Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn adroddiad cynnydd ar ymateb i’r argymhellion mewn 9 mis.

 

Cofnod:

 

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a swyddogion yr Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod.

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn cyflwyno adroddiad Estyn o wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd ac yn gofyn i’r pwyllgor ddarparu sylwadau ar gynnwys yr adroddiad ac ystyried unrhyw drefniadau i graffu ar gynnydd yn erbyn argymhellion yr adroddiad yn amserol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r Adran Addysg a GwE am eu gwaith trylwyr yn cefnogi’r ysgolion ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol sydd wedi dilyn Cofid.  Talodd deyrnged hefyd i waith athrawon a staff yr ysgolion, ac i’r plant a’r bobl ifanc am eu holl ymdrechion er gwaetha’r pandemig a’i sgil-effeithiau dwys.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn un cryf iawn a diolchwyd i swyddogion yr Awdurdod ac i swyddogion GwE am eu holl gefnogaeth.

 

Holwyd sut y bwriadai’r Awdurdod weithredu ar argymhellion Estyn o ran gwella trefniadau monitro, gwerthuso a hyrwyddo presenoldeb disgyblion a chryfhau’r ddarpariaeth i ymateb i anghenion disgyblion â chanddynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a sicrhau trefniadau monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth honno.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gostyngiad ym mhresenoldeb disgyblion yn duedd a welir yn genedlaethol.

·         Y defnyddiwyd grant sy’n cyd-fynd â’r maes yma i benodi 3 swyddog yn y Tîm Lles i edrych ar absenoldebau parhaus, absenoldebau mwy aml neu anawsterau sylweddol presenoli yn yr ysgol, gan ryddhau’r swyddogion lles arferol sydd ynghlwm ag ysgolion i dargedu absenoldebau fel cymryd gwyliau yn ystod tymor ysgol neu fethu’r un diwrnod dros gyfnod o amser ynghyd ag edrych ar y codau mae’r ysgolion yn defnyddio o ran y cofrestrau.

·         Bod adroddiadau manwl yn cael eu darparu o ran presenoldeb yn fisol, a bod yna ddata wythnosol hefyd sy’n edrych ar y tueddiadau, yn targedu ysgolion penodol ac yn gweithio gyda theuluoedd mewn ymgais i gynyddu presenoldeb.

·         Bod presenoldeb yn ddyletswydd ar bawb, ac nid y swyddogion lles yn unig, a bwriedid cynnal ymgyrch presenoldeb dros y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd bod yn bresennol yn yr ysgol yn rheolaidd a sut mae peidio bod yn bresennol yn cael effaith ar ddeilliannau’r ysgol a’r disgyblion.

·         O ran cynhwysiad, y byddai Mrs Caroline Rees, oedd wedi llunio adroddiad ar y gwasanaeth yn 2019-20, yn cynnal arolwg arall ym mis Rhagfyr, yn benodol ar gynhwysiad, ac yn cyflwyno argymhellion o ran sut i gryfhau’r ddarpariaeth.

·         Bod yna gamau wedi’u rhoi ar waith eisoes o ran cryfhau prosesau monitro o amgylch yr hybiau uwchradd, ayb.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cydnabod bod yr adnoddau amlgyfrwng a ddefnyddir yn y canolfannau trochi i atgyfnerthu patrymau iaith a geirfa yn werthfawr a holwyd a oedd yna ymdrech ragweithiol Cymru gyfan i’w hyrwyddo a’u lledaenu.  Mewn ymateb, nodwyd bod hynny’n sicr yn rhywbeth i feddwl amdano.

 

Nodwyd bod sylw wedi’i wneud yn Adroddiad Archwilio Cymru nad oedd y pwyllgorau craffu yn craffu eitemau/prosiectau yng Nghynllun y Cyngor, ond credid bod hynny wedi newid eleni, a gobeithid y byddai’r pwyllgor yn ateb yr argymhelliad yna wrth symud ymlaen.

 

Nodwyd na ddeellid sut bod rhai ysgolion angen mwy o ymyrraeth neu gymorth, a hwythau eisoes yn derbyn cefnogaeth gan GwE, a holwyd a oedd yna rywbeth y gellid ei wneud drwy GwE i sicrhau nad ydym byth yn dod i’r sefyllfa yna.  Mewn ymateb, nodwyd:

·         Bod pob ysgol yn derbyn cefnogaeth ddwys gan y Gwasanaeth Cefnogi Ysgolion, ond yn aml iawn, bod yna amgylchiadau lle mae’r heriau y tu allan i reolaeth yr Awdurdod a GwE.

·         Bod y sefyllfaoedd hynny’n aml iawn yn codi o broblemau adnoddau dynol ac yn benodol perfformiad unigolion.  Yn yr achosion hynny, mae GwE yn darparu cymorth i’r penaethiaid lle’n briodol.

·         Na ellir byth gyrraedd sefyllfa lle nad oes yr un ysgol angen cefnogaeth nac ychwaith warantu na fydd unrhyw ysgol yn mynd i mewn i gefnogaeth ddwys.

·         Bod GwE yn cefnogi’r ysgolion ac yn adnabod unrhyw wendidau, ac yn rhoi’r amser a’r gefnogaeth i mewn yn amserol i lenwi’r bwlch.

 

Nodwyd bod adroddiad Estyn yn nodi bod yr ymyrraeth i ysgolion sy’n peri pryder yn effeithiol, ond ddim bob amser yn amserol, a holwyd a oedd yna gamau y gellid eu cymryd i’r dyfodol yn hynny o beth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod ymateb i heriau ysgolion yn aml-ddimensiwn a bod yr her ei hun yn gallu dod o gyfeiriadau gwahanol, boed hynny’n adnoddau dynol, cyllidol, eiddo neu unrhyw beth arall sy’n cyfrannu at lwyddiant ysgol.

·         Y credid bod yr adroddiad yn cyfarch y camau sydd wedi’u cymryd dros y tymhorau diwethaf i finiogi’r drefn o gefnogi ysgolion drwy adnabod yr ysgolion yn llawer gwell nag yn y gorffennol, cael trafodaeth agored gyda hwy o ran y meysydd sydd angen sylw a rhoi cefnogaeth gadarn mewn lle ar gyfer ceisio gwneud popeth i osgoi i ysgol gyrraedd pwynt o gael dyfarniad llai ffafriol gan Estyn.

·         Na chredid bod modd i’r Awdurdod na GwE, hyd yn oed yn gweithio gyda’i gilydd yn y dull mwyaf effeithiol, roi gwarant na fyddai yna ysgol, mewn un ffordd neu’r llall, yn cyrraedd sefyllfa lle mae’r farn derfynol yna’n anffafriol, ond ar adegau bod barn Estyn ar ysgol yn gallu helpu’r ysgol honno i symud ymlaen hefyd.

 

Cyfeiriwyd at hyfforddiant diweddar a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Arfon ar Anhwylder y Sbecrwm Awtistiaeth a holwyd a oedd bwriad i gynnig yr hyfforddiant hwnnw i holl staff yr ysgolion.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gan yr Adran dîm eithaf mawr sy’n targedu’r maes yma’n benodol ar gyfer cynnig hyfforddiant ysgol gyfan lle mae modd i’r staff weithio tuag at safon benodol o ran Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth, a bod yna webinarau ar gael i’r ysgolion hefyd.

·         Petai yna blentyn yn hysbys i’r tîm, bod hyfforddiant yn cael ei gynnig ar gyfer staff yr ysgol dan sylw.

 

Holwyd a fu unrhyw ddatblygiad o ran penodi mwy o seicolegwyr addysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna anawsterau staffio sylweddol yn y gwasanaeth, a bod yr Aelod Cabinet a’r Prif Weithredwr wedi anfon llythyr o bryder at Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r dull hyfforddi, sy’n dal heb newid.

·         Y darperir yr hyfforddiant craidd yng Nghaerdydd a’i bod yn anodd hyrwyddo pobl leol i fynd ar yr hyfforddiant.

·         Bod y Cyngor yn cyflogi seicolegwyr cynorthwyol i weithio gyda’r tîm yn y gobaith y byddai’r gweithwyr hynny yn ymgeisio am le ar y cwrs maes o law.

·         Yr arbrofwyd gyda gwahanol ddulliau o weithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dilyn y cyfnod clo, gan ddod ag ysgolion at ei gilydd i drafod hefo seicolegydd, ac er mai cymysg fu’r ymateb i’r model hwn o weithio, roedd y model wedi esblygu eto i geisio ymgorffori mwy o ymweliadau ysgol.

 

Croesawyd y ffaith bod yr adroddiad yn canmol y Cyngor am sicrhau parhad yr hybiau wedi i arian Ewrop ddod i ben, a phwysleisiwyd pwysigrwydd amddiffyn yr arian yma yn ystod y cyfnod heriol sy’n ein hwynebu.  Er hynny, mynegwyd peth pryder bod yr adroddiad yn nodi bod yna amrywiaeth o fewn y ddarpariaeth ac nad oedd yna gyswllt digonol rhwng yr hybiau a swyddogion yr adran.  Holwyd a fyddai yna waith yn cael ei wneud i adnabod lle sydd angen gwella, a beth fyddai’n digwydd er mwyn gwella’r cyswllt hefo’r adran.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y cryfhawyd yr elfen Swyddogion Ansawdd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad a threfnwyd llawer mwy o gyswllt rhwng y swyddogion a’r hybiau, gydag un swyddog yn gweithio gyda’r hwb ym Meirion Dwyfor a swyddog arall yn gweithio gyda’r hwb yn Arfon.

·         Bod yr Adran yn edrych ar ymestyn aelodaeth y Bwrdd Rheoli Hybiau i gynnwys mewnbwn gan benaethiaid eraill.

·         Yn sgil derbyn argymhellion o ran gwella pellach gan Caroline Rees, yr arbenigwr allanol, y gobeithid y byddai yna gynllun gweithredu mewn lle erbyn mis Ionawr o ran cryfhau’r ddarpariaeth.

·         Bod y Gwasanaeth hefyd yn edrych ar wella’r gofod a ddefnyddir ar gyfer yr hybiau, ynghyd â pherchnogaeth y bobl ifanc ohonynt.

 

Cyfeiriwyd at y newid sylweddol yn ymddygiad disgyblion ers y cyfnod clo a holwyd a oedd yr amrywiaeth o ran yr hyn sy’n cael ei gynnal a’r adnoddau, ac ati, yn arwydd o hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr her ar yr ochr cynhwysiad yn sylweddol o ran gwaharddiadau a’r heriau sy’n wynebu ysgolion o ran hynny, ac y byddai Caroline Rees, yr arbenigwr allanol, yn edrych ar y ddarpariaeth yn yr ysgolion hefyd o ran y defnydd o’r cyllid cynhwysiad mae’r sector uwchradd yn ei dderbyn a’r map darpariaeth sydd gennym fel sir.

·         Y byddai’r Cyngor yn derbyn swm o arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer comisiynu darparwyr yn yr ysgolion i ymestyn y cwricwlwm sydd ar gael i rai ag anawsterau ymddygiadol, gan nad oedd y dulliau traddodiadol yn gweithio i lawer o’r dysgwyr yma.

·         Yn dilyn y cyfnod grant, gellid gweld beth sydd wedi gweithio, ac efallai bod angen ffurfio cynllun gweithredu ar gyfer y tymor hir yn y maes yma.

 

Nodwyd bod adroddiad Estyn yn ganmoliaethus iawn o’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngwynedd, e.e. yn canmol y ffaith bod gennym 6 canolfan drochi arbenigol a bod yna nifer uchel yn gwneud eu pynciau TGAU drwy’r Gymraeg, ond ffactorau sydd wedi bodoli ers peth amser yw hynny.  Teimlid bod yr adroddiad yn un arwynebol, e.e. nid oedd yn ystyried os oedd cwymp wedi bod yn y nifer sy’n gwneud pynciau TGAU yn ôl y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg (CSGA), er bod hynny’n wir.  Credid bod Estyn yn edrych ar Wynedd o gymharu â siroedd eraill yng Nghymru, ac yn gweld Gwynedd yn llwyddiant ysgubol, ond roedd perygl i ni fod yn hunan-foddhaus gyda hynny.  Nodwyd y byddai’n dda o beth petai gan Estyn ddisgwyliadau uwch o Wynedd, ac yn edrych yn fwy treiddgar ar y ddarpariaeth Gymraeg yn y sir.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y gellid sicrhau’r aelod nad oedd yr Adran Addysg yn gorffwys ar ei rhwyfau.

·         Bod yr Adran yn edrych ar flaenoriaethau’r CSGA er mwyn cynyddu a grymuso’r ddarpariaeth Gymraeg, grymuso’r trefniadau pontio yng nghyd-destun ieithyddol a cheisio grymuso’r ddarpariaeth a’r addysg ddwyieithog yn y sector cynradd ac yn y sector uwchradd a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Bod yr Adran hefyd wedi ymrwymo i adolygu a chyfoesi’r Polisi Iaith Addysg.

·         Y derbynnid bod yr adroddiad yn ganmoliaethus, ac er na fu’r arolygwyr ymhob ysgol, bod pob ysgol yn cael ei harolygu gan Estyn, ac felly bod yna adolygiad manwl, dwys a thrylwyr yn digwydd i bob ysgol o fewn cylch 6 mlynedd.

·         Bod yr arolygwyr wedi mynychu dwy ganolfan drochi.  Nid ymarferiad papur mohono, eithr ymarferiad lle roedd yr arolygwyr yn arsylwi gwersi ac yn treulio diwrnod rhwng y ddwy ganolfan.

·         Bod yna ragor o waith i’w wneud ac y dymunai’r Gwasanaeth rymuso a gwella ymhellach fel y gall fod yn arfer sy’n cael ei ledaenu’n genedlaethol.

 

Nodwyd bod gan y Cyngor lai o athrawon trochi nag yn y gorffennol, gan mai 1 athro sydd i bob canolfan bellach yn hytrach na 2, a holwyd a oedd yr Adran Addysg yn cadw cofrestr o athrawon sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y maes trochi, gan y byddai cofrestr o’r fath yn gam ymlaen tuag at feithrin tîm o bobl sy’n meddu ar y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r gwaith.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod 6 o athrawon trochi o fewn y gyfundrefn addysg drochi ar hyn o bryd, a’u bod, fel pob athro/athrawes arall, yn meddu ar gymhwyster a thystysgrif dysgu.

·         Nad oedd yna gymhwyster fel y cyfryw ar gyfer trochi a bod y rhain yn athrawon sydd wedi dysgu eu crefft o fod yn cydweithio gydag athrawon profiadol eraill.

·         Bod yr athrawon trochi yn aelodau o rwydwaith trochi cenedlaethol ac yn mynychu cyfarfodydd a chynadleddau i rannu arferion da, a hefyd yn ceisio mynychu hyfforddiannau er mwyn grymuso a diweddaru eu crefft.

·         Bod yr athrawon trochi hefyd yn treulio llawer iawn o amser yn edrych ar astudiaethau a gwaith ymchwil yn y maes trochi, sy’n eithriadol o brin.

·         Ein bod, fel cyfundrefn, wedi bod yn gwneud ein gwaith ymchwil ein hunain ac wedi cyflwyno 6 o weminarau hyfforddi athrawon ar draws y sir, sydd wedi’u cydnabod fel arfer da.

·         Y ceisid hyfforddi staff yr ysgolion hefyd gan fod trochi yn faes sy’n berthnasol i bob ysgol fwy neu lai bellach, gan rannu’r egwyddorion trochi sydd wedi’u hadnabod gan Estyn gyda hwy.

 

Holwyd a oedd gan yr Adran Addysg gofrestr o athrawon trochi cymwys a phrofiadol wrth gefn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gyfundrefn drochi, fel pob ysgol gynradd, yn ddibynnol ar y pwll o athrawon cyflenwi, ac nad oedd gan yr Adran y cyllid i gael athrawon cyflenwi penodol ar gyfer yr unedau trochi.

·         Er hynny, bod yna grŵp o athrawon, o leiaf 1 i bob canolfan, sydd wedi’u hadnabod fel ymarferwyr sy’n gyfarwydd iawn â’r dulliau a’r egwyddorion trochi ac wedi bod yn yr unedau, a bod modd cysylltu â hwy yn uniongyrchol.

·         Pe na fyddai’r unigolion hynny ar gael, byddai’n rhaid wedyn mynd ar ofyn yr athrawon llai profiadol yn y maes trochi, a byddai hynny’n gyfle i’r athrawon hynny feithrin profiad ac arbenigedd fel eu bod hwythau, yn eu tro, yn dechrau dod i arfer hefo’r dulliau a’r egwyddorion trochi.

 

Mynegwyd siomedigaeth bod yr holiadur agored cyn yr arolygiad wedi cau’n gynnar ac na fu modd i aelodau gynnig sylwadau ar y dyddiad cau.  Holwyd faint o benaethiaid a llywodraethwyr fu’n rhan o’r trafodaethau gydag Estyn yn ystod yr ymweliad rhagarweiniol a hefyd faint o aelodau’r pwyllgor hwn oedd wedi cyfarfod Estyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai’r sylw bod yr holiadur agored wedi cau’n gynnar yn cael ei basio yn ôl i Arolygydd Cyswllt Estyn.

·         Bod arolygwyr Estyn yn gofyn am weld nifer penodol o benaethiaid sy’n cynrychioli’r ystod o ran sectorau gwahanol a maint ysgolion, a chredid bod GwE wedi bod yn rhan o’r ymweliad rhagarweiniol hefyd.

·         Mai’r Cynghorydd Beth Lawton, fel cyn-gadeirydd y pwyllgor hwn, oedd wedi cyfarfod arolygwyr Estyn.

 

Holwyd ar ba sail roedd Estyn yn honni bod y cynllunio ar y cyd rhwng y Cabinet a phwyllgorau craffu i gydlynu rhaglenni gwaith sy’n cefnogi penderfyniadau yn gwella.  Holwyd hefyd ar ba sail yr honnid mai cyfyng ar hyn o bryd yw ystyriaeth y pwyllgor craffu o waith y prosiectau o fewn Cynllun y Cyngor.  Nodwyd na anghytunid â’r sylw a’i fod yn ategu’r hyn mae nifer o aelodau’r pwyllgor craffu yn ofyn yn gyson, sef pa wahaniaeth mae’r craffu yn ei wneud?  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         O ran gwella’r cydlynu rhwng y Cabinet a chraffu, y bu symudiad i gadarnhau rhaglen Cabinet fwy llawn o ran yr eitemau sydd i ddod, a bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor craffu yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r pennaeth a’r aelod cabinet perthnasol i adnabod materion sydd angen eu craffu.

·         Bod yr aelodau yn blaenoriaethu eitemau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y gweithdai craffu a bod nifer o’r eitemau ar flaen raglen 2023-24 yn dod o Gynllun y Cyngor.

·         Bod effaith craffu yn rhywbeth i edrych arno fel rhan o’r adolygiad craffu sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

Nodwyd bod y frawddeg yn adroddiad Estyn ‘Mae ysgolion yn darparu llawer o bynciau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae llawer iawn o ddisgyblion yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg iaith gyntaf’ yn sylw hollol amwys a di-sail sydd heb ei gyfiawnhau.  Mewn ymateb, nodwyd bod gan Estyn ganllaw ysgrifennu lle mae’r termau a ddefnyddir ar draws eu hadolygiadau yn cyfateb i ganrannau penodol, a bod ‘llawer’ a ‘llawer iawn’ yn gyfystyr â 80%+ neu 90%.

 

Holwyd beth oedd y bwriad o ran symud ymlaen gyda’r Prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y gellid dehongli bod yna ryw gymaint o arafwch, neu oedi, wedi bod hefo’r prosiect, ac efallai bod elfen ohono, o leiaf, yn adlewyrchu cymhlethodod y maes, ynghyd â’r ffaith ein bod wedi cael pandemig yng nghanol y cyfnod yma a sawl etholiad cenedlaethol a lleol hefyd.

·         Y cyflwynwyd adroddiad ar addysg ôl-16 i’r Cabinet ym mis Mawrth eleni yn gofyn am ganiatâd i wneud gwaith pellach gyda rhanddeiliaid allweddol addysg ôl-16 yn Arfon. 

·         Y cynhaliwyd gweithdai gyda’r penaethiaid dros yr haf, gan adrodd yn ôl iddynt ar gasgliadau’r gweithdai hynny ddechrau Medi.

·         Y gobeithid rhoi diweddariad pellach i’r Cabinet cyn y Nadolig, ac roedd yr eitem wedi’i rhaglennu ar gyfer cyfarfod Ionawr o’r pwyllgor hwn.

 

Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried pryd fyddai’n amserol i graffu ar gynnydd yn erbyn argymhellion adroddiad Estyn.  Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach ymhen 9 mis sy’n caniatáu cyfnod digonol o amser i roi’r argymhellion ar waith ac i baratoi adroddiad cynhwysfawr o ran cynnydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn adroddiad cynnydd ar ymateb i’r argymhellion mewn 9 mis.

 

Dogfennau ategol: