Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
1. Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.
2. Cydnabuwyd bod y
sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion
hanesyddol gwerth £2,056,430 gan eu dileu o’r gyllideb.
3. Defnyddio’r
ddarpariaeth arbedion o £1,956,430 i ariannu dileu cynlluniau arbedion, ynghyd
â defnyddio £100,000 o bremiwm treth Cyngor ar gyfer y cynllun arbedion yn
ymwneud â’r maes Digartrefedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Atgoffwyd
roedd angen gweithredu gwerth £7.6miliwn o arbedion yn ystod 2023/24 er mwyn
cau’r bwlch ariannol eleni. Manylwyd bod hyn yn gyfuniad o oddeutu miliwn a
oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion o £1.1miliwn ar gyfer ysgolion,
£3miliwn ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4miliwn drwy adolygu polisi ad-dalu
dyled cyfalaf Cyngor.
Cydnabuwyd
bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd. Nodwyd bod hyn i weld
amlycaf o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes Gwastraff.
Adroddwyd bod adolygiadau o holl gynlluniau hanesyddol wedi cael ei gynnal ym
mis Gorffennaf 2023, gan lunio rhaglen i ddileu gwerth £2miliwn o gynlluniau oedd
â risgiau sylweddol i gyflawni oherwydd eu bod bellach yn anghyraeddadwy.
Manylwyd bod y rhain yn cynnwys:
·
£1.5miliwn yn yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant
·
£335k yn yr Adran Amgylchedd
·
£133k yn yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC
·
£100k yn y maes tai.
Adroddwyd
bod 98% o holl gynlluniau arbedion hanesyddol rhwng y blynyddoedd ariannol
2015/16 hyd at 2023/24 wedi cael eu gwireddu a bod hyn gyfwerth â £33.7miliwn.
Cyfeiriwyd
at y cynlluniau arbedion newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn
ariannol gyfredol. Cadarnhawyd bod 81% o’r arbedion hynny eisoes wedi eu
gwireddu a bod 6% pellach ar drac i’w cyflawni’n amserol. Cydnabuwyd bod
ychydig o oediad i wireddu gwerth £700k o’r cynlluniau arbedion ond ni ragwelir
problem i’w gwireddu. Manylwyd bod £539k o’r ffigwr hwn yn cynnwys arbedion gan
ysgolion a nodwyd bod yr arbediad hwn yn llithro gan fod ysgolion yn gweithio
ar flwyddyn academaidd ac felly bydd yr arbedion yn cael eu gwireddu yn y
flwyddyn ariannol nesaf.
Trafodwyd
gwerth y cynlluniau arbedion sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2024/25.
Pwysleisiwyd bod cynlluniau pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 dan
ystyriaeth y Cyngor a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn fuan.
Adroddwyd
y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12 Hydref a
darparwyd crynodeb o sylwadau’r Pwyllgor, gan gynnwys:
·
Nodwyd llwyddiant o wireddu 96% o’r arbedion.
Cydnabuwyd bod ffocws yn cael ei roi ar gynlluniau sydd heb eu gwireddu.
·
Pryderwyd am batrwm hanesyddol cyson o
orwario o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Manylwyd bod methiant i
wireddu arbedion mewn 10 cynllun o fewn yr Adran ac nid oes rhesymau wedi cael
ei gyflwyno i egluro’r gorwariant hwn. Awgrymwyd penodi Rheolwr Prosiect ar
gyfer rhai o’r cynlluniau arbedion a sicrhau tynhau trefniadau ar gyfer y
dyfodol.
·
Awgrymwyd y dylid ystyried rhoi sylw allanol
i’r cynlluniau arbedion, gan adnabod arbenigwr i edrych yn fanylach ar
sefyllfa’r Cyngor.
·
Teimlwyd nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn
gwybodaeth ddigonol wrth gyflwyno cynigion yn wreiddiol. Nodwyd y buasai’r
Pwyllgor yn elwa o wybodaeth ychwanegol yn sgil y ddyletswydd i herio
penderfyniadau yn drylwyr.
·
Llongyfarchwyd y swyddogion am lwyddo i
gyflawni 95.6% o arbedion.
Diolchwyd
i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu sylwadau a thynnwyd sylw at hawl
unrhyw Gynghorydd sy’n mynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adrannau, i
herio sefyllfa ariannol yr adran. Nodwyd ei fod yn hanfodol i’r Cynghorwyr bod
yn gwneud hynny’n rheolaidd.
Awdur:Ffion Madog Evans: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid
Dogfennau ategol: