Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth a pharhau i gyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor Safonau mewn ffurf crynodebau heb fanylion penodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a fyddent yn dymuno i’r materion hyn gael eu trin fel eitem eithriedig yn y dyfodol, fel bod modd cyflwyno’r wybodaeth gyflawn a ddarperir gan yr Ombwdsmon i alluogi’r Pwyllgor i drafod yn fanylach oblygiadau’r penderfyniadau o safbwynt dehongli’r Cod Ymddygiad.

 

Nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod opsiwn o fynd yn gaeedig, ond nad oedd yn siŵr pa werth fyddai’n ychwanegu i’r Pwyllgor o gael y manylion ynglŷn â phwy yw’r unigolion a’r cynghorau dan sylw, ayb.

·         Bod y swyddogion yn ymwybodol o’r adroddiad gwreiddiol lle mae problem wedi codi, a phetai angen cysylltu, e.e. i drafod sefyllfa cynghorydd, gellid gwneud hynny.

·         Pe byddai yna batrwm yn codi, e.e. mewn cyngor penodol, y byddai’n ofalus ynglŷn â dod â hynny gerbron y Pwyllgor beth bynnag oherwydd y gallai achos yn ymwneud â’r cyngor hwnnw ymddangos gerbron gwrandawiad o’r Pwyllgor Safonau maes o law.

 

Gwahoddwyd sylwadau/cwestiynau gan yr aelodau.

 

Nodwyd bod geiriad achosion 202303259 & 202303399 yn amwys oherwydd y cyfeirir at y cynghorydd fel ‘ef’ yn y frawddeg gyntaf, ond fel ‘hi’ yn y frawddeg ganlynol.

 

Awgrymwyd nad oedd yr hyfforddiant wedi gwella dim ar y sefyllfa yng Nghyngor Tref Tywyn, lle mae mân achosion yn codi’n gyson.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod rhain yn gwynion sydd ddim yn mynd ymlaen i ymchwiliad, ac sy’n awgrymu, efallai, bod yr hyfforddiant wedi gweithio.

·         Nad oedd modd osgoi cwynion yn gyfan gwbl, ac o bosib’, nad oedd bodolaeth y cwynion yma yn yr adroddiad yn creu darlun mor ddu â hynny.

 

Nodwyd na ddeellid pam bod yr Ombwdsmon, ar ôl canfod bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, yn penderfynu nad oes angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.  Pryderid bod hynny’n gallu arwain at sefyllfaoedd gwaeth yn y dyfodol, ac awgrymwyd y dylai unrhyw achos, waeth pa mor fach, gael ei ymchwilio iddo os yw’r cynghorydd dan sylw wedi torri’r Cod yn flaenorol.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Nad oedd yn anghytuno â’r sylw, ond bod cynghori ar gwynion yn anodd ar yr adegau hynny pan fo cynghorydd yn amlwg wedi torri’r Cod, ond nad oes budd cyhoeddus, efallai, mewn cymryd camau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.

·         Bod yr Ombwdsmon a’i swyddogion hefyd yn wynebu tasg anodd yn cloriannu’r cwynion ac yn dod i gasgliad ynglŷn â pha rai sydd angen ymchwilio iddynt.

·         Bod Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon yn amlygu bod yna bwyslais mawr ar barch a chydraddoldeb, ac o bosib’ mai dyna’r achosion y mae’r Ombwdsmon fwyaf tebygol o ymchwilio iddynt, a hefyd fwyaf tebygol o gymryd camau yn y budd cyhoeddus.

 

Gan gyfeirio at achos 202201791, nodwyd bod awgrym gan yr Ombwdsmon nad oedd y cyngor a roddwyd gan y Clerc mor glir ag y gallai fod, a holwyd a oedd y swyddogion wedi nodi bod angen darparu hyfforddiant i’r Clerc ar hynny.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau fod hynny wedi’i nodi.  Nododd yn ogystal bod achosion o’r fath yn gallu bod yn ddefnyddiol i’r swyddogion o ran paratoi hyfforddiant gan ei fod yn amlygu’r hyn sy’n digwydd ar lawr daear a lle mae’r gwendidau.

 

Nodwyd bod y gwaith ymchwil a gwblhawyd y llynedd gyda detholiad o glercod cynghorau tref a chymuned parthed y Fframwaith Safonau Moesegol wedi amlygu mai ychydig iawn ohonynt sydd â chymhwyster penodol i fod yn cynghori.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro bod rôl y clerc yn cyfateb i Brif Weithredwr o ran ystod y dyletswyddau, os nad eu maint, a bod yna heriau yn gallu codi ynglŷn â’r swydd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a pharhau i gyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor Safonau mewn ffurf crynodebau heb fanylion penodol.

 

Dogfennau ategol: