Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

1.    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2.    Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd eleni, ac yn wyneb y rhagolygon gorwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, cefnogwyd penderfyniad y Prif Weithredwr sydd eisoes wedi comisiynu gwaith i egluro manylder cymhleth yn y darlun yng ngofal Oedolion, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.    Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3,275k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2.    Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd eleni, ac yn wyneb y rhagolygon gorwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, cefnogwyd penderfyniad y Prif Weithredwr sydd eisoes wedi comisiynu gwaith i egluro manylder cymhleth yn y darlun yng ngofal Oedolion, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.    Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3,275k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Adroddwyd bod rhagolygon yr adolygiad yn awgrymu y bydd naw o’r deg Adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, gyda gorwariant sylweddol gan adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Addysg, Amgylchedd a Phriffyrdd, Peirianneg ac YGC.

 

Cadarnhawyd bod y prif faterion a meysydd i’w gweld o fewn Atodiad 2, a bod gwahaniaethau sylweddol. Manylwyd bod y prif faterion ar gyfer 2023/24 yn cynnwys:

 

·       Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - Nodwyd bod rhagolygon diweddaraf yn awgrymu bydd £6.6miliwn o orwariant o fewn yr Adran. Manylwyd bod hyn yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys pwysau ar lety cefnogol anabledd dysgu. Ymhelaethwyd bod costau staffio uwch a chyfraddau oriau digyswllt uchel o fewn y maes gofal cymdeithasol, sy’n cael; effaith negyddol ar yr incwm a adenillir. Eglurwyd bod ffioedd uwch gan ddarparwyr preifat yn ogystal â lleihad mewn cyfraniadau preswylwyr yn ffactor o fewn gwasanaethau pobl hŷn.

·       Adran Addysg - Amlygwyd bod pwysau cynyddol ar y gyllideb tacsis a bysiau ysgolion eleni yn arwain at orwariant rhagweladwy o £1.5m. Awgrymir fod angen gwaith ar y maes cludiant er mwyn ceisio lleihau’r gorwariant hwn a manteisio ar gyfleoedd effeithlonrwydd.

·       Byw’n Iach – Cadarnhawyd bod cefnogaeth ariannol i Gwmni Byw’n Iach wedi lleihau i £375k eleni. Eglurwyd bod hyn o’i gymharu gyda £550k a ddarparwyd i’r cwmni gan y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 oherwydd diffyg incwm i’r cwmni yn ystod pandemig Covid-19.

·       Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - Adroddwyd bod lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol yn arwain at orwariant o tua £1m o fewn y gwasanaethau priffyrdd. Nodwyd bod cyfuniad o heriau yn effeithio ar agweddau bwrdeistrefol yr adran gan gynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a thoiledau cyhoeddus yn ogystal â cholledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

·       Adran Amgylchedd - Nodwyd bod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau. Eglurwyd bod cylchdeithiau ychwanegol yn arwain at orwariant ar gostau cyflogaeth a chostau’r fflyd. Ymhelaethwyd bod hefyd costau ychwanegol wrth hurio cerbydau. Cydnabuwyd bod lefelau salwch ac oriau goramser yn broblem o fewn y gwasanaeth.

·       Adran Tai ac Eiddo – Nodwyd bod tueddiad dwys i roi pwysau sylweddol ar wasanaethau llety dros dro digartrefedd. Adroddwyd y dyrannwyd £3m o bremiwm treth cyngor ynghyd â dyraniad un-tro gwerth £1.4m o ddarpariaeth Covid corfforaethol i gyfarch y costau ychwanegol eleni.

·       Cyllidebau Corfforaethol – Esboniwyd bod effaith y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog wedi arwain at dderbyniad llog gwerth £1.8miliwn ychwanegol. Nodwyd bod tanwariant ar gyllidebau yn cynorthwyo i leddfu’r pwysau ychwanegol a ragwelir o ran y cynnydd cenedlaethol i gyflogau gweithwyr Llywodraeth Leol, sydd i’w gadarnhau yn fuan.

 

Cadarnhawyd y rhagwelir bydd angen gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido bwlch ariannol o £5.9m a ragwelir ar gyfer 2023/24.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad hwn wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor eu bod yn awyddus i’r Cabinet edrych ar gynllun gweithredu penodol i’r Adran Addysg ymdrin â materion trafnidiaeth, oherwydd natur hanesyddol y gorwariant. Ymhelaethwyd bod y Pwyllgor yn cynnig y dylid ystyried y risg bod lleihad mewn niferoedd disgyblion yn ysgolion Gwynedd yn gallu arwain at leihad mewn cyllid i’r dyfodol. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor hefyd i’r angen i ddatrys problemau gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu.

 

Nodwyd bod  effaith chwyddiant yn effeithio ar gyllideb ac nid yw hyn o fewn reolaeth y Cyngor. Ymhelaethodd y Prif Weithredwr bod galw ychwanegol am wasanaethau a llai o arian i’w cyflawni yn heriol a bod penderfyniadau anodd ar y ffordd. Cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn arwain ar faterion cludiant Adran Addysg a bod y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn arwain ar gynorthwyo Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i leihau eu gorwariant. Adroddwyd bod ceisiadau bidiau parhaol y Cyngor yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn fuan a bod cyfwerth â £9m o geisiadau wedi dod i law hyd yma ble mae cyllideb i ariannu £3m ohonynt.

 

Sicrhawyd bod swyddogion yn ymwybodol mai anghenion trigolion Gwynedd yw ffocws yr holl wasanaethau. Er hyn, cydnabuwyd bod angen edrych ar faterion ariannol yn gadarn er mwyn gallu datrys problemau gorwariant yn agored wrth lwyddo i gynnig gwasanaethau o’r safon eithaf.

Awdur:Ffion Madog Evans: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid

Dogfennau ategol: