Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

a.    Cymeradwywyd yn derfynol y cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024.

 

b.    Cymeradwywyd trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.

 

c.     Caniatawyd cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu fel ysgol dalgylch i blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

a.    Cymeradwywyd yn derfynol y cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024.

 

b.    Cymeradwywyd trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.

 

c.     Caniatawyd cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu fel ysgol dalgylch i blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau mai Ysgol Felinwnda yw’r ysgol leiaf o fewn y sir yn dilyn CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddoedd ar Lefel Disgyblion) Ionawr 2023, gydag 8 disgybl yn unig yn mynychu’r ysgol. Manylwyd bod eitem wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 er mwyn derbyn caniatâd i gyhoeddi rhybudd statudol o’r bwriad i gynnal ymgynghoriad i gau’r ysgol.

 

Adroddwyd bod cyfnod gwrthwynebu wedi cael ei gynnal rhwng 5 Medi a 4 Hydref ac bod 4 gwrthwynebiad i gau’r ysgol wedi dod i law. Sicrhawyd bod y gwrthwynebiadau hyn wedi cael ystyriaeth.

 

Nodwyd bod ymgynghoriadau wedi cael eu cymryd gyda disgyblion a staff yr ysgol. Crynhowyd mai rhai o’u hystyriaethau oedd eu bod yn tristau, ofn colli ffrindiau, gofidio am ddyfodol yr adeilad a pheri am y cymorth bydd ar gael iddynt mewn ysgolion newydd. Er hyn, nodwyd hefyd ei bod yn falch o’r profiadau roedd yr ysgol wedi eu darparu iddynt a bod ymdeimlad o deulu clos o fewn yr ysgol a bod y disgyblion yn edrych ymlaen at greu ffrindiau newydd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r effaith gymunedol o gau’r ysgol. Manylwyd nad ystyrir effaith negyddol ar y gymuned os byddai’r ysgol yn cau oherwydd nad oes defnydd cymunedol i’r adeilad tu hwnt i’r defnydd addysgol. Eglurwyd mai dyma’r sefyllfa oherwydd bod y neuadd gymunedol wedi ei leoli drws nesaf i’r ysgol ac yn cael ei defnyddio’n rheolaidd. Cydnabuwyd bod y cylch meithrin lleol yn defnyddio’r ganolfan gymunedol hon ac mae posibilrwydd bydd cau’r ysgol yn effeithio’r cylch. Er hyn, adroddwyd bod ffigyrau’r plant sy’n mynd i’r cylch yn iach iawn ac nid yw hynny’n dilyn ymlaen i’r ysgol felly ystyrir na fyddai gormod o effaith ar y cylch meithrin.

 

Esboniwyd bod ystyriaeth benodol wedi cael ei roi ar y ganolfan gymunedol gan sicrhau bod Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn cydweithio gyda’r ganolfan i’r dyfodol yn ogystal â gwasanaethau Uned Blynyddoedd Cynnar y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i’r cylch meithrin.

 

Cyfeiriwyd at y posibilrwydd bod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi lleihau yn sgil adeiladu ffordd osgoi newydd yn yr ardal yn ddiweddar. Er hyn, adroddwyd bod ymchwiliadau i’r posibilrwydd wedi cael ei wneud ac ymddengys bod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi dechrau lleihau ers cyn i’r ffordd osgoi fod mewn bodolaeth.

 

Cydnabuwyd ei fod yn amseriad anffafriol i gyhoeddi bod Ysgol Bontnewydd yn cael adeilad newydd. Eglurwyd bod hyn tu hwnt i reolaeth y Cyngor oherwydd mai llwyddo mewn cystadleuaeth i ariannu ysgol newydd oedd y Cyngor wedi ei wneud yn yr achos yma ac roedd y canlyniadau wedi cael eu rhannu gan y trefnwyr.

 

Casglwyd mai’r opsiwn mwyaf priodol, er gwaethaf y 4 gwrthwynebiad byddai i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023 gyda’r disgyblion yn symud i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog ar 1 Ionawr 2024 ymlaen, yn unol â phenderfyniad y rhieni. Sicrhawyd bod cyrraedd y casgliad hwn wedi bod yn benderfyniad trist ac anodd iawn. Cadarnhawyd byddai’r Cyngor yn darparu cludiant i’r ysgolion perthnasol hynny i’r disgyblion. Eglurwyd byddai hyn yn gost o oddeutu £7,600 - £22,800 i’r Cyngor yn ddibynnol ar ddewisiadau’r rhieni.

 

Eglurwyd byddai’r penderfyniad hwn yn arwain at ddiswyddo staff. Er hyn, sicrhawyd bod trefniadau yn cael eu cytuno gydag undebau ac mae swyddogion yr adran yn cydweithio’n agos gydag adran Adnoddau Dynol y Cyngor.

 

Ychwanegwyd yr Aelod Lleol byddai cau’r ysgol yn ddigwyddiad trist iawn gan ei bod wedi gwasanaethu’r gymuned ers canrif a chwarter. Er hyn, derbyniodd mai dyna’r cam priodol i’w gymryd yn sgil niferoedd a rhagolygon yr ysgol. Manylwyd yr Aelod Lleol ar y pwyntiau canlynol:

·       Ei bod yn bwysig bod yr holl safbwyntiau a godwyd o fewn y cyfnod ymgynghoriad a gwrthwynebu yn cael eu parchu. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gofal i sicrhau mai dyma yw’r sefyllfa.

·       Ei fod yn bwysig i gynnal adolygiad o ddyfodol dalgylch Felinwnda.

·       Ei fod yn bwysig sicrhau bod ffocws yn cael ei roi ar ysgolion bychan er mwyn diogelu cymunedau gwledig a Chymreig wrth i’r Cyngor fynd ati i ymgynghori ar Strategaeth Addysg newydd yn y dyfodol.

·       Ei fod yn bwysig sicrhau bod cymorth strategol ar gael i ysgolion sy’n rhagdybio bydd niferoedd y disgyblion yn lleihau yn y dyfodol er mwyn i’r ysgolion cydweithio gyda’r Cyngor er mwyn cynyddu niferoedd.

 

Adroddwyd bod nifer o resymau yn effeithio ar y penderfyniad i gau’r ysgol a bod ansawdd yr addysg yn bwysig iawn o fewn hyn. Profir bod derbyn addysg mewn ysgol fwy gydag mwy o ddisgyblion o’r un oed ac oedrannau gwahanol yn gymorth i brofiad addysgol disgyblion. Cydnabuwyd hefyd bod gorfodaeth i edrych ar niferoedd ysgolion a chost y pen wrth ystyried cau ysgol.

 

Diolchwyd i bawb a gysylltwyd gyda’r swyddogion dros gyfnod yr ymgynghoriad statudol. Diolchwyd hefyd i’r Aelod Lleol, y staff a’r disgyblion sydd wedi bod yn cydweithio yn agos gyda’r adran Addysg dros y cyfnod ansicr diwethaf a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart: Pennaeth Cynorthwyol Addysg

Dogfennau ategol: