Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Digidol newydd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2023-28.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Digidol newydd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2023-28.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod cyfnod y Strategaeth Ddigidol blaenorol wedi dod i ben yn 2018 ac felly nid oes gan y Cyngor gynllun digidol ar hyn o bryd. Er hyn, atgoffwyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Adroddwyd bod nifer fawr o brosiectau wedi cael eu cynnwys o fewn y Cynllun Digidol a gyflwynir i’r Cabinet ac bod rhain yn brosiectau sy’n cymryd lle yn draws-adrannol er mwyn sicrhau adnodd safonol i bawb.

 

Esboniwyd bod Bwrdd Trawsnewid Digidol wedi cael ei ffurfio i gadw trosolwg ar gynnydd y rhaglen waith. Nodwyd mai Cadeirydd y Bwrdd yw’r Cyfarwyddwr Corfforaethol. Ymhelaethwyd bod 4 is grŵp wedi cael ei sefydlu gydag arweiniad gwahanol adrannau, gan gynnwys:

 

·       Is-grŵp Gwydnwch – a arweinir gan Gwyn Jones, Rheolwr Systemau Isadeiledd

·       Is-grŵp Cyswllt Cwsmer -  a arweinir gan Steffan Jones, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC

·       Is-grŵp Gwybodaeth a Data – a arweinir gan Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

·       Is-grŵp Gweinyddiaeth a Systemau Busnes – a arweinir gan Huw Ynyr, Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth a Chyllid

 

Sicrhawyd bod y blaenoriaethau a gyflwynir o fewn y cynllun yn cyd-fynd gyda’r hyn a gyflwynir o fewn Cynllun y Cyngor. Adroddwyd bod ystyriaethau cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a Hinsawdd wedi cael ei ystyried wrth lunio’r Cynllun.

 

Atgoffwyd bod yr eitem hon wedi cael ei gyflwyno ger bron Aelodau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac mae eu sylwadau wedi cael ystyriaeth cyn cyflwyno’r Cynllun i’r Cabinet.

 

Cadarnhawyd bod cyfanswm o 29 o brosiectau wedi cael eu cynnwys o fewn y cynllun a bod y rhain yn disgyn i mewn i’r pum maes blaenoriaeth fel trafodwyd isod:

 

1.    Cyswllt Cwsmer – soniwyd y cynlluniwyd i ddatblygu dulliau cyfathrebu yn sylweddol drwy ddatblygu’r wefan a systemau ffôn yn ogystal â gwneud defnydd o apiau megis Whatsapp a Messenger. Nodwyd yr angen i ddatblygu a hyrwyddo apGwynedd a’r ciosg fideo yn Siop Gwynedd ar y cyd gyda sicrhau cysondeb wrth dalu drwy beiriant am wasanaethau.

2.    Gwybodaeth a Data - eglurwyd bod nifer o adrannau a systemau gwahanol yn cadw data. Manylwyd bod nifer o’r systemau hyn yn cadw’r un math o wybodaeth. Nodwyd bod hyn yn gyfle i sicrhau nad ydi data yn wallus a'i fod yn cael ei storio mewn un lle, er mwyn sicrhau cywirdeb.

3.    Gweinyddiaeth a Systemau Busnes - manylwyd mai nod y maes blaenoriaeth hwn yw sicrhau bod gwasanaethau mewnol y Cyngor yn gweithredu yn effeithlon, gwella cynhwysiad digidol (drwy leihau’r defnydd o bapur) ac ymchwilio i sut ellir cyflwyno deallusrwydd artiffisial i’r Cyngor yn ofalus a llwyddiannus.

4.    Gweithlu - bwriedir cyflwyno cyfrif digidol i bob aelod o’r staff. Nodwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r staff dderbyn mynediad i nifer o bethau gan gynnwys hyfforddiant a slipiau cyflog. Eglurwyd mai tua thraean o holl weithlu’r Cyngor sy’n meddu a chyfrif digidol eu hunain ar hyn o bryd.

5.    Gwydnwch – mae’r maes hwn yn manylu ar gynlluniau i uwchraddio llinellau analog i ddigidol, sicrhau diogelwch digidol a pharhad gwasanaeth ym mhob sefyllfa. Eglurwyd hefyd bod cynlluniau i uwchraddio darpariaeth darlledu o fewn Siambrau’r Cyngor i barhau i gynnal cyfarfodydd aml-leoliad ac yn ddwyieithog.

 

Cydnabuwyd bod cyflwyno nifer o gynlluniau digidol newydd yn gallu peri pryder i rai pobl ond sicrhawyd bydd hyfforddiant a chyfleoedd yn cael eu cynnig i bawb er mwyn deall unrhyw system newydd a gyflwynir.

 

Nodwyd bod y Cyngor a nifer o sefydliadau eraill yn ddibynnol iawn ar gwmni ‘Microsoft’ er mwyn gallu cynnal gwasanaethau. Eglurwyd bod y Cyngor yn defnyddio systemau’r cwmni fel ‘Office’ ac ‘Outlook’ ond nodwyd hefyd bod systemau eraill megis WCCIS yn y maes gofal hefyd yn ddibynnol arno ac felly fe fyddai’n gostus i symud oddi wrth  gwmni Americanaidd yma.

 

Derbyniwyd bod deallusrwydd artiffisial yn ddiweddariad sy’n peri gofid i rai ond sicrhawyd byddai’r Cyngor yn gallu gwneud defnydd ohono, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ofalus. Cadarnhawyd bod llyfryn gwybodaeth yn cael ei ddylunio gan y llywodraeth er mwyn sicrhau bod defnydd cywir, priodol a diogel o’r dechnoleg yn cael ei ddefnyddio.

 

Awdur:Huw Ynyr: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid a Techoleg Gwybodaeth

Dogfennau ategol: