyn sicrhau bod cydymffurfiaeth lawn gyda gofynion presennol y Cod.

·        Atgoffwyd ei bod hi’n hanfodol, fel rhan o’r broses adolygu, bod y Gwasanaeth yn derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol am ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol.

 

·        Cyfeiriwyd at ddigwyddiad ar yr aber ym mis Mawrth oedd yn ymwneud â thri bad dŵr personol a chwch pŵer. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda'r heddlu ar yr ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad a bod hyn mewn perthynas â throseddau posib a ddatgelwyd o dan ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn ddiweddar, y Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023.

·        Mynegwyd pryder am unigolion sy’n mynd allan ar y dŵr heb dystysgrif na hyfforddiant priodol. Holwyd a oes modd i’r harbwr feistr ofyn i weld tystiolaeth o dystysgrif pobl cyn gadael iddynt fynd ar y dŵr?

o   Mewn ymateb, eglurwyd nad oes gan yr Harbwrfeistr unrhyw bŵer statudol i orfodi pobl i ddangos eu tystysgrif na’u dogfennau yswiriant.

o   Nodwyd bod nifer o bobl yn mynychu hyfforddiant a bod y swyddogion yn swyddfa’r Harbwr yn rhagweithiol wrth annog pobl i fynd ar gyrsiau hyfforddi a bod cynnydd wedi’i weld yn y nifer o bobl sy’n mynd ar gyrsiau hyfforddi.

·        Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi a oedd modd cael y pwerau statudol angenrheidiol i allu gorfodi gweld tystysgrifau, eglurwyd bod y pwerau ar gyfer hyn wedi’u lleoli yn San Steffan.

o   Serch hyn, eglurwyd bod rheoliadau newydd wedi’u cyflwyno a bod ‘jet ski’ bellach yn disgyn o dan y diffiniad o ‘fad’ neu ‘gwch’. Nodwyd bod hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir.

o   Esboniwyd bod gan y Cyngor reoliadau mewnol hefyd a bod pob unigolyn sy’n cofrestru gyda’r Cyngor yn derbyn copi o’r rhain. Nodwyd bod y mwyafrif o unigolion yn ufuddhau i’r rheoliadau.

o   Nodwyd bod y Cyngor yn gwneud popeth y gallent o fewn eu pwerau presennol ac y byddent yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig tan y bydd tynhau pellach ar y gofynion.

·        Holwyd sut y mae posib monitro gweithgaredd y bobl sy’n lansio ar ôl i’r wardeiniaid traeth a’r swyddogion adael ar ddiwedd y diwrnod gwaith neu bobl sy’n lansio o draethau cyfagos?

o   Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod pobl yn sicr yn dod o ardaloedd eraill a bod y llithrfa ar agor y tu allan i oriau gwaith. Cadarnhawyd nad oes posib eu goruchwylio tu allan i oriau gwaith.

o   Canmolwyd gwaith y swyddogion ar y traethau sy’n rhagweithiol wrth ofyn i bobl os ydynt wedi cofrestru ayyb a bod hyn yn ffordd ddefnyddiol o ddal unrhyw unigolion sydd ddim yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.

o   Nodwyd bod y system ar lein yn golygu bod pobl yn gallu cofrestru cyn ymweld â’r safle rŵan.

 

Materion Staffio

 

·        Nodwyd nad yw’r lefel staffio yn Harbwr Aberdyfi wedi newid ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor a bod yr Harbwrfeistr, William Stockford, yn parhau i gael ei gefnogi gan ei gymhorthydd, Oli Simmons.

·        Eglurwyd bod staff yr harbwr wedi cynorthwyo a chydweithio gyda staff yn Nhywyn, Harbwr Abermaw ac ar y traeth ym Morfa Bychan yn ystod yr haf.

·        Diolchwyd i’r wardeiniaid staff tymhorol fu’n gweithio yn Aberdyfi a Thywyn am eu gwaith caled dros yr haf.

 

Materion Ariannol

 

·        Nodwyd bod yr ystadegau a nodwyd yn y tabl ar dudalen 14 o’r rhaglen yn seiliedig ar adolygiad gydag Adran Cyllid y Cyngor. Eglurwyd bod yr adolygiad wedi’i gynnal ddiwedd Awst ac felly bod 5 mis o wir-wariant a gwariant wedi’i broffwydo ar gyfer gweddill y cyfnod hyd at Fawrth 2024.

·        Eglurwyd bod y ffigyrau o ran yr incwm yn ei gyfanrwydd yn galonogol ond y bod modd i hyn newid yn sylweddol gan ei bod hi’n anodd rhagweld beth y gallai ddigwydd rhwng rŵan a diwedd mis Mawrth. Nodwyd bod posib i gostau annisgwyl godi, yn enwedig os ceir tywydd garw dros y gaeaf.

 

Ffioedd a Thaliadau 2024/25

 

·        Nodwyd nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yma ar lefel y ffioedd ar gyfer y tymor nesaf.

 

 

Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a Hydref 2023, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Materion Mordwyo

 

·        Nodwyd bod y sianel fordwyo i Harbwr Aberdyfi wedi bod yn cael ei monitro gan staff yr harbwr dros yr haf. Mae’r sianel yn ddeinamig ei natur ac felly mae’n rhaid i staff yr harbwr gynnal arolygon rheolaidd ar yr afon i bennu i ba raddau y mae’r banciau tywod yn symud.

·        Eglurwyd bod archwiliad blynyddol o’r cymhorthion mordwyo wedi’i gynnal yn Harbwr Aberdyfi gan yr Awdurdod Goleudai Cyffredinol, Trinity House, ar yr 11eg o Hydref 2023, a’u bod yn hapus bod y cymhorthion mordwyo yn briodol. Nodwyd bod bwi marciwr arbennig melyn yn cael ei osod ymhen wythnos.

·        Ategwyd y dylai morwyr gysylltu gyda swyddfa’r harbwr cyn dod i mewn neu adael yr harbwr ac i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a mordwyo. Nodwyd y byddai newidiadau i unrhyw gymorthfeydd mordwyo yn cael eu cylchredeg drwy Hysbysiad Lleol i Forwyr.

 

Materion Gweithredol

 

·        Esboniwyd bod y gwaith o adeiladu’r glan cei newydd fwy neu lai wedi’i gwblhau ac mai dim ond ychydig o waith adferol sydd ar ôl i’w wneud bellach.

·        Nodwyd y byddai pâr o giatiau yn cael eu gosod ar draws y fynedfa i lanfa’r harbwr ac y byddai hyn yn gwella diogelwch y cyhoedd pan fydd gwaith pysgota yn digwydd yn y lleoliad hwnnw.

·        Mynegwyd pryder am gyflwr strwythurol adeilad swyddfa’r harbwr a bod Adran Eiddo’r Cyngor yn ymwybodol o’r mater. Nodwyd eu bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ond bod y Gwasanaeth yn edrych ar ail-leoli staff yr harbwr i eiddo dros dro fel mesur interim, hyd nes y gwneir penderfyniad ar ddyfodol yr adeilad.

 

Cynnal a Chadw

 

·        Nodwyd bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gwblhau ac offer newydd wedi’i ddarparu ar gyfer yr angorfeydd a bod contractwyr angorfeydd lleol wedi gosod yr angorfeydd.

·        Eglurwyd bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gwblhau ar injans cwch patrolio Powercat yr harbwr cyn dechrau’r tymor prysur a bod y gwaith hwn hefyd wedi’i wneud gan gwmni lleol o Wynedd. Nodwyd bod y cwch yn parhau i berfformio’n effeithlon ac y byddai archwiliadau blynyddol yn cael ei chynnal arni er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio gyda gofynion morio’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau, yng nghyd-destun safonau adeiladwaith a chyfarpar y cwch.

·        Nodwyd bod staff yr harbwr wedi dechrau ar waith cynnal a chadw ar y meinciau eistedd. Eglurwyd eu bod yn chwilio am unigolion sydd â chysylltiadau morwrol i Aberdyfi er mwyn eu coffáu ar y meinciau ac anogwyd yr Aelodau i gysylltu â staff yr harbwr os oes ganddynt unrhyw awgrymiadau addas.

 

 

Materion Eraill

 

·        Diolchwyd i’r rhanddeiliaid lleol am eu hymdrechion wrth dreialu cyfarpar i gael gwared ar gasgliad mawr o dywod oedd wedi ymgasglu ar y llithrfa gerllaw Clwb Hwylio Dyfi a gorsaf y Bad Achub. Nodwyd y byddai’r broses yn parhau ac o bosib yn cael ei hadolygu.

·        Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i obeithio y gellir darparu gwasanaethau trydan a dŵr yng nghompownd yr harbwr er mwyn cynorthwyo pysgotwyr lleol.

·        Atgoffwyd bod y carcasau anifeiliaid sy’n golchi i’r lan ar y blaendraeth yn parhau i arwain at sawl diwrnod o waith ymatebol gan staff yr harbwr. Gofynnwyd i bobl roi gwybod cyn gynted â phosib os gwelant garcas, fel bod modd cymryd y camau angenrheidiol ar unwaith.

 

 

 

Digwyddiadau

 

·        Nodwyd bod nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal yn yr harbwr dros yr haf, gan gynnwys:

o   Digwyddiadau nofio

o   Digwyddiadau hwylio gan Glwb Hwylio Dyfi

o   Digwyddiad hwylio cenedlaethol y Noble Marine Allen RS 3000

o   Digwyddiad rhwyfo gan Glwb Rhwyfo Dyfi

o   Dyfi Fest

·        Diolchwyd i staff yr Harbwr am eu gwaith a’r gefnogaeth sydd wedi’i ddarparu dros y flwyddyn ddiwethaf ac ategwyd bod perthynas waith da rhwng y rhanddeiliaid a staff yr harbwr.

 

`           Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a Chymuned

 

·        Darparodd y Rheolwr Morwrol grynodeb o’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a Chymuned.

·        Nodwyd nad oes gostyngiad wedi bod yn y nifer o gwsmeriaid ar angorfeydd harbyrau Gwynedd ond nad yw’r sefyllfa yn ôl i ffigyrau 2021 eto. Gobeithir y bydd y niferoedd yn cynyddu dros y flwyddyn nesaf.

·        Eglurwyd bod arwyddion gyda ‘QR Codes’ wedi’u gosod o amgylch yr harbyrau er mwyn ceisio canfod barn defnyddwyr – nodwyd bod 89% o ymatebwyr wedi nodi bod harbyrau Gwynedd yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn. Anogwyd pobl i lenwi’r holiaduron er mwyn i’r Gwasanaeth allu deall y prif bryderon/rhwystredigaethau sy’n gysylltiedig â’r harbyrau.

 

·        Holwyd faint o le sydd yna i gychod ar yr afon a mynegwyd pryder bod llawer mwy o dywod yn yr afon sy’n golygu llai o le i’r cychod.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn dasg y byddai’n rhaid i’r Harbwrfeistr a’r Contractwr Angorfa ei drafod ond eu bod yn parhau i fonitro’r sianel yn rheolaidd.

o   Nododd y Rheolwr Morwrol bod y Gwasanaeth yn bwriadu prynu drôn yn yr wythnosau nesaf gyda’r gobaith y bydd yn ddefnyddiol er mwyn monitro cwrs y sianel a gweld ble mae banciau tywod.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: