Agenda item

I ystyried a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC erbyn hyn - Gwynedd ymysg yr uchaf yn y gronfa.

 

Tynnwyd sylw at y cronfeydd ecwiti gan gyfeirio at berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Atgoffwyd yr Aelodau bod y gronfa yma, yn y blynyddoedd cynnar, yn perfformio yn dda iawn, a hynny yn bennaf oherwydd perfformiad Baillie Gifford. Bellach, amlygwyd bod Baillie Gifford yn tan berfformio a hynny yn bennaf oherwydd natur eu buddsoddiadau a’u perfformiad yn un ‘cylchol’ (weithiau yn dda, a thro arall ddim cystal). Ategwyd bod y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl a bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Bartneriaeth ac ymgynghorwyr y Bartneriaeth, Hymans Robertson.

 

Yng nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cynnwys wyth rheolwr sylfaenol ar er na fydd pob rheolwr yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir, ond bod y 3 mis diwethaf wedi bod yn heriol.

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased sydd â phum rheolwr buddsoddi gwahanol. Adroddwyd bod y gronfa wedi tan - berfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda rhyfel Wcráin, cyfyngiadau covid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym. Ategwyd, er pryderon bod y gronfa wedi bod drwy gyfnod heriol, ymrwymiad buddsoddi tymor hir sydd yma ac felly parhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith o brofi cynnydd ar ddiwedd yr ansefydlogrwydd yw’r nod.

 

Wrth drafod Cronfa Enillion Bond Absoliwt, sydd â phedwar rheolwr buddsoddi, amlygwyd bod yr amodau yn y maes yma hefyd wedi bod yn heriol gydag effaith chwyddiant a chyfraddau llog, ond eto, yr ymrwymiad yn un tymor hir ac felly parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr amodau yn gwella.

 

Adroddwyd bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn heriol iawn ac mai Bin Yuan oedd wedi achosi’r elfen o dan berfformiad a hynny oherwydd polisi dim covid Tsiena. Ategwyd mai’r gobaith yw gweld gwellhad yn amodau’r farchnad a gwell dychweliadau.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat. Ategwyd bod buddsoddiadau dyled preifat ac ecwiti preifat eisoes wedi dechrau a bod swyddogion yn y broses o arwyddo’r dogfennau cronfa ecwiti preifat. Y bwriad yw bod Cronfa Gwynedd yn gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Nodwyd bod trafodaethau cychwynnol hefyd wedi dechrau mewn perthynas â’r dosbarth asedau eiddo gyda’r broses caffael yn digwydd o fewn y flwyddyn nesaf.

 

Yng nghyd-destun Cronfa Ecwiti Cynaliadwy sef cronfa a grëwyd gan Russell Investments ar ôl asesu anghenion buddsoddi cyfrifol y pwl, amlygwyd bod £270 miliwn, sef 10% o’r Gronfa wedi ei fuddsoddi yn y gronfa yma, ac y bydd y perfformiad yn cael ei fonitro yn rheolaidd.

 

Cyfeiriwyd at Ddychweliad Blynyddol y pwl, ac at wefan PPC lle mae nifer o ddogfennau defnyddiol. Amlygwyd hefyd y ffioedd sylweddol sydd yn cael eu talu i redeg y pwl ac eglurwyd bod y rhain yn cael ei rhannu’n hafal gyda chronfeydd eraill y bartneriaeth (oni bai bod gwaith penodol wedi cael ei wneud i un gronfa) - y ffioedd yn cynnwys costau pwysig megis ymgynghorwyr, cyfreithwyr, gwaith cyfieithu, gwaith darparwr pleidleisio ac ymgysylltu.

 

O ran diweddariad am y gweithredwr, adroddwyd bod pryniant o Link wedi ei wneud i Waystone ar y 9fed o Hydref ac na fyddai hyn yn cael effaith ar sut mae’r cronfeydd yn cael eu rhedeg. Ategwyd bod y cytundeb presennol yn dod i ben yn 2024 ac un o’r tasgau cyntaf fydd cynnal proses caffael gweithredwr newydd. Bydd Gwahoddiad i Dendro yn cael ei gyhoeddi mis Hydref 2023.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Ategodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau ei fod yn hapus gyda pherfformiad y Gronfa ac o berfformiad PPC o gymharu â chronfeydd eraill yn y DU. Nododd y byddai buddsoddi mewn isadeiledd yn debygol o ddigwydd pan fydd y cyfle gorau yn amlygu ei hun, ond yn y cyfamser, nid oedd problemau i'w gweld ar y gorwel a bod y perfformiad yn dda. Nododd fod cynnydd yng ngwaith y Bartneriaeth yn dda a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith a’r cydweithrediad da.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ategol: